Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Proses ymrestru ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig newydd a’r rhai sy’n parhau.

Mae rhaglenni ymsefydlu ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth ynghylch pryd a ble y bydd eich cyfnod sefydlu yn yr ysgol yn cael ei gynnal.

I ddechrau, bydd angen i’r holl fyfyrwyr - newydd a’r rhai sy’n parhau - ymrestru ar-lein (hy cofrestru a thalu ffioedd lle nad yw’r rhain wedi’u talu’n uniongyrchol gan naill ai yr Ysgol neu gorff ariannu allanol).

Byddwch yn derbyn llythyr ac ebost gan y Gofrestrfa Academaidd tua tair wythnos cyn dechrau eich rhaglen yn rhoi gwybod i chi fod y dasg ar-lein ar agor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymrestru ar-lein, cysylltwch â’r Tîm Ymrestru drwy ffonio +44 (0)29 2087 6211 neu gyflwyno cwestiwn drwy Holi Caerdydd.

Os ydych chi’n fyfyriwr newydd, bydd rhaid i chi hefyd fynychu digwyddiad ymsefydlu yn yr Ysgol unwaith y byddwch chi’n cwblhau ymrestru ar-lein.

Ymrestru yn eich Ysgol

Bydd y sesiwn orfodol hon yn cael ei chynnal ar ddiwedd mis Medi (dyddiad a lleoliad i’w gadarnhau). Byddwn yn anfon llythyr i chi ym mis Gorffennaf neu Awst yn amlinellu popeth rydych chi angen ei wybod amdano.

Amserlen ymsefydlu

Byddwch yn derbyn eich amserlen ymsefydlu yn sesiwn ymrestru’r Ysgol Seicoleg. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu’r holl sesiynau ymrestru (lle bo’n briodol). Bydd rhai o’r sesiynau hyn yn orfodol.

Bydd yr amserlen ymsefydlu yn cynnwys:

  • sgwrs i gyflwyno gan y Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig
  • gweithdai hyfforddi athrawon ar gyfer y rhai sy’n dymuno cymryd rhan mewn addysgu israddedigion
  • cwrs hyfforddiant diogelwch
  • sesiwn gyflwyno am Bwyllgor Moeseg y Brifysgol
  • sesiwn cyfrifiadura
  • cyflwyniad i’r cyfleusterau llyfrgell
  • sesiwn arddangos panel cyfranogwyr.

Ymrestru yn eich Ysgol

Nid oes angen i fyfyrwyr sy’n parhau fynychu sesiwn ymrestru’r Ysgol. Bydd Clair Southard ar gael ar ddiwedd mis Medi (dyddiad a lleoliad i’w gadarnhau) ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd â phryderon am ymrestru.

Byddwn yn rhoi pecyn ymrestru yn eich blwch colomen yng nghanol mis Medi gyda chopi o’r amserlen ymsefydlu.

Amserlen ymsefydlu

Gwahoddir myfyrwyr a ddechreuodd ar eu hastudiaethau o fis Ionawr 2019 ymlaen i wahodd unrhyw rai o ddigwyddiadau’r rhaglen ymsefydlu ar gyfer myfyrwyr newydd - gallwch ofyn am gopi o’r amserlen ymsefydlu gan Clair Southard.

Noder, os y byddwch yn addysgu am y tro cyntaf, mae’n rhaid i chi fynychu’r sesiwn hyfforddi athrawon.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â Clair Southard neu anfon ebost at psych-phd@caerdydd.ac.uk.