Mentrau Hyfforddiant Doethurol
Mae ein proffil a’n henw da am fod yn ddwys o ran ymchwil yn ein galluogi i sicrhau cyllid ar gyfer astudiaethau doethurol o amrywiaeth eang o ffynonellau. Maent yn cynnwys Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig, elusennau ac ymddiriedolaethau, cyrff y llywodraeth a diwydiant.
Yn arbennig, rydym ni’n arwain neu’n cymryd rhan mewn ystod o fentrau hyfforddiant doethurol penodol ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cynnwys Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol (DTPs), Canolfannau Hyfforddiant Doethurol (DTCs) neu Ganolfannau ar gyfer Hyfforddiant Doethurol (CDTs). Mae’r rhain yn rhychwantu nifer o’n meysydd academaidd ac ymchwil cryf.

Mae DTPs, CDTs a DTCs yn dwyn ynghyd meysydd arbenigedd amrywiol i hyfforddi ymchwilwyr doethurol fel bod ganddynt y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i fod yn ymchwilwyr llwyddiannus, sy’n gallu ymdrin â chwestiynau mawr y dydd a heriau’r dyfodol.
Maent hefyd yn darparu amgylchedd cefnogol a chyffrous i fyfyrwyr, yn aml gyda’r cyfle i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu ehangach, fel dysgu iaith, ymweliadau ymchwil dramor, neu leoliadau gyda phartneriaid anacademaidd. Yn ogystal, fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, ein nod i chi yw cael mynediad at hyfforddiant a ddarparir drwy'r Academi Ddoethurol.
Gallwch bori drwy ein hysgoloriaethau neu gael rhagor o wybodaeth am gyllid.
Cyfloedd yn ôl Maes Ymchwil
Y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol AHRC
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethruol Cymru (ESRC)
- Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2)
Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol
- BBSRC Biowyddoniaeth y De-Orllewin
- Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2)
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol MRC
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Gwyddorau Amgylcheddol
- Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Biowyddorau a Chynaliadwyedd Dŵr Croyw
- Canolfan Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Asesu Risg Ecotocsicolegol Tuag at Ddefnydd Cemegol Cynaliadwy (ECORISC)
Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
- DTP EPSRC
- CDT Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
- Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Systemau Ynni Tanwydd Datgarboneiddio Gwydn
- Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2)
- DTP GW4+ NERC mewn Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd
- CDT UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC)
- Canolfan Hyfforddiant Doethurol STFC mewn Gwyddoniaeth Data-ddwys