Paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig yn yr Ysgol Meddygaeth
Diweddarwyd ddiwethaf: 08/12/2020 19:33
Croeso i gymuned Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir yn y Ganolfan Addysg Feddygol. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi a'ch cefnogi wrth i chi ddechrau ar eich taith ddysgu gyda ni.
Yma fe welwch awgrymiadau ac adnoddau i’ch paratoi ar gyfer dechrau’r rhaglen o’ch dewis ac i’ch helpu yn ystod yr wythnosau cyntaf o fod yn fyfyriwr ôl-raddedig. Bydd y dolenni ar gael drwy gydol eich rhaglen fel y gallwch fynd yn ôl atynt os oes angen.
Darllen Siarter y Myfyrwyr
P’un a ydych yn mynychu Caerdydd yn bersonol neu’n astudio ar un o’r rhaglenni Dysgu o Bell, mae’r Siarter Myfyrwyr yn amlinellu’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â’r hyn a ddisgwylir gennych chi fel myfyriwr. Rydym yn argymell yn gryf ei ddarllen cyn i chi gyrraedd neu ddechrau eich rhaglen. Darllen Siarter y Myfyrwyr i gyd.
Paratoi ar gyfer eich astudiaethau ôl-raddedig
Rydym yn ymwybodol y gallai fod yn amser ers i chi astudio’n ffurfiol, ac y bydd llawer ohonoch yn astudio yn ogystal â gweithio yn eich maes dewisol.
Rydym wedi paratoi fideo byr a fydd yn eich cyflwyno i rai awgrymiadau defnyddiol i’ch paratoi ar gyfer astudiaethau academaidd ar lefel ôl-raddedig. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud nawr i baratoi ar gyfer eich rhaglen.
Asesu eich sgiliau astudio
Rydym yn gwybod y bydd llawer o’n myfyrwyr ôl-raddedig yn ymuno â ni beth amser ar ôl eu profiad diwethaf o fywyd academaidd.
Er mwyn astudio’n effeithiol, mae angen i chi ddatblygu rhai sgiliau academaidd a sgiliau digidol hanfodol, a bydd deall ac ystyried lefel eich sgiliau presennol yn eich galluogi i flaenoriaethu eich dysgu a chyfeirio eich ymdrechion at y meysydd lle mae eu hangen fwyaf.
Bydd ein hofferyn asesu eich sgiliau academaidd yn eich helpu i wneud hynny. Rydym yn argymell eich bod yn ei ddefnyddio cyn i chi ddechrau nodi pa un o’r llu o adnoddau a allai fod yn addas ar gyfer unrhyw anghenion ychwanegol yr ydych yn eu hadnabod.
Datblygu’r sgiliau astudio cywir
Mae myfyrwyr blaenorol wedi dweud wrthym fod cael cymorth i ddatblygu’r sgiliau astudio cywir yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w profiad ôl-raddedig. Dewch o hyd i adnoddau i’ch helpu i ddatblygu sgiliau mewn:
- darllen ac ymchwilio
- meddwl yn ddadansoddol
- gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol
- dyfynnu geirda’n gywir
- ysgrifennu at safon academaidd
- osgoi llên-ladrad (uniondeb academaidd)
Edrychwch ar ein canllaw sgiliau astudio.
Canllaw offer a meddalwedd
I wneud yn siŵr eich bod yn barod i fynd ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs, rydym yn argymell gwneud yn siŵr bod gennych yr offer a’r feddalwedd gywir nawr a’u profi i wneud yn siŵr eu bod yn barod i fynd. Dyma ganllaw dechrau arni ddefnyddiol i wneud hynny.