Benthyciadau doethuriaeth Llywodraeth y DU
Os ydych yn ddarpar fyfyriwr o'r DU ac yn dechrau eich doethuriaeth ym mis Medi 2021 neu’n hwyrach, mae’n bosibl y gallwch wneud cais am fenthyciad doethurol i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau yma.
Nid yw manylion cyllid llywodraeth y DU ar gyfer 2021 wedi'u cyhoeddi eto. Mae'r ffigurau isod yn dangos beth oedd ar gael ar gyfer mynediad 2020. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru unwaith y bydd symiau cyllid 2021 wedi'u cadarnhau.
Benthyciadau doethurol ôl-raddedig ar gyfer trigolion Cymru
Ffeithiau allweddol
- Hyd at £26,445 (hyd at £25,700 os yw'ch cwrs ôl-raddedig yn dechrau cyn 31 Gorffennaf 2020).
- Mae'n rhaid i'ch cwrs ddechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.
- Ar gael ar gyfer cyrsiau Doethurol ôl-raddedig unigol llawn sy'n para rhwng tri ac wyth blwyddyn academaidd.
- Ar gyfer astudiaethau amser llawn neu ran-amser (gan gynnwys dysgu o bell).
- Mae cymwysterau doethurol ôl-raddedig yn cynnwys PhD, DPhil, EdD ac EngD.
Ni fyddwch yn gymwys am Fenthyciad Doethurol Ôl-raddedig os ydych:
- wedi derbyn neu ar fin derbyn cyllid Cyngor Ymchwil (er enghraifft, ysgoloriaethau, cyflogau a chymorth ffioedd dysgu)
- wedi derbyn neu ar fin derbyn cyllid gan gynllun KESS 2
- wedi derbyn Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol
- yn derbyn bwrsariaeth y GIG
- yn derbyn cyllid myfyrwyr ar gyfer cwrs israddedig neu gwrs Meistr ar hyn o bryd.
Pwy sy'n gymwys
Ar gyfer manylion llawn a meini prawf cymhwysedd, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Ad-dalu
Mae manylion llawn am ad-dalu Benthyciad Doethurol Ôl-raddedig ar wefan gov.uk.
Sut i wneud cais
- Gallwch wneud cais nawr drwy fewngofnodi i'ch cyfrif cyllid myfyrwyr a chyflwyno eich cais.
- Nid oes angen lle wedi'i gadarnhau ym Mhrifysgol Caerdydd i wneud cais.
- Bydd angen pasport dilys y DU (os oes gennych chi un), eich cwrs a manylion Prifysgol Caerdydd, manylion banc a rhif yswiriant cenedlaethol.
- Ni fydd angen i chi wneud cais ar gyfer Benthyciad Doethurol Ôl-raddedig mwy nag unwaith.
Ar gyfer manylion llawn a gwneud cais ar gyfer Benthyciad Doethurol Ôl-raddedig, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Ffeithiau allweddol
- Yr uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr newydd yn dechrau cyrsiau gradd doethurol ôl-raddedig ar 1 Awst 2019 neu ar ôl hynny fydd £25,700 (£25,000 os yw'r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019).
- Ar gael ar gyfer cymwysterau lefel PhD fydd yn para hyd at wyth mlynedd, yn yr holl bynciau.
- Ar gael i gefnogi astudiaethau mewn unrhyw brifysgol yn y DU sydd â’r gallu i ddyfarnu graddau PhD.
Pwy sy'n gymwys
- Mae’n rhaid i chi fod yn ddinesydd y DU ac yn un o drigolion Lloegr fel arfer.
- Mae'n rhaid i chi fod yn 59 oed neu’n iau ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd eich cwrs.
- Ni ddylai fod gennych radd PhD yn barod, neu gymhwyster cyfatebol.
- Ni ddylech fod yn derbyn Ysgoloriaeth Cyngor Ymchwil (gan gynnwys ysgoloriaeth ffioedd dysgu yn unig), arian y GIG neu unrhyw arian arall gan y Llywodraeth tuag at eich PhD.
- Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ba bwnc y gallwch ei astudio, ac ni chaiff eich cynnig ar gyfer PhD ei wirio fel rhan o'ch cais am fenthyciad doethurol.
Am fanylion llawn y meini prawf, ewch i wefan Gov.uk.
Ad-dalu
Mae manylion llawn am ad-dalu Benthyciad Doethurol Ôl-raddedig ar wefan gov.uk.