Pensaernïaeth
Gwybodaeth am gofrestru ac ymsefydlu yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
Llongyfarchiadau ar gael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym ni’n edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ddechrau eich astudiaethau, ac yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr y byddwch yn byw ac yn dysgu mewn modd diogel.
Cyn i chi gyrraedd Caerdydd, bydd angen i chi ymrestru ar-lein.
Yn ogystal ag ymrestru ar-lein, bydd cyfres o ddigwyddiadau ymsefydlu hefyd cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 27 Medi 2021. Mae amserlen derfynol y digwyddiadau hyn yn cael ei llunio ar hyn o bryd, ond bydd yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, wedi’u rhannu rhwng pynciau ac Ysgolion Academaidd.
Bydd eich amserlen sefydlu ar gael ar y tudalennau hyn ychydig ddyddiau cyn dechrau'r tymor. Mynnwch gip ar y wefan yn aml i weld a oes diweddariadau.