Cerdyn adnabod myfyriwr
Mae eich cerdyn adnabod myfyriwr yn brawf o bwy ydych chi, yn eich galluogi i gael mynediad i’r llyfrgell ac at e-ddysgu a’ch galluogi i fynd mewn i adeiladau’r Brifysgol.
Mae’ch cerdyn adnabod myfyriwr yn ddilys yn ystod eich cyfnod astudiaeth, ac mae’n rhaid i chi ei gario ar safleoedd y Brifysgol.
Mae ei gasglu yn gam gorfodol yn y broses gofrestru. Os ydych yn dod i'r campws, bydd angen i chi nôl eich cerdyn yn bersonol o fewn tair wythnos i ddyddiad dechrau eich cwrs.
Rhaid i chi gasglu eich cerdyn adnabod unwaith y byddwch yn ymuno â'r campws i gwblhau ymrestriad.
Cyn y gallwch gasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr, mae’n rhaid i chi gwblhau’r broses gofrestru ar-lein. Ar ol ymrestru, gallwch ymweld â phwynt casglu Parc Cathays neu Barc y Mynydd Bychan (yn dibynnu ar leoliad eich cwrs) i gael cerdyn myfyriwr.
Myfyrwyr rhyngwladol
Fe fydd rhaid i myfyriwyr rhyngwladol sy'n astudio ar y campws dod a’i basbort a'i ddogfennau fisa berthnasol i gadarnhau ei hawl i astudio i gael ei Cerdyn Myfyriwr. Gallwch gasglu eich Trwydded Breswyl Fiometrig (BRP) o'r digwyddiad casglu cardiau myfyrwyr. Gallwch gasglu BRP neu gerdyn adnabod drwy apwyntiad yn unig. Byddwch yn derbyn ebost am y broses trefnu apwyntiadau BRP pan fydd eich BRP yn barod i'w gasglu.
Myfyrwyr o’r DU neu’r UE (gyda statws sefydlog neu gyn-sefydlog)
Os ydych chi'n fyfyriwr o’r DU neu’r UE (statws UESS), ni chaiff eich cyllid myfyriwr ei dalu i chi nes eich bod wedi cwblhau eich gwiriadau 'Hawl i Astudio' drwy lanlwytho'r dogfennau adnabod gofynnol a'u bod wedi'u cymeradwyo gan y Brifysgol.
Beth fydd angen i chi ddod gyda chi i gael eich cerdyn
Os ydych chi'n fyfyriwr cartref, ac eisoes wedi uwchlwytho eich dogfennau adnabod, bydd angen i chi ddod â math o brawf o'ch hunaniaeth. Os nad ydych wedi gallu uwchlwytho eich dogfennau adnabod, rhaid i chi ddod â nhw gyda chi i gasglu eich cerdyn myfyriwr.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, bydd angen i chi ddod â'ch pasbort gwreiddiol a'ch dogfennau fisa i'r lleoliad casglu cerdyn adnabod myfyriwr.
I gael gwybod mwy, gweler ein rhestr o ddogfennau derbyniol.
Dylech wneud yn siŵr hefyd fod eich rhif myfyriwr wrth law.
Mannau casglu cerdyn adnabod myfyriwr
Dylai myfyrwyr gasglu eu cerdyn adnabod myfyriwr o'r lleoliadau canlynol, oni bai bod eich Ysgol wedi rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau a drefnwyd ar wahân.
Myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr cartref
Trefnwch i fynychu'r digwyddiad casglu cardiau adnabod a BRP ar 1 Chwefror 2022.
Myfyrwyr Parc Cathays
O 10 Ionawr 2022 ymlaen
Cyswllt Myfyrwyr, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Dydd Llun – Dydd Gwener, 09:15-17.00.
Myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan (myfyrwyr cartref yn unig)
Adeilad Cochrane (Llawr Gwaelod), Parc y Mynydd Bychan
Dydd Llun i ddydd Gwener - 10:00 i 15:00.
Os nad ydych yn casglu eich cerdyn
Os byddwch yn dod i'r campws, nid ydych wedi cwblhau'r broses cofrestru nes y byddwch wedi casglu eich cerdyn myfyriwr.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, mae’n ofynnol i’r Brifysgol eich cofnodi fel ‘Ddim yn Bresennol’ o dan ei gytundeb trwydded noddi gyda Mewnfudo Fisa’r Deyrnas Unedig.
O dan rheoliadau’r Brifysgol, bydd methu â chasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr o fewn pedair wythnos o ddechrau eich cwrs yn amharu ar eich astudiaethau (oni bai eich bod wedi derbyn cadarnhad eich bod yn astudio o bell).
Os byddwch yn newid eich rhaglen
Gall newid eich rhaglen effeithio ar gyfnod eich astudiaeth. Os ydych yn newid eich rhaglen, bydd angen i chi gael cerdyn myfyriwr newydd o un o'r mannau casglu cerdyn adnabod myfyrwyr.
Gwneud cais ar gyfer cerdyn adnabod myfyriwr drwy'r post
Os ydych ar gwrs sydd wedi'i ddynodi fel dysgu o bell ac yr hoffech gael cerdyn adnabod myfyriwr, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais cerdyn myfyriwr a'i anfon i swyddfa eich Ysgol gyda llun pasbort.
Bydd angen i chi wneud trefniadau gydag eich Ysgol i’w ddosbarthu unwaith y bydd wedi cael ei gynhyrchu.
Cysylltu
Ar gyfer pob ymholiad yn ymwneud â'r cerdyn adnabod myfyriwr, cysylltwch â:
Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i’ch helpu chi ymgartrefu ym Mhrifysgol Caerdydd.