Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA)

Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA) yn cydnabod yr ymgeiswyr rhagorol hynny sy’n rhannu ethos ac uchelgeisiau’r Brifysgol i sicrhau gwerth cyhoeddus ac sydd hefyd am gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa drwy astudio ar gyfer gradd MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae ysgoloriaethau gwerth £7,500   ar gael i’r ymgeiswyr hynny sy’n mynd drwy’r broses derbyn myfyrwyr yn llwyddiannus ac sy’n ymrestru i ddilyn unrhyw un o’n rhaglenni MBA. Byddwn ni’n rhoi gwybod a ydych chi’n gymwys i gael ysgoloriaeth pan fyddwn ni’n cynnig lle i chi ar raglen yma. Bydd yr ysgoloriaeth ar ffurf gostyngiad mewn ffioedd dysgu ar ôl i chi ymrestru.

Sut i wneud cais

Nid oes angen cyflwyno cais ar wahân am ysgoloriaeth. Byddwn ni’n asesu a ydych chi’n addas i gael Ysgoloriaeth Gwerth Cyhoeddus yn rhan o’r broses derbyn myfyrwyr ar gyfer rhaglenni MBA.

Telerau ac amodau

Mae’r telerau ac amodau llawn i’w gweld isod ac yn berthnasol i’r ysgoloriaethau hyn :

  1. Mae Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA) ar gael i’r ymgeiswyr hynny sy’n bodloni telerau eu cynnig ac sy’n ymrestru i ddilyn unrhyw un o raglenni MBA Prifysgol Caerdydd.
  2. Mae ysgoloriaeth yn werth £7,500, a bydd yn cael ei rhoi ar ffurf gostyngiad awtomatig mewn ffioedd dysgu. Ni ellir ei defnyddio yn lle unrhyw flaendal gofynnol. Ni chewch ei chyfnewid am arian parod.
  3. Mae'r ysgoloriaethau ar gyfer dechrau astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn semester yr hydref yn 2024-25. Bydd angen trafod unrhyw gais i ohirio dechrau astudio a chael ysgoloriaeth yn uniongyrchol gyda’r Ysgol, a hynny drwy e-bostio MBA-Enquiries@caerdydd.ac.uk.
  4. Nid yw’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael Ysgoloriaeth Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA) yn gymwys i gael unrhyw fwrsariaethau neu ysgoloriaethau eraill gan y Brifysgol.
  5. Ar gyfer rhaglenni amser llawn, dim ond myfyrwyr rhyngwladol sy’n ariannu eu hunain a myfyrwyr â statws ffioedd cartref sy’n gymwys. Nid yw'r ysgoloriaethau ar gael i’r myfyrwyr hynny sydd wedi cael cyllid gan gyrff allanol, megis llywodraeth leol, elusennau neu sefydliadau preifat. Nid yw cyllid o’r fath yn cynnwys benthyciadau i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU a benthyciadau a bwrsariaethau i ôl-raddedigion gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhai hynny sydd wedi gwneud cais i ddilyn rhaglen MBA rhan-amser ac a allai gael cymorth ariannol gan eu cyflogwr yn gymwys i gael ysgoloriaeth. Bydd y gostyngiad o £7,500 yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y ddwy flwyddyn astudio.
  6. Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol, mae'n rhaid i chi fodloni'r holl ofynion ariannol yn rhan o'ch cais am fisa i astudio yn y DU. Ni ddylech fod yn dibynnu’n llwyr ar gael Ysgoloriaeth Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA) gan Brifysgol Caerdydd i fodloni gofynion ariannol yr adran Fisâu a Mewnfudo y DU. Gweler gofynion ariannol yr adran Fisâu a Mewnfudo y DU i gael rhagor o wybodaeth.
  7. Sicrhewch eich bod wedi gadael digon o amser i'ch cais a'ch dogfennau ategol gael eu hadolygu a'u prosesu cyn y dyddiad derbyn a nodir uchod. Gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith. Os byddwch chi’n cael trafferth cyflwyno eich cais neu eich dogfennau, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgoloriaethau Gwerth Cyhoeddus (Rhaglenni MBA), cysylltwch â ni drwy e-bost:

Ysgol Busnes Caerdydd

MBA-Enquiries@caerdydd.ac.uk