Ewch i’r prif gynnwys

Cael eich cyllid

Diweddarwyd: 12/07/2023 10:07

Deall sut a phryd byddwch yn cael eich cyllid, ac osgoi oediadau.

Cael eich cyllid gan Gyllid Myfywyr

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n cael cyllid llawn drwy Gyllid Myfyrwyr a myfyrwyr gofal iechyd sy’n cael cyllid gan y GIG ac sydd wedi cyflwyno cais am gyfradd ostyngol y Benthyciad Cynhaliaeth yn unig.

Cyllid cynhaliaeth

Os ydych chi'n gymwys am gyllid cynhaliaeth, fel Benthyciad a/neu Grant Cynhaliaeth, dylai gael ei dalu i’ch cyfrif banc enwedig ar ôl i chi ymrestru, cyn belled â’ch bod:

  • wedi cwblhau eich cais am gyllid ac wedi nodi’r manylion cywir am y brifysgol a’r cwrs
  • wedi cwblhau’r broses ymrestru
  • wedi cwblhau'r dasg "hawl i astudio".

Gan na fydd eich cyllid myfyrwyr yn cyrraedd tan ar ôl Wythnos y Glasfyfyrwyr (am eich bod yn ymrestru’r adeg honno), mae’n hanfodol eich bod yn dod â digon o arian ar gyfer eich costau byw beunyddiol (fel bwyd, teithio anghenrheidiol ag adloniant) dros y wythnosau cyntaf yn y Brifysgol.

Diwygio eich cais am Gyllid Myfyrwyr

Os yw’r manylion ynghylch eich prifysgol neu eich cwrs yn anghywir ar eich cais am gyllid, y ffordd gyflym a rhwydd o ddiweddaru’r rhain yw drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein cyn 1 Medi a dewis ‘Newid eich cais’. Dylai gymryd tua 20 o ddiwrnodau gwaith i Gyllid Myfyrwyr brosesu’r newid.

Ar ôl 1 Medi, ni fyddwch yn gallu newid y manylion eich hun. Yn lle hynny, cysylltwch â’r Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr i gael cymorth ynghylch hyn.

Os ydych yn dod i Brifysgol Caerdydd drwy Glirio, mae Cyllid i Fyfyrwyr Clirio yn cynnig mwy o wybodaeth am y broses o ddiweddaru eich cais am Gyllid Myfyrwyr.

Cyllid am ffioedd dysgu drwy Gyllid Myfyrwyr

Os ydych wedi gwneud cais ac yn gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu (mae hyn yn cynnwys myfyrwyr gofal iechyd sydd wedi optio allan o gyllid y GIG), ewch i’r adran am ffioedd dysgu i gael gwybodaeth am sut mae eich cyllid ar gyfer ffioedd dysgu yn cael ei gadarnhau i’r Brifysgol, a’ch cyfrifoldebau i wneud yn siŵr bod eich ffioedd dysgu’n cael eu talu.

Cael eich cyllid gan y GIG

Fel arfer, mae myfyrwyr BN Nyrsio a BM Bydwreigiaeth yn cael cyllid gan y GIG am gostau byw dros 12 mis. Fel arfer, bydd y taliad llawn cyntaf yn cael ei dalu ar ddiwedd mis Hydref ac ar ddiwedd pob mis o hynny allan.

Ar gyfer cyrsiau eraill yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, telir Cyllid gan y GIG yng nghanol y mis, dros 10 mis fel arfer. Yng nghanol mis Hydref fydd y taliad misol llawn cyntaf fel arfer. Bydd Swyddfa Ariannol Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn trefnu’r taliadau gan Gyllid y GIG i mewn i’ch cyfrif banc.

I gael cyllid gan y GIG, rhaid i chi fod wedi cael eich hysbysiad am ddyfarniad gan Wasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG a anfonir atoch drwy ebost. Anfonir copi o’r hysbysiad hwn i Swyddfa Ariannol Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Fel arfer, telir cyllid gan y GIG am gostau byw i fyfyrwyr Hylendid a Therapi Deintyddol mewn rhandaliadau fesul term, a’r Ysgol Deintyddiaeth sy’n trefnu’r taliadau.  Bydd angen i chi fod wedi cael eich hysbysiad am ddyfarniad gan Wasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr y GIG er mwyn trefnu’r taliad.

Cyllid ar gyfer ffioedd dysgu drwy'r GIG

I’r holl fyfyrwyr a ariennir gan y GIG, bydd Gwasanaeth Dyfarniadau’r GIG i Fyfyrwyr Cymru’n talu’r ffioedd dysgu’n uniongyrchol i Brifysgol Caerdydd.

Paratoi cyllideb

Cyn i chi gyrraedd, mae’n bwysig cynllunio eich cyllideb. Dysgwch fwy am gostau byw a chyllidebu.

Cyngor pellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cyllid myfyrwyr neu gyllid arall cysylltwch â:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr

Cymorth i Fyfyrwyr Ysgol Fusnes Caerdydd (Ysgol Busnes Caerdydd)