Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC

Mae Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol (DTP) y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) yn rhoi arian ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil PhD ar draws amrywiaeth eang o bynciau.

Medical Research Council

Trosolwg

Bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar y cyfuniad o gryfderau ymchwil, arbenigedd hyfforddiant a'r adnoddau a gynigir gan y pedair prifysgol ymchwil ddwys. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith rhyngddisgyblaethol a 'gwyddoniaeth tîm' hefyd. C

Caiff llawer o'r prosiectau PhD a gefnogir gan y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol, eu cyd-oruchwylio ar draws o leiaf dwy o'r prifysgolion partner, gan alluogi myfyrwyr i ymuno â phartneriaethau ymchwil cyfredol a newydd.

Mewn ymateb i feini prawf cymhwysedd newydd UKRI, mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnig gostyngiadau ffioedd rhyngwladol i ymgeiswyr llwyddiannus UKRI. Bydd y ffioedd yr un peth â lefel y ffioedd cartref. Mae'r dull hwn yn sicrhau y bydd myfyrwyr waeth beth yw eu cenedligrwydd neu sefyllfa ariannol yn gallu ymgeisio am ein hysgoloriaethau UKRI. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn efrydiaeth a ariennir yn llawn ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd rhyngwladol arnynt.

Themâu ymchwil

Mae prosiectau PhD yn cyd-fynd ag un o'r tair thema ymchwil strategol sy'n nodweddu Partneriaeth BioMed GW4:

  • Niwrowyddoniaeth a Iechyd Meddwl
  • Iechyd y Boblogaeth

Mae portffolio'r prosiectau PhD sydd ar gael hefyd yn adlewyrchu cryfderau'r Bartneriaeth: sgiliau meintiol (gan gynnwys modelu mathemategol), gan ddefnyddio data ar gyfer darganfod, sgiliau in vivo, yn ogystal â hyfforddiant a dulliau rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys delweddu (ffiseg, peirianneg), cemeg ac economeg iechyd.

Partneriaethau

Mae'r GW4 BioMed DTP yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caerwyd, yn ogystal â'r Gw4 a'r MRC.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ymweld â'n gwefan DTP am ragor o fanylion a sut i wneud cais.

Cysylltwch â ni i ddangos eich diddordeb yn y cyllid hwn os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am unrhyw ysgoloriaethau pellach sy'n cael eu cyhoeddi o dan y cynllun hwn.