Peirianneg
Diweddarwyd: 18/10/2023 15:33
Gwybodaeth am ymsefydlu i israddedigion ac ôl-raddedigion yn yr Ysgol Peirianneg
Croeso i bob myfyriwr Peirianneg newydd yn 2023/24
Cynhelir yr Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 25 Medi, cyn i’r addysgu ddechrau ddydd Llun, 2 Hydref yr wythnos ganlynol.
Fe’ch cynghorir yn gryf i fynd i’r digwyddiadau hyn, yn enwedig os nad ydych wedi mynd i'r brifysgol o'r blaen. Cewch gyfle i gwrdd â myfyrwyr eraill ar eich cwrs, cwrdd â rhai aelodau o’r staff academaidd, gofyn cwestiynau i fyfyrwyr presennol a dechrau dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas yr adeiladau.
Bydd holl ddigwyddiadau ymsefydlu'r Ysgol ar gyfer israddedigion a myfyrwyr MSc newydd yn cael eu cynnal yn Adeiladau'r Frenhines, ychydig oddi ar Heol Casnewydd (y côd post yw CF24 3AA).
Bydd amserlenni Wythnos Groeso manwl yn cael eu e-bostio atoch yn nes at yr amser. Byddant hefyd yn cael eu cyhoeddi yn Llawlyfr y Myfyrwyr ar Dysgu Canolog – ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Mae amlinelliad o'r rhaglen ymsefydlu ar gyfer pob grŵp o fyfyrwyr i'w gweld isod.
Israddedigion
Rhaglen | Dyddiad ac amser |
Peirianneg Integredig a Pheirianneg Drydanol ac Electronig – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Drydanol ac Electronig) | Dydd Llun, 25 Medi |
Peirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen | Dydd Llun, 25 Medi |
Peirianneg Bensaernïol, Sifil, Sifil ac Amgylcheddol – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Bensaernïol, Sifil ac Amgylcheddol) | Dydd Mawrth, 26 Medi |
Peirianneg Fecanyddol a Meddygol – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Fecanyddol a Meddygol), Grŵp 1 | Dydd Mercher, 27 Medi 09:00 – 11:00 |
Dydd Iau, 28 Medi | |
Peirianneg Fecanyddol a Meddygol – Blwyddyn 1 (adran Peirianneg Fecanyddol a Meddygol), Grŵp 2 | Dydd Mercher, 27 Medi 10:30 – 12:30 |
Dydd Iau, 28 Medi 11:00 – 16:00 | |
Erasmus/Rhaglen gyfnewid/Myfyrwyr sy'n dod o dramor i astudio | Dydd Gwener, 29 Medi |
Ôl-raddedigion
Rhaglen | Dyddiad ac amser |
---|---|
MSc Peirianneg Sifil/Strwythurol/Sifil a Dŵr/Sifil a Geo-amgylcheddol, Modelu Gwybodaeth am Adeiladau a Seilwaith at Ddibenion Peirianneg Glyfar | Dydd Mawrth, 26 Medi |
MSc Uwch-Beirianneg Fecanyddol, Arloesi a Rheoli ym Maes Peirianneg Gweithgynhyrchu, Ynni Cynaliadwy a'r Amgylchedd | Dydd Mercher, 27 Medi |
MSc Electroneg/Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon, Systemau Ynni Trydanol, Peirianneg Sero Net | Dydd Gwener, 29 Medi |
Cael cefnogaeth gan fyfyrwyr cyfeillgar a phrofiadol yn eich ysgol.