Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn lansio cynllun peilot yn 2020.
Bydd y gostyngiad ar gael i gynfyfyrwyr ar gyfer yr holl raglenni meistr a gynigir gan Ysgol Busnes Caerdydd a llawer o gyrsiau trosi mewn pynciau sy’n cynnwys newyddiaduraeth, daearyddiaeth a chynllunio, ac ysgrifennu creadigol, yn ogystal â dwy raglen meistr ychwanegol mewn niwroddelweddu ac optomotreg glinigol.
Dyfernir y gostyngiad i gynfyfyrwyr ar ffurf gostyngiad o £1,000 yn y ffioedd dysgu i fyfyrwyr o’r Deyrnas Unedig a’r UE, a gostyngiad o £2,000 i fyfyrwyr rhyngwladol. Os ydych chi’n gymwys, bydd y gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig wrth i chi gychwyn eich astudiaethau.
Cynllun peilot yw hwn ac nid yw’n cynnwys yr holl raglenni meistr a gynigir ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd hyn yn cael ei adolygu ar ôl dwy flynedd.
Cymhwysedd
Mae’r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i unrhyw un o raddedigion Prifysgol Caerdydd sy’n symud ymlaen i un o’r rhaglenni cymwys ac sydd wedi cwblhau un o’r canlynol:
- gradd israddedig a ddyfarnwyd gan Brifysgol Caerdydd
- cynllun Erasmus neu astudio dramor oedd yn dod â nhw i Brifysgol Caerdydd
- ysgol Haf Ryngwladol oedd yn cynnwys credydau ym Mhrifysgol Caerdydd
I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod yn symud ymlaen i gymhwyster ar lefel uwch na’r un sydd gennych eisoes.
Bydd angen bod gennych gynnig i’ch derbyn i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ym mlwyddyn academaidd 2020/21 ar un o’r rhaglenni cymwys canlynol, yn llawn amser neu’n rhan amser.
Rhaglenni cymwys
Mae’r rhaglenni meistr canlynol wedi’u cynnwys yn y cynllun peilot gostyngiad i gynfyfyrwyr:
Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir yn Ysgol Busnes Caerdydd
- Cyfrifeg a Chyllid (MSc)
- Gweinyddu Busnes (MBA)
- Gweinyddu Busnes a'r Cyfryngau (MBA)
- Rheoli Busnes (MSc)
- Rheoli Busnes gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (MSc)
- Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth (MSc)
- Economeg (MSc)
- Meistr Gweithredol Gweinyddu Busnes (MBA)
- Cyllid (MSc)
- Economeg Ariannol (MSc)
- Rheoli Adnoddau Dynol (MSc)
- Economeg Ryngwladol, Bancio a Chyllid (MSc)
- Rheoli Rhyngwladol (MSc)
- Logisteg a Rheoli Gweithrediadau (MSc)
- Polisi Morol a Rheoli Llongau (MSc)
- Marchnata (MSc)
- Arweinyddiaeth Gyhoeddus (MSc)
- Marchnata Strategol (MSc)
- Rheoli Cadwyni Cyflenwi yn Gynaliadwy (MSc)
Cyrsiau trosi
- Newyddiaduraeth Darlledu (MA)
- Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data (MSc)
- Arferion Cadwraeth (MSc)
- Ysgrifennu Creadigol (MA)
- Newyddiaduraeth Ryngwladol (MA)
- Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol (MSc)
- Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang (MSc)
- Newyddiaduraeth Cylchgronau (MA)
- Newyddiaduraeth Newyddion (MA)
- Cyfathrebu Gwleidyddol (MA)
- Cynllunio a Datblygu Gofodol (MSc)
- Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd (MA)
Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Rhaglenni sydd heb eu cynnwys
Gan mai cynllun peilot yw hwn, nid yw’n cynnwys yr holl raglenni ôl-raddedig a addysgir sy’n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Caerdydd Ni fydd ymgeiswyr am raglenni sydd heb eu rhestru yn yr adran rhaglenni cymwys yn derbyn gostyngiad. Bydd y peilot hwn yn cael ei adolygu ar ôl dwy flynedd cyn gwneud penderfyniad ynghylch y posibilrwydd o barhau â’r cynllun neu ei ehangu.
Mathau eraill o gyllid
Byddwch yn gymwys i gael gostyngiad cynfyfyrwyr hyd yn oed os byddwch yn derbyn:
- Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Meistr
- Cyllid Gradd Meistr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
- Bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr gradd meistr o Gymru
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y gostyngiad i gynfyfyrwyr ar ben Ysgoloriaeth Ryngwladol gan yr Is-ganghellor oni bai bod y cyfuniad o’r ddau heb fod yn fwy na chyfanswm o £5,000 o gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd.
Sut i wneud cais
Nid oes proses ffurfiol o wneud cais am gynllun peilot y gostyngiad i gynfyfyrwyr. Byddwn ni’n asesu a ydych yn gymwys i gael y gostyngiad fel rhan o’ch cais i astudio cwrs ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydych chi’n gymwys, bydd y gostyngiad priodol i’r ffioedd dysgu yn digwydd yn awtomatig, a chewch eich hysbysu ynghylch hynny.
Telerau ac amodau
- Bydd y gostyngiad i gynfyfyrwyr ar ffurf gostyngiad yn y ffi dysgu ac ni thelir dim arian yn uniongyrchol i chi. Bydd hyn yn lleihau'r swm sy'n daladwy i'r Brifysgol. Yna bydd gweddill y ffioedd dysgu'n daladwy yn unol â’n polisi ffioedd dysgu.
- Swm y gostyngiad i gynfyfyrwyr yw £1,000 yn achos myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig/UE a £2,000 yn achos myfyrwyr rhyngwladol, ac mae ar gael ar gyfer un o’r rhaglenni cymwys ôl-raddedig a addysgir sydd wedi’u rhestru.
- Mae disgwyl i chi dalu am weddill cost eich astudiaethau o ffynonellau eraill
- Yn achos rhaglenni sy’n parhau am ddwy flynedd neu fwy (gan gynnwys astudiaethau rhan amser), cymhwysir y swm a amlinellir yn 1.2 pro-rata ar draws pob blwyddyn o astudio
- Nid oes modd cael arian yn lle’r gostyngiad ar y ffi dysgu, trosglwyddo’r arian nac unrhyw amrywiad arall.
- Chi sy’n atebol am yr holl gostau eraill cysylltiedig â’ch astudiaethau
- Disgwylir i chi gychwyn eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ym mlwyddyn academaidd 2020/21.
- Bydd rhaid i chi ddilyn a chydymffurfio’n llwyr â rheolau a rheoliadau Prifysgol Caerdydd, ynghyd â’r holl amodau a thelerau academaidd a'r amodau a thelerau eraill sy’n gysylltiedig â’ch rhaglen astudio.
- Bydd angen i chi dalu gweddill eich ffioedd dysgu yn unol â’n polisi ffioedd dysgu.
- Gofynnir i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus a llysgenhadol, ar sail wirfoddol, yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Gall y rhain gynnwys cyfweliadau, cyfleoedd i dynnu llun a mynychu digwyddiadau (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain), ond ni fyddant yn tarfu ar eich astudiaethau.
Cysylltu
Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun gostyngiad i gynfyfyrwyr, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.