Cofrestru i ôl-raddedigion
Gwybodaeth gofrestru i ôl-raddedigion newydd a addysgir ac ôl-raddedigion ymchwil newydd yn yr Ysgol Meddygaeth.
Mae rhaglenni ymsefydlu ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth ynghylch pryd a ble y bydd eich cyfnod sefydlu yn yr ysgol yn cael ei gynnal.
Llongyfarchiadau i chi ar gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd! Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ddechrau astudio gyda ni, ac yn gweithio'n galed i sicrhau y byddwch yn byw ac yn dysgu'n ddiogel.
Er mwyn eich helpu i dod i arfer â bywyd myfyrwyr, rydym wrthi'n cynllunio gweithgareddau ymsefydlu lle bydd cyfle i chi ddod i ymgyfarwyddo â'ch Ysgol Academaidd a'r staff.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu ar y tudalennau yma pan fydd ar gael.
Myfyrwyr ôl-raddedig newydd a addysgir
Y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud fel myfyriwr newydd yw cwblhau tasg cofrestru ar-lein. Bydd y dasg hon yn agor oddeutu mis cyn i’ch rhaglen ddechrau (byddwch yn derbyn neges e-bost yn amlinellu popeth y bydd angen i chi ei wneud).
Mae gan eich rhaglen astudio benodol fanylion ynghylch strwythur, modiwlau a thiwtoriaid y cwrs, a mwy. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cyswllt yr pgtmeddelivery@caerdydd.ac.uk.
Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig newydd
Ar ôl i chi gwblhau ymrestru ar-lein, bydd angen i chi ymrestru gyda'r Ysgol Meddygaeth.
Bydd cofrestriad ysgol yn digwydd ar 1 Hydref 2021. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, cynhelir y digwyddiad trwy ddulliau electronig (Zoom). Byddwn yn anfon ebost atoch i gadarnhau'r amser a'r dyddiad ar gyfer y digwyddiad yn y dyfodol agos.
Bydd angen i chi gael y dogfennau canlynol gyda chi:
- Pasbort
- Fisa (os yw’n berthnasol)
Ebostiwch y dogfennau canlynol i’r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig pgrmedic@caerdydd.ac.uk cyn eich apwyntiad:
- Copi wedi'i lofnodi o Gôd Ymarfer Myfyrwyr