Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Hyfforddiant Academaidd Clinigol GW4 i Weithwyr Iechyd Proffesiynol (GW4-CAT HP)

Mae rhaglen GW4-CAT HP yn cynnig hyfforddiant ymchwil rhyngddisgyblaethol o’r radd flaenaf ym Mhrifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerwysg a Chaerdydd i weithwyr iechyd proffesiynol a graddedigion milfeddygol eithriadol. Mae'n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

Trosolwg

Mae GW4-CAT HP yn dilyn GW4-CAT a oedd yn targedu hyfforddeion graddedig clinigol (Meddygol, Milfeddygol a Deintyddol). Mae GW4-CAT HP yn rhaglen PhD tair blynedd (amser llawn), sy'n cynnig cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad eithriadol gan academyddion ac amgylcheddau ymchwil sy'n arwain y byd. Mae'n cynnig hyfforddiant ôl-raddedig o fewn carfan newydd o weithwyr proffesiynol clinigol ac iechyd, gan gynnwys Meddygol, Milfeddygol, Deintyddol, Nyrsio, Bydwreigiaeth a'r holl Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Mae gan yr ymgeiswyr llwyddiannus y cyfle i ymuno ag un o fwy na 50 grŵp ymchwil blaenllaw ym meysydd iechyd poblogaethau, gwyddoniaeth gardiofasgwlar, niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, heintiau, imiwnedd ac atgyweirio, canser neu fioleg foleciwlaidd y gell. Yn ogystal â hynny, mae amrywiaeth eang o fodiwlau hyfforddiant craidd ac arbenigol ar gael iddynt i’w helpu i fodloni eu dyheadau, gan gynnwys gwasanaeth mentora unigol arbennig.

Bydd eich cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad yn cynnwys:

  • Cyllid hael am dair blynedd (amser llawn), a fydd yn cynnwys cyflog clinigol, ffioedd dysgu, ac arian ychwanegol ar gyfer nwyddau traul, hyfforddiant a theithio
  • Mynediad i grwpiau a chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf
  • Cefnogaeth gan aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr, gan gynnwys cymorth i lunio cynnig prosiect
  • Cynllun mentora clinigol
  • Ystod eang o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer carfanau penodol a mynediad i rwydwaith hyfforddi GW4
  • Trefniadau hyblyg ar gyfer dyddiadau cychwyn a phatrymau gwaith PhD

Partneriaethau

Mae rhaglen GW4-CAT HP yn gydweithrediad rhwng sefydliadau ‘GW4’ - Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.

Rhagor o wybodaeth

Ewch i wefan y rhaglen i gael rhagor o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech fynegi eich diddordeb yn y cyllid hwn neu ysgoloriaethau ymchwil pellach a gyhoeddir o dan y cynllun hwn, ewch i'n tudalen 'Gofyn cwestiwn'.

Gallwch hefyd chwilio drwy ein hysgoloriaethau neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.