Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Gwybodaeth am ymrestru ac ymsefydlu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Myfyrwyr newydd
Cyn ymsefydlu, cwblhewch y tasgau canlynol:
- Cwblhewch yr ymrestru ar-lein
- Os nad oes un gennych eisoes, casglwch eich Cerdyn Myfyriwr
- Ystyriwch osod Office 365 yn enwedig Microsoft Teams client.
- Cwblhewch unrhyw drefniadau personol e.e. agor cyfrif banc
- Cewch ragor o fanylion ar dudalen Myfyrwyr Newydd - Prifysgol Caerdydd
- Edrychwch ar fap adeiladau Caerdydd (mae ABACWS yn lleoliad 68, mae Adeilad De’r Frenhines yn lleoliad 65)
Bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gasglu eich gliniadur, felly dylech ei gasglu cyn gynted â phosibl.
Israddedigion
BSc Cyfrifiadureg, BSc Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg ac MSci Cyfrifiadureg
Dydd Llun 26 Medi 2022
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
13:00-14:50 | Sgwrs ymsefydlu | ABACWS, Ystafell 0.01 |
15.00-16:00 | Cyflwyniad i Dysgu Canolog (Mewn grwpiau sy'n dechrau A, B neu C yn y drefn honno). | ABACWS, Ystafelloedd 1.34/1.39 (labordy) |
Hyfforddiant gorfodol
Mae'n ofynnol i chi gwblhau hyfforddiant Iechyd a Diogelwch (Iechyd a Diogelwch) a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (ED&I). Mae'r naill fel y llall ar gael ar-lein.
Rydym wedi neilltuo'r amseroedd canlynol yn ein labordai cyfrifiadurol (ABACWS, ystafelloedd 1.34/1.39) i chi gwblhau'r hyfforddiant hwn.
Grŵp A: Dydd Mercher 28 Medi am 1pm
Grŵp B: Dydd Iau 29 Medi am 1pm
Grŵp C: Dydd Gwener 30 Medi am 1pm
Mae croeso i chi gwblhau'r hyfforddiant ar eich dyfais eich hun hefyd.
BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (Prentisiaeth Gradd)
Dydd Llun, 26 Medi
Casglu Gliniaduron - dylech drefnu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Katherine Johnson yn Adeiladau'r Frenhines . Trefnwch eich slot casglu ar gyfer bore dydd Llun 26 Medi 2022.
Dydd Mawrth, 27 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
Bore | Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â chlybiau'r Undeb Athletau, ewch i Ffair yr Undeb Athletau y bore yma gan ei bod yn cael ei chynnal heddiw ac yfory, gan fod gennych ddigwyddiadau ymsefydlu a fydd yn gwrthdaro. | Undeb y Myfyrwyr |
13:00 – 14:50 | Sgwrs ymsefydlu | ABACWS, Ystafell 2.26 |
15:00-16:00 | Cyflwyniad i Dysgu Canolog Taith o amgylch y Llyfrgell Wyddoniaeth Taith o amgylch Canolfan Bywyd y Myfyrwyr/Undeb y Myfyrwyr | ABACWS, Ystafell 1.34/1.39 |
Dydd Mercher, 28 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
09:30 – 12:00 | Ymweliad ag adeilad NSA yng Nghasnewydd | Adeilad NSA, Casnewydd |
Sut i gyrraedd adeilad yr NSA yng Nghasnewydd
Trên yw’r ffordd hawsaf o gyrraedd adeilad NSA yng Nghasnewydd. Byddwn yn cychwyn yng ngorsaf Cathays (sydd y drws nesaf i Abacws). Daliwch unrhyw drên sy'n stopio yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd y trên fel arfer yn stopio ar blatfform 7 neu 8. Defnyddiwch y twnnel i fynd i blatfformau 1 a 2.
O'r fan hon, gallwch ddal nifer o drenau sy'n stopio yng Nghasnewydd. Bydd trenau i Lundain, Nottingham, Manceinion, gogledd Cymru a de-orllewin Lloegr i gyd yn stopio yng Nghasnewydd. Pan fyddwch yn cyrraedd gorsaf Casnewydd, byddwch fel arfer yn mynd ar blatfform 3 neu 4. Ewch i fyny'r grisiau a dilynwch yr arwyddion ar gyfer platfform 1, yna gadewch drwy’r allanfa ddeheuol. Trowch i'r chwith a cherddwch heibio'r arosfannau bysiau.
Mae gwaith adeiladu (pont droed newydd) ychydig heibio'r arosfannau bysiau ac mae'r fynedfa i adeilad NSA y tu ôl i'r rhwystrau diogelwch.
Hyfforddiant Gorfodol
Mae'n ofynnol i chi gwblhau hyfforddiant Iechyd a Diogelwch (Iechyd a Diogelwch) a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (ED&I). Mae'r naill fel y llall ar gael ar-lein.
Gallwch ddefnyddio mannau addysgu NSA i gwblhau'r hyfforddiant hwn ar ôl 1pm.
Mae croeso i chi gwblhau'r hyfforddiant ar eich dyfais eich hun hefyd.
Ôl-raddedigion
MSc Cyfrifiadureg Uwch
Dydd Llun, 26 Medi
Casglwch eich gliniadur - dylech drefnu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Katherine Johnson yn Adeiladau'r Frenhines brynhawn Llun 26 Medi 2022.
Dydd Mercher, 28 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
14:00 | Croeso | ABACWS, Ystafell 2.26 |
Sesiynau Galw Heibio ar gyfer Modiwlau Dewisol
Rydym wedi trefnu i arweinwyr modiwlau dewisol Blwyddyn 4 fod ar gael ddydd Iau 29 Medi 2022 i ateb eich cwestiynau. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am amseriad a fformatau'r sesiynau hyn.
MSc Deallusrwydd Artiffisial
Dydd Mercher, 28 Medi
Casglwch eich gliniadur - dylech drefnu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Katherine Johnson yn Adeiladau'r Frenhines.
Trefnwch amser i gasglu eich gliniadur fore dydd Mercher 28 Medi 2022.
Dydd Iau, 29 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
15:00 | Gair o Groeso | ABACWS, Ystafell 5.05 |
MSc Cyfrifiadura a Rheoli TG
Dydd Mercher, 28 Medi
Casglwch eich gliniadur - dylech drefnu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Katherine Johnson yn Adeiladau'r Frenhines brynhawn Mercher 28 Medi 2022.
Dydd Iau, 29 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
13:00 | Gair o Groeso | ABACWS, Ystafell 0.01 |
MSc Cyfrifiadura
Dydd Llun, 26 Medi
Casglwch eich gliniadur - dylech drefnu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Katherine Johnson yn Adeiladau'r Frenhines brynhawn Llun 26 Medi 2022.
Dydd Mercher, 28 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
13:00 | Gair o Groeso | ABACWS, Ystafell 0.01 |
MSc Seiberddiogelwch ac MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg
Dydd Iau, 29 Medi
Casglwch eich gliniadur - dylech archebu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Katherine Johnson yn adeiladau'r Frenhines fore Iau 29 Medi 2022.
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
13:00 | Gair o Groeso | ABACWS, Ystafell 4.07 |
Dydd Gwener 30 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
13:00 | Tiwtorial Python | ABACWS, Ystafell 5.05 |
MSc Peirianneg Meddalwedd
Dydd Mercher, 28 Medi
Casglwch eich gliniadur - dylech drefnu slot i gasglu eich gliniadur o Ystafell Katherine Johnson yn Adeiladau'r Frenhines. Trefnwch amser i gasglu eich gliniadur fore Mercher 28 Medi 2022.
Dydd Iau, 29 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
09:30 | Croeso i arweinydd y rhaglen a gweithgareddau cynefino | Adeilad NSA, Casnewydd |
Sut i gyrraedd adeilad yr NSA yng Nghasnewydd
Trên yw’r ffordd hawsaf o gyrraedd adeilad NSA yng Nghasnewydd. Byddwn yn cychwyn yng ngorsaf Cathays (sydd y drws nesaf i Abacws). Daliwch unrhyw drên sy'n stopio yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd y trên fel arfer yn stopio ar blatfform 7 neu 8. Defnyddiwch y twnnel i fynd i blatfformau 1 a 2.
O'r fan hon, gallwch ddal nifer o drenau sy'n stopio yng Nghasnewydd. Bydd trenau i Lundain, Nottingham, Manceinion, gogledd Cymru a de-orllewin Lloegr i gyd yn stopio yng Nghasnewydd. Pan fyddwch yn cyrraedd gorsaf Casnewydd, byddwch fel arfer yn mynd ar blatfform 3 neu 4. Ewch i fyny'r grisiau a dilynwch yr arwyddion ar gyfer platfform 1, yna gadewch drwy’r allanfa ddeheuol. Trowch i'r chwith a cherddwch heibio'r arosfannau bysiau.
Mae gwaith adeiladu (pont droed newydd) ychydig heibio'r arosfannau bysiau ac mae'r fynedfa i adeilad NSA y tu ôl i'r rhwystrau diogelwch.
Dydd Gwener 30 Medi
Amser | Gweithgaredd | Lleoliad |
---|---|---|
13:00 | Gair o Groeso | ABACWS, Ystafell 2.26 |
Cael cefnogaeth gan fyfyrwyr cyfeillgar a phrofiadol yn eich Ysgol.