Rhieni a chefnogwyr
Gwybodaeth ddefnyddiol i'r rhai sy'n cefnogi myfyrwyr newydd wrth iddynt baratoi i ddechrau yn y brifysgol.
Paratoi i adael gartref
Gall gadael ar gyfer y brifysgol fod yn amser prysur, gyda llawer i'w gofio, felly rydym wedi llunio rhestr wirio o bethau allweddol i'w cofio:
- Cofrestru ar-lein – mae myfyrwyr yn derbyn yr ebost cofrestru ar-lein tua thair wythnos cyn i'w rhaglen ddechrau. Mae hyn yn orfodol, gan fod cofrestru ar-lein yn caniatáu i fyfyrwyr gasglu eu cardiau adnabod myfyriwr, derbyn eu taliad benthyciad myfyriwr cyntaf a mynychu unrhyw weithgareddau ymsefydlu ysgol unwaith y byddant wedi cyrraedd.
- Gwybodaeth am gyrraedd y Brifysgol – rydym yn cynghori myfyrwyr i wirio'r wybodaeth gyrraedd benodol ar gyfer eu neuaddau preswyl yn yr wythnosau sy'n arwain at symud i mewn, gan y gall fod terfynau amser neu ddyddiadau penodol iddynt gasglu allweddi a chyrraedd y campws.
- Pethau pwysig i'w pacio – os ydynt yn dod i fyw ym mhreswylfeydd y Brifysgol, gall myfyrwyr wirio'r hyn a ddarperir yn eu hystafell cyn prynu eitemau a phacio.
- Cyllid – a yw'r myfyriwr rydych yn ei gefnogi wedi agor cyfrif banc myfyrwyr ac wedi gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr?
- Ymsefydlu – mae myfyrwyr yn cael mynediad i'n rhaglen ymsefydlu ar-lein ganol mis Awst drwy eu cyfeiriad ebost personol. Mae'r rhaglen ymsefydlu yn cynnwys gwybodaeth bwysig am gymorth dysgu digidol, ein gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr, yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol ar reoli eich iechyd meddwl a chwrdd â phobl newydd.
Dyddiadau allweddol
Dyddiadau semester 2021/22
Wythnos gofrestru
Cyfnod | Dechrau | Diwedd |
---|---|---|
Dydd Llun 27 Medi 2021 | Dydd Gwener 1 Hydref 2021 | |
Semester yr hydref | Dydd Llun 4 Hydref 2021 | Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 |
Gwyliau'r Nadolig | Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr 2021 | Dydd Sul 9 Ionawr 2022 |
Cyfnod arholiadau | Dydd Llun 17 Ionawr 2022 | Dydd Gwener 28 Ionawr 2022 |
Semester y gwanwyn | Dydd Llun 31 Ionawr 2022 | Dydd Gwener 1 Ebrill 2022 |
Gwyliau'r Pasg | Dydd Sadwrn 2 Ebrill 2022 | Dydd Sul 24 Ebrill 2022 |
Cyfnod arholiadau | Dydd Llun 16 Mai 2022 | Dydd Gwener 17 Mehefin 2022 |
Wythnos ailsefyll arholiadau | Dydd Llun 15 Awst 2022 | Dydd Gwener 26 Awst 2022 |
Dyddiadau allweddol eraill
Y dyddiad cau ar gyfer diwygio ceisiadau Cyllid Myfyrwyr yw 1 Medi. Darllenwch fwy o wybodaeth am gyllid myfyrwyr.
Cymorth i fyfyrwyr
Gall hwn fod yn gyfnod pryderus i chi yn ogystal â myfyrwyr, ond rydym am eich sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol eu hamser gyda ni.
Mae ein gwasanaethau cymorth diduedd a chyfrinachol am ddim wedi'u lleoli yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr, sy'n agor y flwyddyn academaidd hon. P'un a yw myfyrwyr yn chwilio am gyngor ar arian a chyllidebu, cymorth iechyd a lles, neu wybodaeth am yrfaoedd a chyflogadwyedd, mae ein timau Bywyd Myfyrwyr wrth law i helpu.
Gyda'n gwasanaethau ar-lein 24 awr ac oriau agor estynedig, gall myfyrwyr gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pryd bynnag y bydd ei angen arnynt.
Bydd gan fyfyrwyr blwyddyn gyntaf hefyd fynediad at Fentor Myfyrwyr o'u hysgol academaidd i'w helpu gyda phryderon academaidd ac anacademaidd. Gall mentoriaid roi awgrymiadau ar ddefnyddio ein llwyfannau TG amrywiol, rheoli amser, defnyddio'r llyfrgelloedd a haciau bywyd defnyddiol ar ble i siopa, bwyta ac ymlacio.
Data myfyrwyr
Efallai eich bod wedi arfer derbyn gwybodaeth academaidd am y myfyriwr rydych chi'n ei gefnogi, ond wrth i ni groesawu ein myfyrwyr newydd i ni fel oedolion, ni allwn rannu eu gwybodaeth bersonol heb eu caniatâd.