Ewch i’r prif gynnwys

Cofrestru i israddedigion

Gwybodaeth gofrestru ac ymsefydlu ar gyfer israddedigion newydd yn yr Ysgol Meddygaeth.

I gofrestru yn y Brifysgol, bydd angen i chi gwblhau tasg cofrestru ar-lein yn ogystal â mynychu digwyddiad cofrestru yn yr Ysgol Meddygaeth. Bydd y dasg cofrestru ar-lein yn agor oddeutu mis cyn dyddiad eich cwrs. Bydd y Tîm Cofrestru yn anfon neges e-bost atoch a fydd yn cynnwys yr holl fanylion.

Cynhelir wythnos gofrestru yr Ysgol Meddygaeth ar ddiwedd mis Medi. Mae'r union ddyddiadau wedi eu cadarnhau yn unigol ar gyfer bob cwrs isod.

Bydd yr wythnos gofrestru yn cynnwys digwyddiadau fel sgyrsiau croesawu, Ffair y Glas, cyflwyniadau i’r cyrsiau a mwy. Pan fyddwch yno, bydd angen i chi hefyd gasglu eich cerdyn adnabod y Brifysgol.

Healthcare student

MBBCh Meddygaeth

Gwybodaeth am gofrestru ac ymsefydlu ar gyfer israddedigion newydd sy’n astudio rhaglen MBBCh Meddygaeth.

Medical Pharmacology BSc

BSc Ffarmacoleg Feddygol

Gwybodaeth am gofrestru ac ymsefydlu i fyfyrwyr israddedig newydd sy’n astudio rhaglen BSc Ffarmacoleg Feddygol.