Ymchwil
Mae'r Ysgol Peirianneg yn uchel ei pharch fel un o'r ysgolion gorau yn y DU o ran ansawdd ei hymchwil a'r effaith y mae'n ei chael ar fyd diwydiant, y gymdeithas a'r economi (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Rydym yn cynnal ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg. Trefnir ein hymchwil yn dair thema ymchwil fawr sy'n adlewyrchu blaenoriaethau economaidd, llywodraethol a cymdeithasol cyfredol.
Gan weithio gyda phartneriaid diwydiannol a sefydliadau eraill, mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn arwain prosiectau arloesol sydd â nifer o gymwysiadau ymarferol.