Effaith ymchwil yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Rydym yn ymchwilio i, ac yn rhannu angerdd am gymdeithasau a chredoau crefyddol y gorffennol, o'r cyfnod cynhanes hyd heddiw, mewn ffordd sy'n effeithio ar academia, addysgwyr, sefydliadau treftadaeth, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi'r llywodraeth, a'r cyhoedd.
Rydym yn credu mewn cryfhau cysylltiadau hirhoedlog â'r buddiolwyr allanol hyn. Rydym yn gwneud hyn drwy ystod eang o weithgareddau gan gynnwys:
- trosglwyddo gwybodaeth
- ysgrifennu poblogaidd
- ennyn ymatebion artistig
- cyfraniadau at gyfryngau rhanbarthol a chenedlaethol
- darparu gwasanaethau proffesiynol
- helpu drwy ddatblygu polisïau
Uchafbwyntiau'r effaith
Rhoi gwybod i Fwslimiaid am roi organau

Rhoi gwybod i Fwslimiaid am roi organau
Mae Dr Mansur Ali yn helpu cyd-Fwslimiaid i archwilio agwedd eu ffydd at y gweithdrefnau achub bywyd hyn.
Nid yw Dr Mansur Ali yn ddieithr i gampau anhygoel gwyddoniaeth fodern. Fel plentyn blwydd oed, syrthiodd i ddŵr berwedig gan arwain at losg trydedd radd ar ei gefn. Dywedodd meddygon wrth ei rieni am baratoi ar gyfer y gwaethaf.
Ond diolch i weithdrefnau meddygol blaengar sy'n cynnwys cymryd croen o ran arall o'i gorff a'i impio ar ei gefn yn ogystal â gofal meddygol astud, fe dynnodd drwodd.
Dri degawd yn ddiweddarach, fel ysgolhaig, mae'n ceisio rhoi eglurder i Fwslimiaid Prydain ar yr hyn y mae eu ffydd yn ei ddweud am ddatblygiad enfawr arall mewn meddygaeth - rhoi organau.
Newidiodd y ddeddfwriaeth am roi organau yng Nghymru yn 2015. Dilynodd Lloegr a'r Alban eu hesiampl yn 2020 a 2021 yn y drefn honno. Mae'r cyfreithiau newydd yn rhoi pwyslais ar gydsyniad tybiedig sy'n golygu bod yn rhaid i berson optio allan yn hytrach nag optio i mewn i'r cynllun rhoi organau. Gwnaed hyn mewn ymgais i gynyddu nifer y gweithdrefnau trawsblannu sy'n achub bywydau y gellir eu cyflawni.
Mae prinder rhoddwyr organau cofrestredig hefyd o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn y DU, sy'n golygu bod y rhai sydd â'r un ethnigrwydd y mae angen organ arnynt yn llai tebygol o ddod o hyd i gyfatebiaeth gydnaws.
Felly pan ddechreuodd cyd-Fwslimiaid gysylltu â Dr Ali, academydd o Brifysgol Caerdydd sydd hefyd yn Imam cymwysedig, neu'n arweinydd cymunedol, am y newidiadau i'r gyfraith, penderfynodd ymchwilio i safbwynt ei ffydd ynghylch y pwnc hynod emosiynol hwn.
Mae’n esbonio: “Pan ddaeth y polisi 'optio allan' yn gyfraith yng Nghymru, roedd fy ffôn yn seinio’n ddi-baid â negeseuon testun ac ebyst gan bobl bryderus yn gofyn pob math o gwestiynau am roi organau. Gofynnwyd pethau fel, ‘A ganiateir rhoi organau yn Islam?’, ‘A fydd fy enaid yn mynd i'r nefoedd os yw fy organau wedi'u rhoi?’, ‘Beth os yw'r person sydd ag un o'm horganau yn cyflawni pechod?’, ‘A fyddaf yn cael fy atgyfodi heb organau?’ ac ‘A fydd fy organau'n eiddo i'r Llywodraeth yn awr mae'r gyfraith wedi dod i rym?’”
“Sylweddolais er fy lles fy hun yn ogystal ag i'm cymuned, roeddwn am astudio hyn yn fanylach. Fel rhywun sy’n hynod ddiolchgar am sgiliau meddygon ers iddynt achub fy mywyd, roeddwn am sicrhau bod cyd-Fwslimiaid yn gallu deall yn llawn oblygiadau rhoi organau.”
Mae chwilfrydedd Dr Ali a’i syched am wybodaeth yn ymestyn yn ôl i'w blentyndod. Yn 11 oed, daeth yn breswylydd yn gyntaf mewn Coleg Diwinyddol yn Birmingham ac yn ddiweddarach yn Ramsbottom, Manceinion Fwyaf, gan ganolbwyntio ar astudiaethau Islamaidd clasurol ac Arabeg ochr yn ochr â phynciau'r cwricwlwm cenedlaethol.
Ddegawd yn ddiweddarach, cymhwysodd fel Imam, arweinydd uchel ei barch o fewn y gymuned Fwslimaidd a all roi cyngor ac arweiniad ar unrhyw fater sy'n ymwneud â'u ffydd. Y llwybr arferol oddi yno fyddai gweithio mewn mosg ac o fewn y gymuned.
“Roeddwn bob amser yn darllen o oedran ifanc,” meddai Dr Ali, a gafodd ei fagu yn Oldham, Manceinion Fwyaf. "Ro'n i wrth fy modd gyda'r Hobbit ac wedi darllen y clasuron i gyd yn gynnar iawn. Ond pan gefais fy anfon i'r ysgol breswyl, fy nealltwriaeth i o Islam oedd fy unig ffocws. Daeth addysg yn bopeth i mi.
“Pan raddiodd 10 mlynedd yn ddiweddarach, meddyliais, 'Rwyf am ddilyn yr astudiaethau hyn i'r brig'.”
Adeiladodd Dr Ali ar y sylfeini hyn ac astudiodd radd israddedig ym Mhrifysgol fawreddog Al-Azhar yn Cairo, yr Aifft. Daeth yn ôl i gartref y teulu i wneud ei waith ôl-raddedig yn Astudiaethau’r Dwyrain Canol (astudiaethau Hadith) ym Mhrifysgol Manceinion.
Aeth ymlaen wedyn i fod yn gaplan Mwslimaidd yng Ngharchar Diogelwch Uchel Ashworth, cyn cael swydd ymchwil yng Nghanolfan Astudio Islam yn y DU, Prifysgol Caerdydd.
“Dwi'n dod o deulu mawr estynedig a dwi'n un o'r ieuengaf. Roeddwn i'n lwcus o allu canolbwyntio ar fy ngwaith academaidd heb orfod poeni am gyllid,” meddai. “Cefais gyllid ysgoloriaeth ar gyfer fy ngradd Meistr a PhD ym Mhrifysgol Manceinion.
“Mae fy nghefndir a'm profiad yn golygu fy mod mewn sefyllfa dda i archwilio materion sy'n ymwneud â'r ffydd Fwslimaidd. Rwyf wedi hyfforddi fel Imam felly mae gen i brofiad o waith ar lawr gwlad ac mae gen i gysylltiadau cryf â'r gymuned Fwslemaidd. Ond fel academydd, rwyf hefyd yn gallu darparu persbectif gwahanol a chynnig safbwynt annibynnol, ysgolheigaidd. Mae gen i'r rhyddid i holi a stilio.”
Ychwanega: “Wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen, mae fy syniad am fy rôl wedi datblygu ac esblygu. Mae'n ymwneud â darparu deialog, o fewn y gymuned Fwslimaidd ond hefyd gyda phobl o grefyddau eraill a dim ffydd yn byw ym Mhrydain. Yn y pen draw, rydym i gyd yn aelodau o gymdeithas Prydain.
“Fel rhywun sydd wedi tyfu i fyny yn y DU ac sy'n galw Caerdydd yn gartref i mi, rwy'n gweld fy rôl fel bwydo i mewn i sgwrs am sut mae Mwslimiaid yn cydfodoli ym Mhrydain mewn ffordd lle mae pobl y tu allan i'r ffydd yn deall ein safbwyntiau ac rydym yn deall eu rhai nhw.”
Pan ddechreuodd ymchwilio i fater rhoi organau a'r hyn y mae'n ei olygu o fewn y ffydd Fwslimaidd, trodd Dr Ali yn gyntaf at fatwas. Mae fatwa yn farn grefyddol foesol, ond nid yn gyfreithiol, awdurdodol gan berson sydd wedi'i hyfforddi mewn cyfraith Islamaidd (mwffti).
Cyn ei ymchwil, comisiynwyd tri fatwa am roi organau yn y DU ym 1995, 2000 a 2004. Er ei bod yn ymddangos bod y tri yn cytuno'n fras ag agwedd ganiataol tuag at roi organau, dadleuodd Dr Ali nad ydynt yn trafod safbwyntiau anghytûn nac yn rhoi cyfiawnhad diwinyddol a ysgrythurol clir am eu casgliadau, nac yn rhoi arweiniad clir. Yna estynnodd ei ddadansoddiad o'r fatwas hyn i astudio'r holl fatwas perthnasol yn Saesneg, Arabeg ac Urdu y tu allan i'r DU – cyfanswm o fwy na 100.
“Roedd yn ymgymeriad enfawr, ond roedd y goblygiadau yn y fantol hefyd,” meddai Dr Ali.
Yn y DU, mae cyfran uchel o bobl o gefndiroedd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn datblygu pwysedd gwaed uchel, diabetes a mathau penodol o hepatitis, sy'n cynyddu eu siawns o fod angen trawsblaniad.
Mae'r organ roddedig orau yn debygol o ddod o gefndir ethnig cyffredin, felly mae'r prinder o roddwyr organau o'r grwpiau hyn yn lleihau'r siawns y caiff organ roddedig ei thrawsblannu’n llwyddiannus. Yn 2015/16, roedd pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn cynnwys bron i 30% (1,836) o'r rhestr aros, ond dim ond 5% (67) o roddwyr ymadawedig. Mae hyn yn golygu eu bod yn aml yn aros yn llawer hirach am drawsblaniad, gan arwain at fwy o risg o farwolaeth.
Yn ogystal ag astudio'r safbwyntiau ysgrifenedig hyn ar roi organau, estynnodd Dr Ali ei ymchwil hefyd i gyfweliadau ag ysgolheigion Mwslimaidd i gael eu dehongliad o'r fatwas mewn cyd-destun Islamaidd Prydeinig modern.
Daeth ei ymchwil i'r casgliad bod cyfiawnhad diwinyddol o blaid ac yn erbyn rhoi organau, ac o ystyried bod modd cyfiawnhau unrhyw un o'r safbwyntiau hyn yn ddiwinyddol i Fwslimiaid eu mabwysiadu, dylid caniatáu i Fwslimiaid Prydain wneud dewis personol.
“Mae hwn yn fater anodd gan nad yw pobl am feddwl am eu marwolaeth eu hunain,” meddai Dr Ali.
“Nid fy lle i nac unrhyw un arall yw dweud beth yw'r llwybr cywir i'w gymryd yn y sefyllfa hon. Fy nod drwy gydol y broses hon oedd sicrhau fy mod yn caniatáu i Fwslimiaid wneud penderfyniad gwybodus. Mae'n ymwneud ag agor y drafodaeth honno fel y gall pobl wneud y dewis sy'n iawn iddyn nhw.”

Gofynnodd Dr Ali hefyd am farn Mwslimiaid Prydain. Canfu ei gorff cronnol o ymchwil o 2016-2019 mai anaml iawn y rhoddwyd gwybod i Fwslimiaid Prydeinig am yr holl ddehongliadau ynghylch rhoi organau.
Yn 2016, cofnododd y rhesymau diwinyddol y tu ôl i anfodlonrwydd Mwslimaidd i roi organau ar ôl marw, a'r heriau moesegol y mae’r ddeddfwriaeth yn eu codi. Canfu ei arolwg o 421 o Fwslimiaid Prydeinig fod hanner yn credu na ellid caniatáu rhoi organau neu nad oeddent yn sicr o'r sefyllfa ac na fyddent yn cyfrannu o ganlyniad.
Mae'r ymchwil wedi bwydo i gyfathrebu ynghylch Cynllun Buddsoddi Cymunedol Rhoi Organau Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG (NHSBT), sy'n ymgysylltu ag arweinwyr ffydd Mwslimaidd a dylanwadwyr cymunedol i gynyddu agweddau cadarnhaol tuag at roi organau ymhlith y cymunedau Mwslimaidd amrywiol yn y DU.
Gofynnwyd iddo roi cymorth i nifer o brosiectau rhoi organau eraill a ariennir gan NHSBT gan gynnwys y rhai a dderbyniodd arian gan Gynllun Buddsoddi Cymunedol NHSBT yn Llundain, Bryste, Preston, Blackburn, Burnley a Newcastle. At hynny, cynorthwyodd NHSBT ynghylch cyhoeddi a chyd-destun fatwa 210 tudalen annibynnol Mufti Mohammed Zubair Butt, a oedd yn cynnig dehongliad wedi'i ddiweddaru ar roi organau
Yn ogystal, cynhaliodd Dr Ali sesiynau trafod gydag arweinwyr Islamaidd ac aelodau o'r gymuned i gyfleu ei waith.
Dangosodd adborth o weithdai a sesiynau ar gyfer NHSBT fod dros 60% o'r cyfranogwyr a oedd naill ai'n ansicr neu a oedd wedi ystyried rhoi organau yn waharddedig, bellach yn ei ystyried yn ganiataol mewn rhai cyd-destunau ar ôl y gweithdai.
Dywedodd bron i 95% o'r cyfranogwyr eu bod yn dysgu safbwyntiau diwinyddol newydd, a bod eu pryderon yn cael eu lleddfu drwy ddysgu am y llinellau dehongli lluosog posibl.
At hynny, nododd 100% o'r ymatebwyr i arolwg ôl-weminar bod eu dealltwriaeth wedi newid.
Dywed Dr Ali: "Mae hwn yn faes cymhleth ac yn un sy'n codi llawer o gwestiynau mwy hefyd - am sut rydyn ni'n ystyried ein hunain yn fodau dynol.
“Fy rôl i yw rhannu gwybodaeth a chychwyn deialogau, siarad â phobl yn hytrach na siarad i bobl. Yn y pen draw, dewis a chyfrifoldeb unigol ydyw.”

Ymchwilio i fywydau cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain
Mae’r Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU wedi datblygu’n sefydliad academaidd blaenllaw ar gyfer ymchwil ac addysgu am Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain.
Pobl
Cyhoeddiadau
- Ali, M. 2021. ORGAN-ised rejection: An Islamic perspective on the dead donor rule in the UK- Revisited. Journal of British Islamic Medical Association 7 (3), pp.12-20.
- Chiramel, F. D. et al., 2020. The view of major religions of India on brain stem death and organ donation. Amrita Journal of Medicine 16 (2), pp.82=86. (10.4103/AMJM.AMJM_33_20)
- Ali, M. and Maravia, U. 2020. Seven faces of a fatwa: organ transplantation and Islam. Religions 11 (2) 99. (10.3390/rel11020099)
- Ali, M. 2019. Our bodies belong to God, so what? God’s ownership vs. human rights in the Muslim organ transplantation debate. Journal of Arabic and Islamic Studies 19 , pp.57-80.
- Ali, M. M. 2019. Organ donation: ‘Redressing the reality’. Journal of the British Islamic Medical Association 2 (1)
- Ali, M. M. 2019. Three British Muftis understanding of organ transplantation. Journal of the British Islamic Medical Association 2
- Ali, M. M. 2017. Shifting discourse in the Muslim debate on organ transplanting. Presented at: Research Seminar Al-Mahdi Institute, Birmingham, UK 27 April 2017.
- Ali, M. M. 2016. Our bodies belong to God: The Human Transplantation Act and Cardiff Muslims’ response to it. Presented at: Seminar on Death and Dying University of Bath, Bath, UK October 2016.
- Ali, M. M. 2016. Transplanting Fatwa: Fatwa on organ donation. Presented at: Markfield Institute of Higher Education: Research Seminar Markfield, UK October 2016.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch flog Dr Ali: Mae ein cyrff yn perthyn i Dduw: Islam a thrawsblannu organau
Bwyd Cynhanesyddol: newid agweddau at fwyd a gwella arferion treftadaeth
Mae archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gwrthdroi ein dealltwriaeth o fwyd, ffermio a gwledda cynhanesyddol, gan greu newid mewn arferion treftadaeth.

Gan herio rhagdybiaethau ynglŷn â beth oedd pobl yn ei fwyta, a sut, yn y cyfnod cynhanesyddol, mae’r prosiect ymchwil Bwyd Cynhanesyddol wedi cadarnhau arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol bwyd yn y cyfnod cynhanesyddol trwy ymchwil ar raddfa ryngwladol a bioarchaeoleg arloesol.
Archwiliodd y tîm ffermio, gwledda a bwyd yn y cyfnod cynhanesyddol mewn cyfres o brosiectau mawr (2008-2019) i ddatgelu newidiadau mewn arferion ffermio, milltiroedd bwyd gwledda rhyfeddol a diet llawer mwy amrywiol nag a ddeallwyd yn flaenorol.
Gan gyfuno tactegau ymgysylltu Archaeoleg Guerilla arloesol a’u canfyddiadau blaengar, ymgysylltodd y tîm ymchwil â dros hanner miliwn o bobl, gan rannu eu canfyddiadau mewn safleoedd treftadaeth, gweithdai cymunedol, a gwyliau mawr y Deyrnas Unedig.
Mae llwyddiant meintiol ac ansoddol y prosiect i’w weld yn y ffaith bod yr ymchwil wedi dylanwadu ar arferion treftadaeth, gan ymgorffori newid a arweinir gan ymchwil yn y defnydd a wneir o safle heneb gynhanesyddol enwocaf Prydain, Côr y Cewri. Ffurfiodd yr ymchwil ar y cyd yr arddangosfa 'Gwledd' yng Nghôr y Cewri a chreu rhaglen o ddigwyddiadau yng Nghôr y Cewri a ledled y Deyrnas Unedig. Roedd English Heritage wedi elwa o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr blynyddol, gwell profiad i ymwelwyr, a gwell sgiliau gwirfoddolwyr.
Rôl bwyd yn y gymdeithas gynhanesyddol
Mae’r ymchwil wedi helpu trawsnewid dealltwriaeth o rôl economaidd, gymdeithasol a diwylliannol bwyd yn y gorffennol.
Fe wnaeth cymhwyso dyddio uniongyrchol ac ystadegau Bayesaidd ar raddfa fawr wella’r ddealltwriaeth o gyflwyno ffermio yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop, sef newid mawr mewn caffael bwyd. Datblygodd bioarchaeolegwyr Prifysgol Caerdydd fethodolegau newydd hefyd i ymchwilio i ddiet hynafol a tharddiad bwyd trwy fireinio dadansoddiad isotopau strontiwm ac integreiddio sŵarchaeoleg â dadansoddiadau o weddillion lipid. Yn arwyddocaol, canfu’r prosiect Bwyd Cynhanesyddol fod ffafriaeth (o bysgota i ffermio llaeth) ac effaith (goresgyn anoddefiad i lactos trwy brosesu llaeth) yn drech o lawer na dewisiadau pragmatig mewn diet cynhanesyddol.
Datgelodd y prosiect ddarlun o symudedd helaeth, gan roi’r ddealltwriaeth fanylaf hyd yma o amrywiaeth y bobl a oedd yn ymgymryd â defodau mewn henebion Neolithig, gyda chyflenwi’n ymestyn ar draws Ynysoedd Prydain.
Mynd â chynhanes i'r 21ain ganrif drwy ymgysylltu ac arferion treftadaeth
Wedi’i hategu gan ymchwil Prifysgol Caerdydd, roedd arddangosfa’r Wledd yng Nghôr y Cewri (2017-18) wedi denu dros 560,000 o ymwelwyr, gwella’r profiad i ymwelwyr, ac ailddiffinio’r ffordd y cyflwynir y gorffennol. Dywedodd un o bob saith ymwelydd fod yr arddangosfa wedi dylanwadu’n gryf ar eu penderfyniad i ymweld, a bu’n rhan o gynnydd 14.5% yn nifer yr ymwelwyr ers y flwyddyn flaenorol.
Roedd y dadansoddiadau isotop a’r dehongliadau a gynhaliwyd gan Richard Madgwick a Jacqui Mulville yn rhan arwyddocaol o’r ymchwil a gyflwynwyd yn arddangosfa’r Wledd. Mae gwybod bod pobl ac anifeiliaid wedi teithio’n bell i’r ardal yn newid yn llwyr sut rydym yn meddwl am y bobl a adeiladodd Côr y Cewri, pwy oedden nhw ac o ble y daethon nhw.
Dan arweiniad yr Athro Jacqui Mulville, mae’r grŵp ymgysylltu Archaeoleg Guerilla yn manteisio ar archaeoleg i herio tybiaethau cyffredin, gan ddefnyddio ei fframwaith ymgysylltu arloesol mewn lleoliadau anhraddodiadol gyda chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd.
Gan fabwysiadu’r fframwaith profedig hwn, creodd y tîm Bwyd Cynhanesyddol raglen o ddigwyddiadau rhyngweithiol a welodd dros 20,000 o bobl yn cael profiad ymarferol o weithgareddau yn amrywio o greu ryseitiau a garddio cynhanesyddol, i’r siop dros dro Neolithig ymdrwythol, Stonehengebury’s. Daeth i ben gyda gŵyl Penwythnos y Wledd Fawr a gynhaliwyd yng Nghôr y Cewri, a ddefnyddiodd y safle mewn ffordd newydd.

Ystadegau allweddol: Archaeoleg Guerilla – Ymgysylltu â Feast
- 17 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal mewn 13 o leoliadau yn y DU (gan gynnwys Glastonbury)
- Wedi teithio yn ôl 5,000 o flynyddoedd
- Wedi ymgysylltu ag 20,000 o ymwelwyr
- 5,500 awr o amser gwirfoddolwyr
- 10 gwledd wedi eu harlwyo
- 12kg o rawn a falwyd (262 awr o falu)
- 40 o gynhwysion yn stondin dros dro Côr y Cewri
- Rhannwyd 9,354 o ryseitiau
- 1,220 o becynnau tyfu wedi'u rhoi i ffwrdd
- 190k o weliadau Twitter
- 40k o weliadau Facebook
Ers hynny, mae English Heritage wedi mabwysiadu dull Gwledd fel arfer gorau, gan ymgorffori ymchwil newydd a defnydd amrywiol o safleoedd yn eu strategaeth ymgysylltu tymor hwy. Fe wnaeth digwyddiadau hyfforddi dan arweiniad y tîm ymchwil gyda gwirfoddolwyr English Heritage agor mynediad at wybodaeth newydd, cynyddu hyder, a'u grymuso i gyflwyno arddangosiadau a phrosiectau newydd.
Gyda’i gilydd, rhoddodd arddangosfa’r Wledd a Phenwythnos y Wledd Fawr ddangosyddion pwerus o brofiad, gan gynnwys cyfraddau boddhad uwch, mwy o amrywiaeth ymhlith ymwelwyr, ac ymweld am gyfnod hwy. Gwnaethant hwy, ynghyd â gwyliau ehangach ar draws y Deyrnas Unedig newid gwybodaeth ymwelwyr o ran eu dealltwriaeth o dechnoleg a bwyd cynhanesyddol, gan ysgogi’r cyfranogwyr i wneud cysylltiadau trawiadol â phrofiadau modern.
Doedd gen i ddim syniad bod y ffermwyr cyntaf yn anoddefgar i lactos…mae’n gwneud y gorffennol yn haws uniaethu ag ef ac yn rhoi tystiolaeth i mi pan fydd pobl yn dweud mai ffasiwn gyfoes yw anoddefiadau!
Mae’r prosiect wedi newid dealltwriaeth y cyhoedd o fwyd cynhanesyddol yn fyd-eang, gyda:
- 230,000 o ryngweithiadau cyfryngau cymdeithasol â Bwyd Cynhanesyddol
- 41,700 o bobl wedi edrych ar adnoddau arddangosfa Gwledd English Heritage
- 173,000 o bobl wedi gwylio’r fideo gwneud caws Neolithig
- 7,200 o bobl wedi edrych ar adnoddau addysg wedi'u teilwra a 3,000 o bobl wedi’u lawrlwytho (Cyfnodau Allweddol 2, 4, 5)
- 385 o ddarnau cyfryngol o Awstralia i Unol Daleithiau America
Gan ysgogi trafodaeth am fwyd Neolithig mewn gwyliau, safleoedd archaeolegol, ac ar-lein, mae'r prosiect Bwyd Cynhanesyddol wedi cael effaith barhaol ar gyflwyno bwyd mewn arferion cynhanesyddol a threftadaeth.
Dyma’r tîm
Cysylltiadau pwysig
Cyhoeddiadau dethol
- Ali, M. 2021. ORGAN-ised rejection: An Islamic perspective on the dead donor rule in the UK- Revisited. Journal of British Islamic Medical Association 7 (3), pp.12-20.
- Chiramel, F. D. et al., 2020. The view of major religions of India on brain stem death and organ donation. Amrita Journal of Medicine 16 (2), pp.82=86. (10.4103/AMJM.AMJM_33_20)
- Ali, M. and Maravia, U. 2020. Seven faces of a fatwa: organ transplantation and Islam. Religions 11 (2) 99. (10.3390/rel11020099)
- Ali, M. 2019. Our bodies belong to God, so what? God’s ownership vs. human rights in the Muslim organ transplantation debate. Journal of Arabic and Islamic Studies 19 , pp.57-80.
- Ali, M. M. 2019. Organ donation: ‘Redressing the reality’. Journal of the British Islamic Medical Association 2 (1)
- Ali, M. M. 2019. Three British Muftis understanding of organ transplantation. Journal of the British Islamic Medical Association 2
- Ali, M. M. 2017. Shifting discourse in the Muslim debate on organ transplanting. Presented at: Research Seminar Al-Mahdi Institute, Birmingham, UK 27 April 2017.
- Ali, M. M. 2016. Our bodies belong to God: The Human Transplantation Act and Cardiff Muslims’ response to it. Presented at: Seminar on Death and Dying University of Bath, Bath, UK October 2016.
- Ali, M. M. 2016. Transplanting Fatwa: Fatwa on organ donation. Presented at: Markfield Institute of Higher Education: Research Seminar Markfield, UK October 2016.
Rhannu
Trawsnewid mynediad at arysgrifau o Athen ac Atica hynafol
Attic Inscriptions Online yn datgloi ffynhonnell bwysig o gofnodion Groeg a Lladin hynafol.

Mae’r gronfa ddata a gwefan arloesol Attic Inscriptions Online (AIO) yn tynnu sylw at hanes Atica ac Athen hynafol a bywyd ei thrigolion.
Dan arweiniad yr Athro Stephen Lambert, mae AIO wedi agor mil o flynyddoedd o hanes, gan ddarparu cyfieithiadau Saesneg anodedig chwiliadwy o arysgrifau am y tro cyntaf.
Mae AIO, sydd bellach yn cynnig mwy o gyfieithiadau Saesneg nag unrhyw adnodd arall yn fyd-eang, yn gwneud y ffynonellau cyfoethog hyn yn fwy hygyrch i weithwyr treftadaeth proffesiynol, ymwelwyr ag amgueddfeydd, athrawon a myfyrwyr ledled y byd, waeth beth fo'u gwybodaeth am Ladin neu Groeg hynafol.
Mae Attic Inscriptions Online yn brosiect arloesol sydd â'r pŵer i drawsnewid tirwedd yr astudiaeth, nid yn unig o arysgrifau Athenaidd Hynafol ond hefyd o'r dyniaethau yn gyffredinol. Mae'n adnodd pwysig ar gyfer lledaenu Clasuron a'r gwerthfawrogiad dilynol o'u pwysigrwydd gan segmentau mwy o'r boblogaeth.
Ffenestr i fyd hynafol
Mae arysgrifau Atig yn cyfrif am un rhan o bump o'r cyfanswm o Groeg Hynafol, sy'n ffurfio'r ffynhonnell ddogfennol bwysicaf unigol ar gyfer hanes Athen ac Atica hynafol, gyda rhagor o ddarganfyddiadau bob blwyddyn.
Drwy roi cipolwg cyfoethog i ni ar y gymdeithas ddylanwadol hon a'i gwleidyddiaeth, ei heconomeg a'i hanes diwylliannol, mae'r 20,000 o destunau cerrig cerfiedig hyn yn datgelu gwybodaeth fanwl nad yw ar gael mewn tystiolaeth arall o 700CC – OC300. Er enghraifft, o'r 63,000 o ddinasyddion a thrigolion Athenaidd, dynion a menywod, a adnabyddir yn ôl enw, mae naw o bob deg yn hysbys o arysgrifau.
Dechreuadau a arweinir gan ymchwil
Ers lansio i ddechrau ym mis Rhagfyr 2012 gyda chyfieithiadau Saesneg o'r 281 o gyfreithiau ac archddyfarniadau Athenaidd o'r 4edd ganrif CC a olygwyd gan yr Athro Lambert yng nghorpws awdurdodol Academi Berlin, Inscriptiones Graecae, mae AIO wedi ehangu i ymgorffori bron i un o bob deg o'r holl arysgrifau Atig hysbys, gan gyrraedd 1837 o gofnodion erbyn mis Gorffennaf 2020.
Gyda 32 o gyfranwyr ledled Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Awstralia a oruchwylir gan yr Athro Lambert, mae AIO yn gweithio mewn ffordd ddynamig drwy fframwaith unigryw a system rheoli cynnwys bwrpasol mewn Python gan ddefnyddio fframwaith Django sy'n cynnig cyfle i ddatblygu. Erbyn hyn, mae’r nodweddion yn cynnig mapio data a thestunau Groeg o ffynonellau gwreiddiol gan gynnwys delweddau.
Chwyldroi hygyrchedd arysgrifau 'coll'
Mae gan AIO gyrhaeddiad byd-eang, gyda bron i ddwy ran o dair o ddefnyddwyr yn dod o’r tu allan i'r DU a 5,000 o ymweliadau ar-lein bob mis. Mae AIO wedi cyrraedd 172 o wledydd hyd yma, gydag ymweliadau o UDA, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, yr Eidal, yr Almaen, Awstralia, Ffrainc a Japan fwyaf aml.
Mae tîm yr Athro Lambert wedi ehangu cyrhaeddiad casgliadau a ddelir yn y DU drwy wneud pob un o'r 250 o arysgrifau Atig a gedwir yng nghasgliadau'r DU yn hygyrch am y tro cyntaf, yn ogystal â datgelu arysgrifau nad oeddent wedi'u cyhoeddi o'r blaen a nodi'r uniadau rhwng darnau yn y DU ac Athen. Ymhlith y rhain mae arysgrifau a gedwir yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig, ac mae nifer o gyfrolau wedi cael eu golygu gan yr Athro Lambert ei hun.

Mae ymchwil yr Athro Lambert wedi chwyldroi hygyrchedd arysgrifau Atig mewn cyd-destun ehangach, sef:
- newid sut mae gweithwyr treftadaeth proffesiynol ac ymwelwyr ag amgueddfeydd yn cyflwyno ac yn deall arysgrifau
- gwella addysgu hanes Athen hynafol
- ategu datblygiad technegol archifau eraill
Lle nad oedd llawer o arysgrifau ar gael yn Saesneg, mewn print neu ar-lein, mae AIO wedi galluogi defnyddwyr i ddod o hyd i nifer o arysgrifau 'coll', gyda chyfleusterau i chwilio am bwnc neu gynnwys cysylltiedig.
Arweiniodd AIO at newidiadau mewn ymwybyddiaeth o’r arysgrifau a gwybodaeth amdanynt, gyda defnyddwyr yn nodi'r potensial i ddeall ac ymchwilio ymhellach i'r ffynonellau hyn, "... Nid yw arysgrifau Groeg bob amser wedi cael eu defnyddio i'w llawn botensial. Mae AIO yn gwneud arysgrifau Atig yn hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf bosibl" (Arolwg Ar-lein Dienw 2019/20 o Ddefnyddwyr AIO).
Gwella ymarfer treftadaeth a dealltwriaeth y cyhoedd
Mae AIO wedi helpu proffesiynau treftadaeth i gyflwyno arysgrifau Atig mewn ffyrdd newydd a diddorol, sydd wedi ennyn diddordeb a meithrin dealltwriaeth y cyhoedd. Dywedodd saith o bob wyth proffesiwn treftadaeth fod y wefan wedi cael effaith sylweddol neu drawsnewidiol ar eu gallu i gyflwyno arysgrifau Atig i ymwelwyr.
"Mae arysgrifau wedi bod yn anodd eu harddangos yn hanesyddol ac mae ymwelwyr yn aml yn cerdded heibio... Mae gan y prosiect hwn y fantais fawr o wneud arysgrifau'n fwy hygyrch yn weledol ac o ran eu cynnwys." (Arolwg Ar-lein Dienw 2019/20 o Ddefnyddwyr AIO, ymatebwyr yn nodi eu bod yn rheolwyr casgliadau neu’n guraduron amgueddfeydd)
Trawsnewid arferion addysgol ar gyfer addysgu hanes Athen hynafol
Mae AIO wedi llwyddo i ddatgloi arysgrifau Groeg Hynafol mewn lleoliadau addysg uwch ac uwchradd, gydag ychydig dros hanner o ymwelwyr AIO yn ymwneud ag addysgu neu ddysgu.
Mae addysgwyr a myfyrwyr yn canmol yr adnodd am ei effaith drawsnewidiol neu sylweddol (arolwg 2019/20, 86% o 51 o ddefnyddwyr sy’n addysgu, 89% o 38 o ddefnyddwyr sy’n fyfyrwyr). Roedd athrawon hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfieithiad o ddeunyddiau ffynhonnell rhagnodedig hanes hynafol Safon Uwch, chwiliadwyedd gwell, a bod yr adnodd ar gael yn rhad ac am ddim.
Ysbrydoli a galluogi archifau newydd
Mae AIO, sy’n unigryw oherwydd ei fod yn blaengyfieithu, wedi ysbrydoli creu archifau, gan rannu ei seilwaith technegol ar gyfer datblygu Greek Inscriptions Online, adnodd sy’n rhoi cyfieithiad cyfatebol mewn Groeg Modern, gyda gwefannau yn rhannu gwybodaeth ar gyfer defnyddwyr Groeg a Saesneg eu hiaith.
Hefyd, mae adnoddau ar-lein awdurdodol fel Collection of Greek Ritual Norms yn defnyddio AIO i ddatblygu eu cyhoeddiadau digidol.
Cyhoeddiadau dethol
- Ali, M. 2021. ORGAN-ised rejection: An Islamic perspective on the dead donor rule in the UK- Revisited. Journal of British Islamic Medical Association 7 (3), pp.12-20.
- Chiramel, F. D. et al., 2020. The view of major religions of India on brain stem death and organ donation. Amrita Journal of Medicine 16 (2), pp.82=86. (10.4103/AMJM.AMJM_33_20)
- Ali, M. and Maravia, U. 2020. Seven faces of a fatwa: organ transplantation and Islam. Religions 11 (2) 99. (10.3390/rel11020099)
- Ali, M. 2019. Our bodies belong to God, so what? God’s ownership vs. human rights in the Muslim organ transplantation debate. Journal of Arabic and Islamic Studies 19 , pp.57-80.
- Ali, M. M. 2019. Organ donation: ‘Redressing the reality’. Journal of the British Islamic Medical Association 2 (1)
- Ali, M. M. 2019. Three British Muftis understanding of organ transplantation. Journal of the British Islamic Medical Association 2
- Ali, M. M. 2017. Shifting discourse in the Muslim debate on organ transplanting. Presented at: Research Seminar Al-Mahdi Institute, Birmingham, UK 27 April 2017.
- Ali, M. M. 2016. Our bodies belong to God: The Human Transplantation Act and Cardiff Muslims’ response to it. Presented at: Seminar on Death and Dying University of Bath, Bath, UK October 2016.
- Ali, M. M. 2016. Transplanting Fatwa: Fatwa on organ donation. Presented at: Markfield Institute of Higher Education: Research Seminar Markfield, UK October 2016.
Rhannu
Pwy sy’n cofio i bwy? Newid arferion coffa yn y Palasau Brenhinol Hanesyddol
Ers 2012, mae Dr Jenny Kidd o Brifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda sefydliadau diwylliannol wrth iddynt arallgyfeirio gweithgareddau coffa ac ymgysylltu’n ystyrlon â chynulleidfaoedd anhraddodiadol ac iau.
Coffa pwy yw hyn beth bynnag?
Mae amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth wrth wraidd trafod dadleuon cyhoeddus cymhleth ynghylch gwaddol gwrthdaro a choffáu.
Mae eu cyfrifoldeb i gynrychioli digwyddiadau coffa yn feirniadol, ynghyd â’r angen i ymgysylltu â chynulleidfaoedd cyhoeddus mwy amrywiol, yn creu heriau moesegol ac angen i ymgysylltu’n well â gwaddol gwleidyddol, gwaddol cymdeithasol a gwaddol diwylliannol gwrthdaro.
Meithrin gwybodaeth drwy ymchwil
Gyda chydweithwyr yn y sector diwylliannol, cyd-sefydlodd Dr Kidd y rhwydwaith 'Challenging History' a helpodd i archwilio sut y gellid ymdrin â chofio digwyddiadau hanesyddol sensitif a thrawmatig yn ymarferol.
Ochr yn ochr â hyn, roedd Dr Kidd yn Gyd-Ymchwilydd ar ddau rwydwaith ymchwil ledled y DU a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Archwiliodd y rhwydwaith 'Silence, Memory and Empathy' sut mae tawelwch, empathi a chof yn rhyngweithio mewn amgueddfeydd ac mewn safleoedd hanesyddol. Roedd rhwydwaith ‘Significance of the Centenary’, a gynhaliwyd gan y Palasau Brenhinol Hanesyddol (HRP), yn myfyrio ar ddiwylliannau dathlu cyfnod mewn amser, pam rydym yn cofio, ac arwyddocâd nodi canmlwyddiant.
Drwy'r gweithgareddau hyn, nododd Dr Kidd a'i chydweithwyr ystod o sensitifrwydd yn ymwneud â gweithgareddau coffáu, a thueddiad dilynol i osgoi risg yn ymarferol bryd hynny.
Yn ddiweddarach bu Dr Kidd yn gweithio gyda Dr Joanne Sayner ym Mhrifysgol Newcastle i arwain llinyn coffáu Canolfan Ymgysylltu Rhyfel Byd Cyntaf Lleisiau Rhyfel a Heddwch, a sbardunodd ystod o fentrau ymgysylltu arloesol a chydweithredol ynghylch y canmlwyddiant.

Newid dull coffa y Palasau Brenhinol Hanesyddol
Bu'r ymchwil 'Significance of the Centenary' hefyd yn sail i raglen ddysgu’r Palasau Brenhinol Hanesyddol, Why Remember?, a oedd yn ceisio ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn myfyrdod ystyrlon wrth goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014.
Gofynnodd y rhaglen i ymwelwyr: pam y dylem gofio'r rhyfel; pam mae 100 mlynedd yn arwyddocaol; a sut ydych chi am gofio.
Gwnaeth y cwestiynau hyn helpu ymwelwyr i ddatblygu dull personol o goffa, waeth beth fo'u cefndir.

Cyrhaeddodd y rhaglen dros 1.25 miliwn o bobl ledled y byd ac roedd yn cynnwys:
- gweithgareddau ar gyfer 2,500 o blant a phobl ifanc gan gynnwys trin gwrthrychau, adrodd straeon a dehongli gwisgoedd
- perfformiad theatr a llwybr teulu a gwblhawyd gan dros 10,000 o bobl
- rhaglen ar y Discovery Channel, a ddefnyddiodd y tri chwestiwn i ennyn diddordeb myfyrwyr a chefnogi athrawon yn y rhaglen datblygiad proffesiynol gysylltiedig, a gyrhaeddodd 1 filiwn o fyfyrwyr mewn 61 o wledydd
Dywedodd Alex Drago, Rheolwr Archwiliwr yn y Palasau Hanesyddol Brenhinol bryd hynny: “Roedd Why Remember? yn arbennig o bwysig i’r Palasau Hanesyddol Brenhinol oherwydd roedd yn helpu cynulleidfaoedd anhraddodiadol ac iau i ymgysylltu â’r canmlwyddiant” ac yn “hybu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig… drwy ddatblygu gwerthfawrogiad o aberthau pawb a oedd yn byw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.”
Ymgorffori dull newydd yn y Palasau Hanesyddol Brenhinol
Roedd Why Remember? mor llwyddiannus y defnyddiwyd ei dull eto gan y Palasau Hanesyddol Brenhinol ar gyfer Beyond the Deepening Shadows, sef gosodiad fflamau yn ffos Tŵr Llundain i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn flaenorol, roedd ymchwil yn y Palasau Hanesyddol Brenhinol wedi canolbwyntio ar ymchwil farchnad a data meintiol, ond daeth gwaith Dr Kidd â syniadau arloesol am ddadansoddi cynnwys, dadansoddi disgwrs beirniadol, moeseg ymchwil a meddwl yn ddamcaniaethol.
Effaith a gwaddol
Cyfrannodd y dull ymchwil newydd hwn at gais llwyddiannus y Palasau Hanesyddol Brenhinol am statws Sefydliad Ymchwil Annibynnol yn 2015.
Mae statws newydd y Palasau Hanesyddol Brenhinol wedi ei alluogi i wneud cais am gyllid ymchwil am y tro cyntaf. Ers hynny mae wedi cael pum grant fel Prif Ymchwilydd, cyfanswm o dros £407,000, ar bynciau gan gynnwys anheddau Tuduraidd, palasau Harri’r Wythfed, a delwedd frenhinol y Frenhines Fictoria.
Cyhoeddiadau dethol
- Ali, M. 2021. ORGAN-ised rejection: An Islamic perspective on the dead donor rule in the UK- Revisited. Journal of British Islamic Medical Association 7 (3), pp.12-20.
- Chiramel, F. D. et al., 2020. The view of major religions of India on brain stem death and organ donation. Amrita Journal of Medicine 16 (2), pp.82=86. (10.4103/AMJM.AMJM_33_20)
- Ali, M. and Maravia, U. 2020. Seven faces of a fatwa: organ transplantation and Islam. Religions 11 (2) 99. (10.3390/rel11020099)
- Ali, M. 2019. Our bodies belong to God, so what? God’s ownership vs. human rights in the Muslim organ transplantation debate. Journal of Arabic and Islamic Studies 19 , pp.57-80.
- Ali, M. M. 2019. Organ donation: ‘Redressing the reality’. Journal of the British Islamic Medical Association 2 (1)
- Ali, M. M. 2019. Three British Muftis understanding of organ transplantation. Journal of the British Islamic Medical Association 2
- Ali, M. M. 2017. Shifting discourse in the Muslim debate on organ transplanting. Presented at: Research Seminar Al-Mahdi Institute, Birmingham, UK 27 April 2017.
- Ali, M. M. 2016. Our bodies belong to God: The Human Transplantation Act and Cardiff Muslims’ response to it. Presented at: Seminar on Death and Dying University of Bath, Bath, UK October 2016.
- Ali, M. M. 2016. Transplanting Fatwa: Fatwa on organ donation. Presented at: Markfield Institute of Higher Education: Research Seminar Markfield, UK October 2016.
Rhannu
Y Fryngaer Gudd: defnyddio treftadaeth i wella bywydau, cymunedau a diwylliant
Creu gorffennol newydd a dyfodol newydd: prosiect cymunedol yn datgelu 6,000 o flynyddoedd o dreftadaeth i fynd i'r afael â heriau yn y presennol.

Mae Prosiect Ailddarganfod Treftadaeth Caerau a Threlái (CAER) wedi llwyddo i roi un o safleoedd archeolegol hynaf, mwyaf a mwyaf arwyddocaol Caerdydd ar y map.
Mae archwilio Bryngaer Gudd Caerau wedi defnyddio treftadaeth i ddatgloi creadigrwydd, talent a gweithredu cymunedol lleol
Cyflawniadau CAER
Ers sefydlu'r prosiect yn 2011 gyda'r sefydliad datblygu cymunedol lleol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), mae tîm ymchwil Prifysgol Caerdydd wedi datblygu cyfuniad pwerus o gloddfeydd archaeolegol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, cyd-ymchwil hanesyddol a chelf, animeiddio, barddoniaeth a ffilm wedi'u creu ar y cyd.
Gan anelu at herio canfyddiadau negyddol di-sail o'r ardal drwy ddatgelu hanes cudd, mae CAER wedi llwyddo i fanteisio ar un o’r asedau treftadaeth cyfoethocaf ond sy’n cael ei werthfawrogi lleiaf yn ne Cymru i greu cyfleoedd addysgol a bywyd trawsnewidiol mewn cymunedau sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd sylweddol.
Gan weithio ochr yn ochr â phobl leol i gloddio'r gorffennol a datgelu gwybodaeth hanesyddol newydd drwy bŵer archaeoleg gymunedol, mae'r prosiect wedi olrhain tarddiad y rhan hon o Gaerdydd yn ôl dros 6,000 o flynyddoedd i'r cyfnod Neolithig.
Mae CAER wedi hwyluso buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau a seilwaith cymunedol, gan sicrhau dros £532,000 drwy 15 o grantiau ymchwil. Yn arwyddocaol, chwaraeodd 189 o bobl leol rôl ddylanwadol wrth gyd-ddatblygu prosiect adfywio cymunedol uchelgeisiol i drawsnewid y safle'n atyniad treftadaeth, gyda'i gais llwyddiannus am arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd yn ehangu capasiti ac adnoddau’r partner hanfodol ACE (cyfanswm o £2.1miliwn gan ymgorffori arian cyfatebol).
Ar ôl ennill Gwobr Addysg Uwch y Times (2017) a Gwobr Engage NCCPE (2014), mae model cydweithredol cyfranogol CAER bellach yn cyfrif fel arfer ragorol yn y DU, a gydnabyddir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chynghorau Ymchwil y DU (RCUK).
Pam mae CAER mor arwyddocaol?
Gyda'r gymuned wrth wraidd ei strategaethau cyd-gynhyrchu, mae CAER wedi newid ein dealltwriaeth o fryngaer Caerau, yr ardal, a'i thrigolion, gan ddatgelu meddiannaeth a defnydd annisgwyl o hir, sy'n fwy na chwe mileniwm.
Mae ymchwil archeolegol wedi rhoi cyd-destun i fryngaer Caerau ac ardal gyfagos Trelái o fewn ei thirwedd ddaearyddol, hanesyddol a chymdeithasol ehangach, gan ddatgelu rôl bwysig y fryngaer i gymunedau'r gorffennol yn ne Cymru.
Yn ogystal â nodi anheddiad disgwyliedig drwy Brydain Ganoloesol a Rhufeinig, gwnaeth y cloddiadau cymunedol olrhain sawl cam o waith adeiladu bryngaer o'r Oes Haearn. Ond darganfyddiad rhyfeddol clostir sarnau Neolithig gwaelodol - dim ond y trydydd a ganfuwyd erioed yng Nghymru - a roddodd y Fryngaer Gudd ar y map yn gadarn. Mae'r prosiect wedi newid y canfyddiad o Gymru Neolithig Gynnar yn sylfaenol, gan ailgydbwyso’r ddealltwriaeth o Brydain yn ystod yr Oes Haearn, gan unioni rhagfarn ranbarthol y ddisgyblaeth sy'n ffafrio ardal de Lloegr sy’n fwy cefnog.
Mae dull creadigol CAER sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn canolbwyntio’n bennaf ar adfywio treftadaeth, datblygu cymunedau a chynwysoldeb, wedi'i lywio gan bartneriaid cymunedol ACE ac ymchwil gwyddorau cymdeithasol. Mae hyn yn ymestyn hyd at ei ymchwil ar hanes o fewn cof byw gan gynnwys tai cymdeithasol ar ôl y rhyfel a 'chartrefi sy'n addas i arwyr' Trelái a adeiladwyd ar sail egwyddorion pentref gardd.
Mae'r prosiect hwn sydd wedi ennill sawl gwobr wedi gwella hunaniaeth gymunedol a chysylltiad â'r gorffennol, wedi'i bweru gan gydweithio agos â thrigolion, partneriaid a grwpiau cymunedol, ysgolion lleol, artistiaid, gweithwyr treftadaeth proffesiynol a 4,000+ o wirfoddolwyr lleol a rhoi gwerth cyfartal ar gyfraniadau gwirfoddol a phroffesiynol.
Mae’r gymuned leol - sy’n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd anodd ond sy’n llawn talent, gweledigaeth, actifiaeth ac undod - yn parhau i fod wrth wraidd CAER. Mae eu dwylo wedi dadorchuddio 6,000 o flynyddoedd o hanes cudd ac wedi llunio dehongliadau newydd ar gyfer cenedlaethau cyfoes a chenedlaethau’r dyfodol. Drwy archwilio a dathlu'r gorffennol, mae CAER yn galluogi cymuned gydnerth ond sydd ar y cyrion yn aml i ddefnyddio ei photensial a llywio ei dyfodol.

Beth yw ei effeithiau mwyaf?
Mae Caerau a Threlái, sy’n ymddangos yn gyson ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, ymhlith y deg ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda diweithdra bron bum gwaith cyfartaledd y DU (15% o gymharu â 3.8%). Hefyd, dim ond 7% o'r rhai sy'n gadael yr ysgol o'r ward hon sy'n mynd ymlaen i'r brifysgol, llai nag un o bob pedwar o gymharu â chyfartaledd y DU (34%).
Yn y cyd-destun hwn, mae'r bartneriaeth hon a lywir gan y gymuned wedi newid agweddau lleol at gyfranogiad treftadaeth a diwylliannol, gan drawsnewid cyfleoedd addysgol drwy ysgoloriaethau a chyrsiau i oedolion, datblygu naratifau cymunedol cadarnhaol, a gwella cyfleoedd bywyd drwy ei model ymgysylltu a chyd-gynhyrchu a arweinir gan ymchwil.
Mae gan aelodau’r gymuned, sy’n chwarae rhan ym mhob cam o'r prosiect, ymdeimlad cryfach o le, cysylltiad agosach â'u treftadaeth ac agwedd fwy cadarnhaol tuag at eu hardal.
Drwy herio stereoteipiau a stigma, mae CAER wedi llwyddo i dynnu sylw at hanesion cymhleth ei gymuned sy'n datblygu'n barhaus.
Dyma’r tîm
Cysylltiadau pwysig
Cyhoeddiadau dethol
- Ali, M. 2021. ORGAN-ised rejection: An Islamic perspective on the dead donor rule in the UK- Revisited. Journal of British Islamic Medical Association 7 (3), pp.12-20.
- Chiramel, F. D. et al., 2020. The view of major religions of India on brain stem death and organ donation. Amrita Journal of Medicine 16 (2), pp.82=86. (10.4103/AMJM.AMJM_33_20)
- Ali, M. and Maravia, U. 2020. Seven faces of a fatwa: organ transplantation and Islam. Religions 11 (2) 99. (10.3390/rel11020099)
- Ali, M. 2019. Our bodies belong to God, so what? God’s ownership vs. human rights in the Muslim organ transplantation debate. Journal of Arabic and Islamic Studies 19 , pp.57-80.
- Ali, M. M. 2019. Organ donation: ‘Redressing the reality’. Journal of the British Islamic Medical Association 2 (1)
- Ali, M. M. 2019. Three British Muftis understanding of organ transplantation. Journal of the British Islamic Medical Association 2
- Ali, M. M. 2017. Shifting discourse in the Muslim debate on organ transplanting. Presented at: Research Seminar Al-Mahdi Institute, Birmingham, UK 27 April 2017.
- Ali, M. M. 2016. Our bodies belong to God: The Human Transplantation Act and Cardiff Muslims’ response to it. Presented at: Seminar on Death and Dying University of Bath, Bath, UK October 2016.
- Ali, M. M. 2016. Transplanting Fatwa: Fatwa on organ donation. Presented at: Markfield Institute of Higher Education: Research Seminar Markfield, UK October 2016.
Rhannu
Past highlights
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.