Cofrestru ar-lein
Diweddarwyd: 02/09/2022 16:07
Un o'r camau cyntaf i ddod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yw cofrestru ar-lein 3 wythnos cyn i chi ddechrau.
Byddwch yn derbyn ebost i'ch hatgoffa tua tair wythnos cyn bod eich rhaglen yn dechrau. Bydd yn rhoi gwybod i chi bod y dasg cofrestru ar-lein ar gael i chi. Ni ddylai hyn gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau.
Nodwch mai dim ond am amser penodol y bydd y dasg cofrestru ar gael i chi, ac felly fe’ch cynghorir i gofrestru cyn gynted ag y byddwch yn derbyn yr ebost.
Rhaid i chi gofrestru ar-lein drwy wneud y canlynol:
- cytuno i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a glynu at ei rheoliadau
- cytuno i'r datganiad diogelu data
- gwirio a diweddaru'r wybodaeth yn eich cofnod myfyriwr
- talu eich ffioedd dysgu neu roi tystiolaeth o nawdd
- lanlwytho dogfennau adnabod i ddangos Hawl i Astudio yn y DU
- lanlwytho ffotograff ar ffurf pasbort i'w ddefnyddio ar eich cerdyn myfyriwr.
- darllen a chytuno i'n hymrwymiad cymunedol.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch gasglu eich cerdyn myfyriwr, cael mynediad at ein holl gyfleusterau a derbyn eich taliad benthyciad myfyriwr cyntaf a mynychu digwyddiadau ymsefydlu eich Ysgol.
Sut i gofrestru ar-lein
Cyn dechrau ar y broses gofrestru byddwch angen y canlynol:
- eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd
- eich manylion cyswllt
- lle bo hynny'n berthnasol, eich manylion talu (cyfrif banc, cerdyn credyd/debyd, manylion nawdd)
- copi wedi'i sganio o'ch dogfennau adnabod
- llun electronig ar ffurf pasbort.
Gallwch gofrestru ar-lein drwy SIMS ar-lein.
Bydd angen i chi glicio ar y ddolen ‘SIMS: mewngofnodi ar-lein’ (ar waelod chwith y sgrin) yna defnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar y tab 'Fy Record Myfyriwr', cliciwch ar y ddolen ‘Dechrau Cofrestru’.
Dylech wirio’r wybodaeth sydd gan y Brifysgol amdanoch, a diweddaru hwn lle bo angen. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw wrth i chi gwblhau pob tudalen, mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu mynd yn ôl a gwneud newidiadau unwaith y byddwch wedi cwblhau pob tudalen felly dylech ddarllen a gwirio’r wybodaeth yn ofalus.
Pan fyddwch wedi cwblhau Ymrestru Rhan 1, bydd tasgau eraill yn ymddangos:
- Ar gyfer myfyrwyr cartref, bydd y cyfleuster lanlwytho dogfen hunaniaeth ac Ymrestru Rhan 2 yn ymddangos. Unwaith y bydd y dasg uwchlwytho dogfen hunaniaeth wedi'i chwblhau bydd y dasg uwchlwytho llun yn ymddangos.
- Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, bydd tasgau Rhan 2 uwchlwytho a chofrestru lluniau yn ymddangos. (Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno dogfennau pasbort a fisa yn bersonol yn un o'r digwyddiadau a drefnwyd y byddwch yn derbyn hysbysiad ohonynt).
Mae rhaid cwblhau pob adran.
Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio porth SIMS ar-lein
Ar ôl cofrestru ar-lein
Unwaith y byddwch wedi cofrestru byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau cofrestru o fewn 24 awr. Nid yw'n angenrheidiol argraffu hwn.
Yn SIMS ar-lein, bydd y botwm 'Dechrau Cofrestru' yn diflannu a bydd botwm newydd 'Mynediad at Gofrestru' yn ymddangos.
Ar y tab 'Cofrestru' bydd dolen newydd yn ymddangos sef 'Cadarnhau Rhaglen Astudio' a bydd angen i chi glicio arno.
Os bydd angen i chi ddewis modiwlau dewisol, bydd dolen yn ymddangos unwaith yr ydych wedi cadarnhau eich rhaglen astudio. Efallai y bydd rhai Ysgolion yn gofyn i chi fynychu digwyddiadau cofrestru/ymsefydlu yn yr Ysgol cyn dewis modiwlau dewisol. Gweler amserlen eich Ysgol am ragor o wybodaeth.
Os bydd eich dewisiadau modiwl dewisol yn anghywir, gallwch eu hail-ddewis gan ddefnyddio'r cyfleuster dewis modiwlau, ac yna bydd angen i’ch Ysgol eu cymeradwyo.
Gallwch weld eich modiwlau ar unrhyw adeg yn SIMS drwy ymweld â’r adran cofnodion academaidd.
Trosglwyddo i raglen wahanol
Gallwch ofyn am drosglwyddo rhwng rhaglenni drwy dasg ar-lein unwaith y byddwch wedi cofrestru ar-lein. Rydym yn cynghori eich bod yn cael cymeradwyaeth academaidd gan eich Ysgol yn gyntaf. Noder efallai y bydd angen ail-asesu eich atebolrwydd ffi.
Cyllid myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr a ariennir
Os ydych wedi gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr, gwnewch yn siŵr bod manylion eich prifysgol, manylion eich cwrs a swm y ffi dysgu yn gywir ar eich llythyr hysbysiad o hawl.
Os oes unrhyw wybodaeth un anghywir yn eich llythyr hawl yna'r ffordd hawsaf o ddiweddaru eich manylion yw drwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein cyn 1 Medi a dewis "Newid eich cais". Yna dylai gymryd hyd at tua 20 diwrnod gwaith i Gyllid Myfyrwyr brosesu'r newid.
Ar ôl 1 Medi, ni fyddwch yn gallu newid y manylion eich hun. Yn hytrach, cysylltwch â'r Tîm Cyngor ac Arian i gael help gyda hyn.
Os ydych yn dod i Brifysgol Caerdydd drwy'r broses clirio, mae'r dudalen cyllid ar gyfer myfyrwyr clirio yn rhoi mwy o wybodaeth am y broses hon a sut i reoli oedi posibl o ran cyllid.
Dod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr
Unwaith i chi orffen cofrestru ar-lein, byddwch yn awtomatig yn aelod llawn o Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n cynnig amrywiaeth o glybiau, cymdeithasau a gwasanaethau.
Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i beidio ymaelodi gyda'r Undeb yn unol ag Adran 22 (2) (c) Deddf Addysg 1994. Os nad ydych chi'n dymuno ymuno, bydd angen i chi roi gwybod i'r Cofrestrydd Academaidd yn ysgrifenedig drwy Cyswllt Myfyriwr erbyn ail wythnos y tymor cyntaf neu o fewn 14 diwrnod o gwblhau'r cofrestriad ar-lein.
Cymorth gyda chofrestru ar-lein
Mae cofrestru ar-lein yn orfodol, ac rydym yn cynghori eich bod yn ei gwblhau cyn i chi gyrraedd Caerdydd - ond os na allwch gael gafael ar gyfrifiadur neu fynd ar-lein, gallwch gael cymorth gyda chofrestru yn y Brifysgol yn un o'n lleoliadau cofrestru, lle bydd staff wrth law i roi cymorth i chi.
Gallwch wneud hyn wrth bwynt casglu carden adnabod myfyrwyr.
Cefnogaeth ychwanegol cydraddoldeb ac amrywiaeth
Os ydych yn perthyn i un o'r grwpiau canlynol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn ein hadran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
- ceiswyr lloches
- ymadawyr gofal
- anabledd a dyslecsia
- myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio
- cyn-filwyr y lluoedd
- ailbennu rhywedd
- lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws(rywedd)+ a rhyngrywiol
- crefydd a chred
- myfyrwyr sy'n ofalwyr
- myfyrwyr sy'n rhieini.