Cymorth i fyfyrwyr ag anabledd
Diweddarwyd ddiwethaf: 19/07/2022 11:08
Cofrestrwch gyda'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr i wneud yn siŵr bod eich anghenion o ran mynediad yn cael eu diwallu.
Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud cais i'r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr cyn ichi gyrraedd, cysylltwch â ni drwy Gyswllt Myfyrwyr cyn gynted ag bo modd.
Byddwn ni’n gofyn ichi roi tystiolaeth ategol o'ch nam, cyflwr eich iechyd neu’ch anhawster dysgu penodol er mwyn inni allu rhoi addasiadau rhesymol priodol ar waith i gefnogi eich astudiaethau. Os ydych chi’n ansicr ynghylch y dystiolaeth sydd ei hangen arnoch chi, cysylltwch â ni.
Os ydych chi wedi gwneud cais am ragor o gymorth drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), mae’r Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr hefyd yn cynnig canolfan asesu anghenion at ddibenion y DSA. Os gofynnwyd ichi drefnu asesiad o’r anghenion, anfonwch ebost aton ni i dsaadmin@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch +44 (0) 29 2087 9127.
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais i'r gwasanaeth, ac rydych chi wedi cytuno ar y cymorth fydd o fudd i'ch astudiaethau ag ymgynghorydd anabledd, gallwch chi weld y cymorth a argymhellir drwy fewngofnodi i'ch cyfrif SIMS.
Os oes gennych chi ymholiadau neu bryderon ynghylch gweld eich cymorth neu os yw eich amgylchiadau wedi newid, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.