Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg a Chadwraeth

Dehongli, cyflwyno a gwarchod ein treftadaeth i’r dyfodol.

Rydym yn cael ein sbarduno gan yr heriau o ddarganfod, archwilio, cyflwyno a gwarchod ein treftadaeth er budd cenedlaethau heddiw a fory. Ein hymrwymiad yw gwneud archaeoleg yn berthnasol i’r heriau amgylcheddol a chymdeithasol mawr sydd ohoni, gan gyflawni prosiectau sy’n mynd i’r afael â gwarchod treftadaeth, newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldebau cymdeithasol.

Dathlodd Archaeoleg a Chadwraeth eu canmlwyddiant yn 2020, ac maent wedi datblygu enw da ar lefel ryngwladol am ragoriaeth mewn datblygu a chymhwyso arferion archeolegol a chadwraeth, gyda’r cyfan yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu gyda chymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang amrywiol.

Ers yr adolygiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014, rydym wedi llunio cyfanswm o 350 o gyhoeddiadau. Barnwyd bod 90% o'r cyhoeddiadau y bu i ni eu cyflwyno i'r REF2021 yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys testunau damcaniaethol sy’n herio natur dealltwriaeth archeolegol, datganiadau methodolegol sy’n gwella’r gwaith o warchod y cofnod archeolegol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac adroddiadau cloddio mawr sy’n ehangu ein dealltwriaeth o’r gorffennol.

Drwy gofleidio heriau a dod o hyd i gyfeiriadau newydd, edrychwn ymlaen at fod yn rhan o’r newid yn ein disgyblaethau dros y 100 mlynedd nesaf.

Cryfderau

Ein tri phrif gryfder yw Llwybrau Bywyd Dynol ac Anifeiliaid, y Byd Materol a Gwyddorau ac Arferion Treftadaeth.

Llwybrau Bywyd Dynol ac Anifeiliaid

Mae ein dull o ddeall y rhyng-gysylltiadau rhwng pobl, anifeiliaid a thirweddau’r gorffennol yn un integredig. Nodweddir ymchwil gan gydweithrediadau rhwng gwyddonwyr archeolegol ac archeolegwyr, ac mae’n siapio ein dealltwriaeth o effaith ddietegol newidiadau diwylliannol ac yn cynnig cipolwg newydd ar fwyd, gwledda, symudiad a thiriogaethedd.

Mae ein hymchwil yn ymateb i agendâu ymchwil sy’n dod i’r amlwg, gan lywio datblygiadau rhyngddisgyblaethol a methodolegol i chwalu rhwystrau deongliadol mewn gwyddorau archeolegol integredig.

Y Byd Materol

Mae’r byd materol wrth wraidd ymchwil sy’n ychwanegu at ac yn trawsnewid ein dealltwriaeth o fywyd ar raddfeydd gwahanol a’r berthynas rhwng y ddynol-ryw, arteffactau, lle ac amser. O astudiaethau ar fywyd cartref/teuluol sy’n datgelu’r amrywiaeth o brofiadau byw o’r gorffennol ac yn herio’r cysyniadau blaenllaw o hunaniaeth, gwladychu a masnacholi i waith maes ar y raddfa goffaol.

Rydym yn datblygu persbectifau cymharol newydd ar y berthynas rhwng cofebion a bywyd cymdeithasol a mewnwelediadau ffres i ddiwylliant materol cludadwy fel technoleg gwydr yn yr Aifft, cerameg yng Ngwlad Groeg, a gwaith cyrn ac esgyrn yn yr Alban Atlantig.

Gwyddorau ac Arferion Treftadaeth

Mae’r ffocws ar wyddorau deunyddiau ac arferion cadwraeth, cyflwyno treftadaeth, rheolaeth ac ymgysylltiad yn caniatáu i’n hymchwil lywio arferion treftadaeth yn uniongyrchol. Mae ein galluoedd dadansoddol, sy’n ehangu’n barhaus, yn cynnwys dadansoddi cyfansoddiadol, microsgopeg optig ac electron, efelychu hinsoddol a delweddu digidol.

Gan weithio gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr, llywodraethau cenedlaethol a chyrff treftadaeth, rydym yn datblygu canllawiau a dulliau gweithredu newydd ar gyfer gwarchod ac arddangos deunyddiau treftadaeth, i fireinio ymchwil a rheolaeth treftadaeth a datblygu dulliau newydd o ymgysylltu.

Hyrwyddo ymgysylltu a chenhadaeth ddinesig

Mae ein hymchwil yn gatalydd i’n cenhadaeth ddinesig ac ymgysylltu, gydag effaith bellgyrhaeddol. Dyma rai o’r uchafbwyntiau o blith ein prosiectau: