Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid y GIG ar gyfer Therapi Galwedigaethol Cyn-gofrestru a Ffisiotherapi Cyn-gofrestru

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn ymwneud â'r cyllid sydd ar gael ym mlwyddyn academaidd 2022-23. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon maes o law unwaith y cawn gadarnhad o faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer 2023-24.

Mae bod yn gymwys ar gyfer cyllid y GIG yn amodol ar fyfyrwyr newydd yn ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru am 18 mis ar ôl cymhwyso.

Os byddwch chi’n ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru ar ôl cymhwyso, bydd y GIG yn talu eich ffioedd dysgu ac ni fyddan nhw’n cael eu hasesu ar sail incwm.

Mae cyllid ar gyfer eich costau byw os byddwch chi’n byw yn eich cartref eich hun yn cynnwys grant GIG gwerth £1,000 nad yw’n cael ei asesu ar sail incwm, a bwrsariaeth y GIG sy’n cael ei hasesu ar sail incwm.

Gweinyddir y cyllid gan Wasanaeth Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru, a gallwch chi ddod o hyd i amodau a thelerau'r ymrwymiad yn ogystal â Chwestiynau Cyffredin ynghylch sut mae'n gweithio ar eu gwefan.

Incwm yr aelwydGrant y GIGBwrsariaeth y GIG
£24,000 neu lai£1,000£4,491
£30,000£1,000£3,844
£35,000£1,000£3,318
£40,000£1,000£2,793
£50,000£1,000£1,739
£60,000£1,000£686
£67,000£1,000£0

Sylwer bod y siart yn dangos amcangyfrif o'r cyllid. Canllaw yn unig yw hwn. Mae'n dangos uchafswm cyllid y GIG sydd ar gael fesul blwyddyn academaidd. Gostyngir y fwrsariaeth os ydych chi’n byw yng nghartref eich rhieni.  Mae wythnosau ychwanegol bellach yn rhan o’r fwrsariaeth sylfaenol.

Nid yw myfyrwyr o Gymru yn gymwys i gael y benthyciad cynhaliaeth gostyngol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Gall myfyrwyr o Loegr wneud cais am y benthyciad cynhaliaeth gostyngol gwerth £2,534 gan Student Finance England (os na fyddwch chi'n byw yng nghartref eich rhieni).

Optio allan o Ymrwymiad Gwaith Ymlaen Llaw’r GIG

Os byddwch yn optio allan o'r Ymrwymiad Gwaith Ymlaen Llaw a'ch bod yn byw yng Nghymru cyn dechrau ar eich cwrs, rydych yn gymwys i wneud cais am gyllid Meistr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru oni bai bod gennych gymhwyster Meistr neu gymhwyster uwch eisoes. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os byddwch chi’n optio allan a’ch bod yn byw yn Lloegr cyn dechrau eich cwrs, rydych chi’n gymwys i gael cyllid myfyrwyr a fydd yn cynnwys benthyciad ffioedd dysgu (incwm heb ei asesu) a benthyciad cynhaliaeth (incwm yn cael ei asesu).

Incwm yr aelwydBenthyciad cynnal a chadw
£25,000£11,994
£35,000£10,426
£45,000£8,621
£55,000£6,087
£65,000£4,524

Sylwer bod y siart yn dangos amcangyfrif o'r cyllid. Canllaw yn unig yw hwn. Mae'n dangos uchafswm y Benthyciad Cynhaliaeth sydd ar gael fesul blwyddyn academaidd. Mae'r benthyciad yn llai os ydych chi’n byw yng nghartref eich rhieni. Mae wythnosau ychwanegol bellach yn rhan o hyn.