Deintyddiaeth
Llongyfarchiadau ar gael lle i astudio yn yr Ysgol Deintyddiaeth. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ym mis Medi.
Isod, fe welwch wybodaeth am ymrestru ac ymsefydlu ar gyfer myfyrwyr newydd a’r rhai sy'n dychwelyd i’r Ysgol Deintyddiaeth.
Ymrestru
Cyn dod i Gaerdydd ym mis Medi, rhaid i bob myfyriwr newydd ymrestru ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymrestru ar-lein, cysylltwch â’r tîm ymrestru drwy ffonio +44 (0)29 2087 6211.
Ymsefydlu
Llongyfarchiadau i chi ar gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd! Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ddechrau astudio gyda ni, ac yn gweithio'n galed i sicrhau y byddwch yn byw ac yn dysgu'n ddiogel.
Er mwyn eich helpu i dod i arfer â bywyd myfyrwyr, rydym wrthi'n cynllunio gweithgareddau ymsefydlu lle bydd cyfle i chi ddod i ymgyfarwyddo â'ch Ysgol Academaidd a'r staff.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu ar y tudalennau yma pan fydd ar gael.
Mae'r digwyddiadau ymsefydlu hyn yn berthnasol i fyfyrwyr ar y rhaglenni gradd isod;
- Biowyddorau gyda Blwyddyn Ragarweiniol (Biocemeg / Gwyddorau Biolegol / Sŵoleg /Gwyddorau Biofeddygol / Niwrowyddoniaeth)
- Cemeg gyda Blwyddyn Ragarweiniol
- Deintyddiaeth gyda Blwyddyn Ragarweiniol
- Meddygaeth gyda Blwyddyn Ragarweiniol
Bydd digwyddiadau ymsefydlu ysgolion yn dechrau ddydd Llun 28 Medi 2020. Mae'n bwysig eich bod yn mynychu'r holl sesiynau rhestredig a fydd yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd rhithwir.
Sylwer, er eich diogelwch chi, bydd ydigwyddiadau hyn yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd rhithwir trwy ddefnyddio Zoom. Sicrhewch eich bod yn gosod cleient Zoom ar eich ffôn neu'ch dyfais cyn dyddiad ac amser y cyfarfod.
Digwyddiad | Dyddiad | Amser | Lleoliad | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Cyflwyniad am Ddewisiadau Modiwlau | Dydd Llun 28 Medi 2020 | 14:00 | Ar-lein | Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â'r gwahanol opsiynau modiwlau cyn sesiynau holi ac ateb y modiwl ddydd Mercher. |
Sesiwn Ymsefydlu TG | Dydd Mawrth 29 Medi 2020 | 10.00 | Ar-lein | Bydd y sesiwn hon yn dangos i chi sut i gael mynediad at eich cyfrif myfyrwyr ar wahanol systemau ac yn cyfeirio myfyrwyr at gymorth technegol priodol ar gyfer unrhyw faterion a wynebir. |
Cwblhau tasgau ymsefydlu ar-lein | Dydd Mawrth 29 Medi 2020 | 13.00-16.00 | Ar-lein | Slot pwrpasol yw hwn i fyfyrwyr gael cwblhau gweithgareddau ymsefydlu sy'n cael eu darparu fel hyfforddiant ar-lein – cewch fanylion y cyrsiau hyn drwy Ddysgu Canolog, byddwch wedi derbyn arweiniad ar ei ddefnyddio yn sesiwn TG y bore. |
Sesiwn holi ac ateb Opsiynau Modiwlau | Dydd Mercher 30 Medi 2020 | 10.00 | Ar-lein | Bydd cynrychiolwyr o sawl Ysgol yn ateb eich cwestiynau am y modiwlau amrywiol y gellir eu dewis o fewn y rhaglen. Yn dilyn y sesiwn hon, byddwch yn cyflwyno eich dewisiadau modiwl. |
Cyflwyniad Rhagarweiniol | Dydd Iau 1 Hydref 2020 | 10.00 | Ar-lein | Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn cwrdd â chydlynydd eich blwyddyn a byddwch yn dysgu mwy am yr Ysgol, eich cwrs a rhai polisïau a gweithdrefnau pwysig. |
Sesiwn Proffesiynoldeb | Dydd Iau 1 Hydref 2020 | 12.00 | Ar-lein | Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â'r sgiliau a'r ymddygiadau proffesiynol a ddisgwylir gennych yn ystod eich astudiaethau. |
Mae'r cyfnod ymsefydlu ar gyfer BDS Llawfeddygaeth Ddeintyddol ddydd Llun 28 Medi 2020. Mae’n rhaid i bob myfyriwr gymryd rhan yn y sesiynau ymsefydlu rhithwir.
Sylwer, er eich diogelwch chi, bydd ydigwyddiadau hyn yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd rhithwir dros Zoom. Sicrhewch eich bod yn gosod cleient Zoom ar eich ffôn neu'ch dyfais cyn dyddiad ac amser y cyfarfod.
Bydd darlithoedd a sesiynau ymarferol yn dechrau o ddydd Llun, 5 Hydref 2020.
Digwyddiad | Dyddiad | Amser | Lleoliad | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Ymsefydlu yn yr Ysgol | Dydd Llun 28 Medi 2020 | 10.00 | Ar-lein | Bydd copi i'w lawrlwytho o amserlen yr wythnos gyntaf yn cael ei roi i chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu, gyda'r gweddill ar gael ar-lein yn nes at yr amser hwnnw. |
Cyfle i gwrdd â'ch Mentor Myfyrwyr | Dydd Llun 28 Medi 2020 | 15.00 | Ar-lein | Cyfle i gwrdd â'ch Mentor Myfyrwyr. |
Sesiwn Ymsefydlu TG | Dydd Mawrth 29 Medi 2020 | 10.00 | Ar-lein | Bydd y sesiwn hon yn dangos i chi sut i gael mynediad at eich cyfrif myfyrwyr ar wahanol systemau ac yn cyfeirio myfyrwyr at gymorth technegol priodol ar gyfer unrhyw broblemau y maen nhw’n eu hwynebu. |
Cwblhau tasgau ymsefydlu ar-lein | Dydd Mawrth 29 Medi 2020 | 14.00-16.00 | Ar-lein | Slot pwrpasol yw hwn i fyfyrwyr gael cwblhau gweithgareddau ymsefydlu sy'n cael eu darparu fel hyfforddiant ar-lein – cewch fanylion y cyrsiau hyn drwy Ddysgu Canolog, byddwch wedi derbyn arweiniad ar ei ddefnyddio yn sesiwn TG y diwrnod blaenorol. |
Cyflwyniad Llywydd Undeb y Myfyrwyr Deintyddol | Dydd Mercher 30 Medi 2020 | 13.00 | Ar-lein | Cyflwyniad rhagarweiniol gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr Deintyddol. |
Ar ôl i chi gwblhau ymrestriad ar-lein, dylech allu mewngofnodi i Ddysgu Canolog a llywio i'r dudalen Cyhoeddiadau i ddod o hyd i ragor o wybodaeth i fyfyrwyr newydd.
Bydd myfyrwyr yn cael cotiau labordy gwyn a sbectol diogelwch am ddim yn ystod eu sesiwn ymarferol gyntaf, a bydd y manylion yn cael eu darparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu.