Ewch i’r prif gynnwys

EPSRC

Rydym yn cynnig ysgoloriaethau wedi’u hariannu’n llawn gyda Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP).

Gallwch chwilio am ysgoloriaeth neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.

EPSRC Logo

ESPRC yw prif asiantaeth Llywodraeth y DU ar gyfer ariannu ymchwil a hyfforddiant mewn peirianneg a'r gwyddorau ffisegol - mae'r pynciau o dan sylw yn cynnwys mathemateg, gwyddoniaeth deunyddiau, technoleg gwybodaeth a pheirianneg strwythurol.

Mewn ymateb i feini prawf cymhwysedd newydd UKRI, mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnig gostyngiadau ffioedd rhyngwladol i ymgeiswyr llwyddiannus UKRI. Bydd y ffioedd yr un peth â lefel y ffioedd cartref. Mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd myfyrwyr waeth beth yw eu cenedligrwydd neu sefyllfa ariannol yn gallu ymgeisio am ein hysgoloriaethau UKRI. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth a ariennir yn llawn ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd rhyngwladol arnynt. Mae cap UKRI ar nifer yr ysgoloriaethau rhyngwladol sydd ar gael. Unwaith y bydd y terfyn wedi'i gyrraedd, bydd recriwtio ar gyfer ymgeiswyr 'Cartref' yn unig.

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol EPSRC

Mae ein EPSRC DTP yn cynnig ysgoloriaethau PhD wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, ar draws Ysgolion Academaidd a Sefydliadau Ymchwil rhyngddisgyblaethol. Bydd myfyrwyr yn elwa ar amgylchedd ymchwil lleol rhagorol yn ogystal â rhaglen gynhwysfawr o ymchwil a datblygu sgiliau proffesiynol.

Meysydd y prosiect

Mae prosiectau PhD ar gael ar draws ystod o bynciau sy’n cyd-fynd â chryfderau ymchwil Caerdydd a blaenoriaethau EPSRC. Bydd prosiectau’n seiliedig mewn ysgol academaidd, ond efallai byddant yn gorgyffwrdd â disgyblaethau eraill, yn gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil rhyngddisgyblaethol, ac yn cynnwys cydweithrediadau ag ymchwilwyr gwyddonol eraill, partneriaid diwydiannol a sefydliadau eraill. Bydd prosiectau ar gael drwy dri llwybr:

  • Ysgoloriaethau Safonol
  • Canolfannau Hyfforddiant Doethurol Rhyngddisgyblaethol
  • Ysgoloriaethau CASE

Amcanion

Ein hamcan yw hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil, arloeswyr ac entrepreneuriaid ym maes y gwyddorau ffisegol a pheirianneg, drwy:

  • roi sgiliau ymchwil blaengar i fyfyrwyr, eu cefnogi drwy oruchwyliaeth arbenigol, eu datblygu â seilwaith wedi’i ariannu’n dda a’u meithrin mewn diwylliant ymchwil dynamig
  • eu cefnogi i gyfathrebu eu hymchwil drwy seminarau, cynadleddau allanol a rhwydweithio
  • meithrin ymchwil ryngddisgyblaethol drwy grwpio myfyrwyr peirianneg, ffiseg, cemeg, bioleg, meddygaeth a’r gwyddorau cymdeithasol ynghyd
  • cynnig rhaglen gynhwysfawr o gyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol ac yn yrfaol
  • cynnal gweithgareddau carfan sy’n annog myfyrwyr doethurol i ryngweithio ar draws disgyblaethau
  • ysgogi ymrwymiad i ragoriaeth ac effaith ymchwil, ac ystyried ffyrdd newydd o feddwl.

Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb mewn cael arian ESPRC a chael gwybod am ysgoloriaethau ymchwil eraill a gyhoeddir o dan y cynllun hwn.

Canolfannau Hyfforddiant Doethurol EPSRC

Yn ogystal â'r DTP, mae gan EPSRC Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) hefyd sy'n recriwtio myfyrwyr:

Canolfannau Hyfforddiant Doethurol Rhyngddisgyblaethol EPSRC

Bydd yr canolfannau hyn yn galluogi myfyrwyr i ymuno â charfan fach o ymchwilwyr mewn amgylchedd hyfforddiant rhyngddisgyblaethol.

Mae gwybodaeth am bob un o’r tair canolfan ar gael isod.

Mae modd chwilio drwy’r holl brosiectau sydd ar gael ar ein tudalen chwilio am gyllid. Chwiliwch am ‘EPSRC’ neu enw’r ganolfan yn y blwch ar gyfer chwilio am allweddeiriau.

Nod y ganolfan Glanhau ag Aer oedd mynd i'r afael â llygredd amgylcheddol o ddiheintio a golchi domestig trwy ddatblygu dulliau o gynhyrchu cemegion glanhau gweithredol yn uniongyrchol o gatalydd drwy ddefnyddio aer, gan ddileu'r angen am gemegion gwenwynig traddodiadol. Canolbwyntiodd yr hyb ar ddefnyddio cemegion ocsigen adweithiol a gynhyrchir o aer neu ddŵr trwy wres, trydan, neu ymbelydredd electromagnetig i yrru ocsidiad cemegol a biolegol. Nod yr arloesiad hwn oedd helpu diwydiannau i greu cynhyrchion glanhau glanach, gwyrddach a mwy effeithiol heb unrhyw wastraff cemegol.

Mae'r hyb wedi rhoi hyfforddiant yn seiliedig ar garfan yn llwyddiannus i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gan roi arbenigedd dwfn iddyn nhw mewn ymchwil glanhau uwch a dealltwriaeth o gyfyngiadau amgylcheddol a chymdeithasol ar gyfer cynhyrchion defnyddwyr newydd.

Mae'r ymchwil effaith uchel wedi cyflawni datblygiadau arloesol mewn:

  • diheintio dŵr â hydrogen perocsid
  • diheintio â golau haul
  • Diheintio ag arbelydru microdon.

Trwy ymgysylltu â diwydiant, cymunedau defnyddwyr terfynol, ac ymchwilwyr rhyngwladol, cyd-gynlluniodd yr hyb brosiectau PhD blaengar, gan wella profiadau myfyrwyr ac alinio eu gwaith ag anghenion y byd go iawn. Yn ogystal, sefydlodd y ganolfan faes ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd sy'n canolbwyntio ar lanhau catalytig anfalaen.

Mae recriwtio ar gyfer yr hyb bellach wedi dod i ben. Wrth i'r hyb ddod i ben, rydyn ni’n myfyrio ar ymdrechion cydweithredol holl aelodau'r tîm a'r cyfraniadau gwerthfawr a wnaethon nhw at lwyddiant y prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd Academaidd yr Hyb, Dr Jennifer Edwards.

Cynigiodd Hyb Oncoleg Fanwl Ryngddisgyblaethol (IPOCH) gyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ymuno â chymuned ymchwil canser trwy raglen flaenllaw ar y cyd rhwng yr Ysgolion Peirianneg, Cyfrifiadureg a Meddygaeth. Cyfunodd IPOCH gryfderau ac adnoddau'r ysgolion hyn, gan hyrwyddo 'gwyddoniaeth tîm' a rhyngddisgyblaethol.

Datblygodd IPOCH driniaethau sy'n targedu tiwmorau unigol, gan integreiddio dadansoddeg data genomig a delweddau ynghyd â data mawr ac AI. Enillodd myfyrwyr arbenigedd mewn technoleg delweddu o'r radd flaenaf a dysgu peirianyddol ar gyfer nodweddu meinwe cymhleth, gan hyrwyddo dealltwriaeth o lwybrau triniaeth sy'n benodol i gleifion. Fe'u harweiniwyd gan rwydwaith o bartneriaid y GIG a diwydiannol. Roedden nhw’n cymryd rhan mewn ymchwil sy'n cael effaith fyd-eang, wedi'i hwyluso gan gydweithrediadau a lledaenu trwy gynadleddau a chyhoeddiadau. Sicrhaodd sefydlu grŵp Rhyngweithio Cyhoeddus i Gleifion ganllawiau cymunedol, tra bod cadw at egwyddorion Ymchwil ac Arloesi Cyfrifol yn cael ei gefnogi gan adnoddau megis offer hunanasesu ORBIT. Hyrwyddodd yr Hyb wyddoniaeth agored, gan wneud ymchwil yn hygyrch ar draws gwyddoniaeth, diwydiant a chymdeithas.

Mae recriwtio ar gyfer yr hyb bellach wedi dod i ben. Wrth i ni fyfyrio ar ymdrechion cydweithredol holl aelodau'r tîm, hoffen ni ddiolch iddyn nhw am y cyfraniadau gwerthfawr a wnaethon nhw at lwyddiant y prosiect.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd Academaidd yr Hyb, yr Athro Emiliano Spezi.

Maes ymchwil a nodau’r ymchwil

Treuliwyd yr 20fed ganrif yn ceisio deall egwyddorion mecaneg cwantwm. Bydd yr 21ain ganrif yn cael ei neilltuo i ddyfnhau'r ddealltwriaeth hon a chymhwyso’r egwyddorion hynny ar draws ystod o bynciau rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys ffiseg, peirianneg a gofal iechyd, yn ogystal â chreu cymwysiadau sy’n amrywio o ddelweddu, i gyfathrebu a phrosesu gwybodaeth, i ganfod signalau mewn cysylltiad â phrosesau sylfaenol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau bod i gymwysiadau bob dydd ‘fantais cwantwm’, mae mawr angen hyfforddi cenhedlaeth newydd o dechnolegwyr cwantwm i fanteisio ar y datblygiadau arloesol hyn. Bydd yr Hyb yn cysylltu meysydd amrywiol y gwyddorau ffisegol sydd wedi’u hystyried hyd yma’n feysydd ar wahân, a fydd yn elwa ar gryfderau Prifysgol Caerdydd ym meysydd deunyddiau, gwyddoniaeth cwantwm a ffiseg mater cyddwysedig.

Mae gan Brifysgol Caerdydd arbenigedd o'r radd flaenaf ym maes deunyddiau a thechnolegau cwantwm. Mae hefyd yn datblygu’r arbenigedd hwnnw i greu cymwysiadau technolegol. Bydd yr Hyb yn hwyluso datblygiad unedig y rhaglen hon ac yn galluogi llwyddiant yn y dyfodol drwy roi grantiau mewn cyfuniad o’r 34 o feysydd â blaenoriaeth yn y DU sy’n ymestyn ar draws cylch gwaith EPSRC.

Nodau allweddol yr ymchwil

Bydd QuMaT yn gwneud y canlynol:

  1. Datblygu technegau sy’n ehangu, yn nodweddu ac yn efelychu deunyddiau cwantwm, a hynny er mwyn sicrhau bod Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran datblygu technolegau cwantwm yn y DU ar draws disgyblaethau
  2. Dod yn ganolfan hyfforddiant doethurol lle mae technolegau cwantwm yn dod ynghyd mewn ffordd unigryw, sydd wedi sicrhau cefnogaeth ddiwydiannol gryf gan sbectrwm eang o dechnolegau cwantwm ac sy’n gallu allgynhyrchu a chydgyfeirio at sectorau technoleg cwantwm newydd
  3. Creu diwylliant cynhwysfawr o hyfforddi ac ymchwilio uwch er mwyn meithrin dulliau hunangynhaliol sy’n arwain y byd o nodweddu, efelychu a thrin deunyddiau cwantwm ar gyfer technolegau cwantwm sy'n dod i'r amlwg, y mae EPSRC yn rhagweld marchnad ddi-oed gwerth mwy na £1 biliwn ar eu cyfer

Cyd-destun yr ymchwil a’r hyfforddiant

Drwy rychwantu pedair Ysgol Academaidd, mae’r Hyb yn creu amgylchedd rhyngddisgyblaethol.

Bydd myfyrwyr, yn ystod eu blwyddyn gyntaf, yn gwneud cyrsiau ôl-raddedig presennol, ynghyd â chwrs ym maes technegau ehangu deunyddiau cwantwm arbrofol a rhaglen unigryw ar fesuriadau uwch o fewn y terfyn cwantwm. Bydd myfyrwyr ar draws yr holl flynyddoedd yn mynd i seminarau ffiseg wythnosol, Sgwrs Ffiseg (cyflwyniadau bob yn ail wythnos gan fyfyrwyr PhD) a chlybiau cyfnodolion misol, lle byddant yn gallu trafod y canlyniadau diweddaraf un ac yn cyflwyno eu syniadau eu hunain i fyfyrwyr eraill.

Bydd myfyrwyr yn gwneud cyrsiau lefel 7, fel 'Theori Cwantwm Solidau' a 'Canfod Tonnau Disgyrchiant', a fydd yn eu hyfforddi yn y technegau damcaniaethol ac arbrofol sy'n berthnasol i ddatblygu’r cymhwysedd sylfaenol sydd ei angen i sicrhau gorgyffyrddiad cynhyrchiol rhwng disgyblaethau. Bydd myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf hefyd yn gwneud cwrs a gynlluniwyd yn benodol ar ddeunyddiau a thechnoleg cwantwm (cynadleddau a seminarau gwadd), a byddan nhw’n ymweld â phartneriaid diwydiannol ar y safle. Yn ystod yr ail, y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn, bydd y myfyrwyr yn cael cymorth i fynd i gynadleddau a gweithdai rhyngwladol, yn ogystal ag ysgolion haf technegol.

Ar ben trefnu’r cyfarfodydd bob yn ail wythnos, bydd y myfyrwyr yn trefnu Cynhadledd Ôl-raddedig undydd flynyddol, a hynny er mwyn hyrwyddo cydweithio. Bydd y gynhadledd, dan arweiniad myfyrwyr yr Hyb, yn croesawu ymchwilwyr ôl-raddedig o bob rhan o'r Ysgolion Academaidd a gynrychiolir, gan gynnwys partneriaid diwydiannol ac eraill. Bydd y myfyrwyr, gyda chymorth academyddion yr Hyb, yn gyfrifol am bob agwedd ar y digwyddiad, a fydd yn cynnwys cadw ystafelloedd, trefnu arlwyaeth, gwahodd siaradwyr, pennu themâu’r sesiynau a chadeirio’r sesiynau. Bydd cyllideb yn cael ei neilltuo a’i chymeradwyo gan Dîm Rheoli’r Hyb.

Bydd myfyrwyr yr Hyb hefyd yn bwynt cyswllt cymdeithasol i fyfyrwyr ôl-raddedig yn fwy cyffredinol. Byddan nhw’n penodi pwyllgor cymdeithasol i drefnu digwyddiadau cymdeithasol. Bydd Tîm Rheoli’r Hyb yn cytuno ar gyllideb ar y cyd â phwyllgor y myfyrwyr bob tymor ar sail gweithgareddau arfaethedig, a bydd pwyslais ar feithrin tîm.

Bydd perfformiad y garfan yn cael ei fonitro drwy gyfrwng cynllun datblygu personol ysgrifenedig a chynllun mentora, lle bydd y myfyrwyr a'r tîm goruchwylio’n nodi anghenion hyfforddi.

Bydd yr Hyb yn nodi’r pwynt cyswllt enwebedig ar gyfer codi pwyntiau sy'n peri pryder mewn ffordd bragmatig.

Mae recriwtio ar waith ar hyn o bryd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd Academaidd yr Hyb, yr Athro Sean Giblin.

Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb mewn cael arian ESPRC a chael gwybod am ysgoloriaethau ymchwil eraill a gyhoeddir o dan y cynllun hwn.