Eich adnoddau digidol a rhaglenni TG
Diweddarwyd: 25/10/2022 11:26
Ar ôl ymrestru, bydd ystod o adnoddau digidol, rhaglenni TG, meddalwedd a chymorth ar gael ichi tra byddwch chi’n astudio yma.
Bydd y canlynol ar gael ichi hefyd:
- y gyfres o raglenni Microsoft 365 (gan gynnwys Teams a'r gyfres o raglenni Office) yn rhad ac am ddim
- cyfrif Zoom y gallwch chi ei ddefnyddio ar gyfer galwadau yn y Brifysgol a galwadau personol
- rhwydwaith diwifr y Brifysgol, sef eduroam
- ap y myfyrwyr a mewnrwyd y myfyrwyr
- rhaglen gwirio sillafu a gramadeg yn y Gymraeg, sef Cysgliad
- Cyfrifiaduron y mae angen trefnu amser i’w defnyddio ymlaen llaw ac argraffwyr
- Rhwydwaith Preifat Rhithwir y Brifysgol (VPN)
- rhaglenni digidol gan gynnwys SIMS ar-lein, Dysgu Canolog (ein hamgylchedd dysgu rhithwir), LibrarySearch, a MATLAB
- cymorth a chefnogaeth TG dros y ffôn 24/7.
Amgylchedd dysgu rhithwir
Mae gan bob cwrs adran benodol yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir, sef Dysgu Canolog. Mae ar gael drwy’r we, a bydd pethau ar gael ichi yma i’w darllen, eu gwylio a’u gwneud ar-lein, gan ddibynnu ar eich cwrs. Byddwch chi’n cyflwyno’r rhan fwyaf o’ch aseiniadau ar-lein ac yn cael marciau ac adborth yma, hefyd.
Mae Panopto yn ei gwneud yn bosibl recordio darlithoedd a gweithgareddau dysgu eraill. Mae’r recordiadau’n cael eu rhannu ar-lein wedyn drwy Ddysgu Canolog, a bydd modd eu gweld ar-lein neu drwy ap ar eich ffôn symudol. Gall adolygu’r recordiadau fod yn arbennig o ddefnyddiol tuag adeg arholiadau ac asesiadau.
Mewnrwyd y myfyrwyr
Unwaith y byddwch chi wedi ymrestru, byddwch chi’n gallu defnyddio mewnrwyd y myfyrwyr. Yma, byddwch chi’n gallu gweld y newyddion diweddaraf a manylion am ddigwyddiadau ar y campws, manteisio ar yr holl offer, rhaglenni, adnoddau, gwasanaethau a manteision sydd ar gael ichi a chael rhagor o wybodaeth am adeiladau, cyfleusterau a thimau’r Brifysgol.
Bod yn ddiogel ar-lein
Cofiwch osod meddalwedd gwrth-feirysau ar eich dyfais a’i diweddaru’n gyson. Ar hyn o bryd, gallwch chi lawrlwytho a defnyddio copi o'r feddalwedd wrth-feirws Sophos Home yn rhad ac am ddim.
Gallwch chi gael rhagor o gyngor a gwybodaeth am sut i fod yn ddiogel ar-lein ar fewnrwyd y myfyrwyr.
Gallwch gofrestru ar-lein 3 wythnos cyn i chi ddechrau.