Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Mentora Myfyrwyr

Cynllun Mentora Myfyrwyr.

Gall dechrau yn y brifysgol fod ychydig yn frawychus, ac efallai y bydd gennych lawer o gwestiynau y byddai'n well gennych eu gofyn i fyfyriwr presennol yn hytrach nag aelod o’r staff. Dyma lle gall myfyriwr sy’n fentora eich helpu i ymgartrefu.

certificate

Arobryn

Cynllun mentora arobryn dan arweiniad myfyrwyr. Tua 800 o israddedigion hyfforddedig yn helpu myfyrwyr newydd i bontio i fywyd yn y brifysgol.

tick

Wedi’i gymeradwyo gan staff academaidd

“... cyngor calonogol gan wyneb cyfeillgar sydd wedi mynd drwy'r un peth yn ddiweddar yn amhrisiadwy ...” Dr Sean Coulman, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

star

10 mlynedd

Yn 2022/23, byddwn yn dathlu deng mlynedd o’r Cynllun Mentora Myfyrwyr; degawd o gymorth, cysylltiadau a theimlad o gymuned.

Os bydd y brifysgol yn newydd i chi, efallai y bydd yn rhaid i chi addasu i ffyrdd newydd o ddysgu ac addysgu, byw oddi cartref neu gymudo i'r brifysgol. A chithau’n fyfyriwr israddedig yn eich blwyddyn gyntaf, bydd mentor o’ch Ysgol Academaidd ar gael i gynnig cyngor uniongyrchol a bod yno i'ch cefnogi.

"Roedd popeth hyd yn oed yn fwy heriol eleni, o ystyried yr amgylchiadau presennol. Heb arweiniad fy mentor, fyddwn i ddim wedi gwybod ble i ddechrau."
Callum Pitfield, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Beth y gall myfyriwr sy’n mentora ei wneud i chi?

Gall myfyrwyr sy’n mentora ateb cwestiynau academaidd ac anacademaidd neu dawelu eich meddwl, gan gynnwys:
  • eich cyflwyno i fyfyrwyr eraill ar eich cwrs
  • ateb y cwestiynau rydych yn wir eisiau eu gofyn
  • rhoi gwybod i chi am y platfformau TG a'r apiau mae’r brifysgol yn eu defnyddio
  • rhannu gwybodaeth am beth i'w ddisgwyl o'ch cwrs a sut i fynd i’r afael â gwaith cwrs ac arholiadau
  • cynnig cyngor ar gymryd nodiadau, cyfeirnodi a defnyddio'r llyfrgell
  • rhoi syniadau i chi o ran ble i siopa, bwyta ac ymlacio
  • rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i chi am Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr
  • rhoi cyngor ymarferol i chi ar bethau fel cofrestru gyda meddyg teulu, cysylltu â gwasanaethau lles a chymorth, ac elwa i’r eithaf ar fod yn fyfyriwr

Sut i gael mentor

Ar ôl i chi gyrraedd, cadwch lygad ar eich mewnflwch, a byddwn yn dweud mwy wrthych am gysylltu â'ch mentor.

"Doeddwn i ddim yn gwybod cymaint o bethau. Gwnaeth fy mentor fy helpu i’w deall, gan gynnwys rhoi cyngor defnyddiol i mi i wneud fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn haws."
Soyal Khedkar, Ysgol Newyddiaduraeth

Dod yn fentor

Pan fyddwch wedi elwa o gael mentor yn eich blwyddyn gyntaf, gallwch wneud cais i ddod yn fentor eich hun. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, dod yn fwy hyderus a chefnogi eraill wrth iddynt ymgartrefu yn y brifysgol.

Cysylltu â ni

Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)