Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu’r holl fyfyrwyr newydd i’r campws ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2022/23.
Ymsefydlu israddedigion
Cyn i chi gyrraedd Caerdydd, bydd angen i chi ymrestru ar-lein.
Rydym yn creu rhaglen o ddigwyddiadau ymsefydlu wyneb yn wyneb ac ar-lein a fydd yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 26 Medi 2022. Mae'r amserlen ar gyfer y digwyddiadau hyn yn cael ei chwblhau a bydd yn cael ei hebostio atoch erbyn canol mis Medi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich cyfrif ebost prifysgol. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am eich ysgol a'r brifysgol, a byddwch yn cwrdd â staff a'ch cyd-fyfyrwyr.
Ymsefydlu i ôl-raddedigion
Cyn i chi gyrraedd Caerdydd, bydd angen i chi ymrestru ar-lein.
Rydym ni'n creu rhaglen o ddigwyddiadau ymsefydlu wyneb yn wyneb ac ar-lein a fydd yn cael ei chynnal wythnos yn dechrau ar 26 Medi 2022 i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae union amserlen y digwyddiadau ar gyfer pob rhaglen yn cael ei chwblhau'n derfynol a bydd yn cael ei ebostio atoch. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich cyfrif ebost prifysgol yn rheolaidd. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am eich ysgol a'r brifysgol, a byddwch yn cwrdd â staff a'ch cyd-fyfyrwyr.
Cael cefnogaeth gan fyfyrwyr cyfeillgar a phrofiadol yn eich Ysgol.