Ewch i’r prif gynnwys

CDT UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC)

Mae Canolfan Hyfforddiant Doethurol AIMLAC yn cynnig cyfleoedd PhD 4 blynedd o hyd, wedi'u hariannu'n llawn ar draws meysydd eang ffiseg gronynnau a seryddiaeth, bioleg ac iechyd, a’r gwyddorau mathemategol a chyfrifiadurol.

AIMLAC
UKRI CDT in Artificial Intelligence, Machine Learning and Advanced Computing (AIMLAC)

Mae hyfforddiant mewn AI, cyfrifiadura perfformiad uchel (HPC) a dadansoddeg data perfformiad uchel (HPDA) yn chwarae rhan hanfodol, fel y mae ymgysylltu â phartneriaid allanol, sy'n cynnwys cwmnïau rhyngwladol mawr, busnesau newydd a busnesau bach a chanolig lleol, y llywodraeth a phartneriaid Cyngor Ymchwil.

Mae’r CDT wedi’i seilio ar ymchwil hirsefydlog a hyfforddiant cydweithredol rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Bryste, Caerdydd ac Abertawe. Yn ogystal, mae Uwchgyfrifiadura Cymru ac Academïau Cyfrifiadura'r Brifysgol yn darparu cefnogaeth bwrpasol trwy Beirianwyr Meddalwedd Ymchwil a mynediad at gyfleusterau HPC mewn ffordd gydlynol. Rydym yn cydweithio'n agos â CDT STFC ar Wyddoniaeth Data-ddwys.

Themâu

Themâu ymchwil allweddol:

  • Data o gyfleusterau gwyddoniaeth mawr (ffiseg gronynnau, seryddiaeth, cosmoleg)
  • Gwyddorau biolegol, iechyd a chlinigol (delweddu meddygol, cofnodion iechyd electronig, biowybodeg)
  • Dulliau mathemategol, ymarferol a chyfrifiadureg newydd (data, caledwedd, meddalwedd, algorithmau)

Hyfforddiant

Mae'r rhaglen yn cynnwys elfen hyfforddi sylweddol yn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys hyfforddiant mewn AI a dulliau cyfrifiadurol sy’n seiliedig ar garfannau, i sefydlu sylfaen gyffredin.

Mae ymgysylltu â'n partneriaid allanol yn rhan bwysig o’r hyfforddiant ac mae'n cynnwys lleoliad tymor byr ym Mlwyddyn 2 a lleoliad 6 mis arall ar draws Blynyddoedd 2/3.

Darperir hyfforddiant sgiliau trosglwyddadwy trwy gyfarfodydd preswyl, ac yn ein cynhadledd CDT flynyddol. Mae mwy o fanylion ar y tudalennau Hyfforddiant a Digwyddiadau.

Argaeledd

Mae swyddi PhD wedi'u hariannu'n llawn ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb cryf a dawn mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol ac yn un o'n themâu ymchwil. Ariennir swyddi am 4 blynedd, gan gynnwys y lleoliadau gyda'r partneriaid allanol.

Mae cyllid sylweddol ar gael ar gyfer hyfforddiant, gweithdai a chymorth cynhadledd, yn ogystal ag ar gyfer gliniadur ac adnoddau cyfrifiadurol eraill.

Gofynion mynediad

Yn agored i fyfyrwyr yr UE, Rhyngwladol (y tu allan i'r UE) a'r DU (cartref).

Y gofyniad academaidd nodweddiadol yw o leiaf gradd israddedig 2:1 yn y gwyddorau biolegol ac iechyd; mathemateg a gwyddoniaeth gyfrifiadurol; ffiseg a seryddiaeth neu ddisgyblaeth berthnasol.

Dylai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn AI a heriau data mawr, ac yn (o leiaf) un o'r tair thema ymchwil. Dylai fod gennych ddawn a gallu mewn dulliau cyfrifiadurol a meddwl cyfrifiadurol (a adlewyrchir gan radd mewn ffiseg a seryddiaeth, gwyddoniaeth feddygol, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, neu fathemateg, er enghraifft) gan gynnwys y gallu i ysgrifennu meddalwedd (neu barodrwydd i ddysgu).

IELTS - Os yw'n berthnasol, mae angen isafswm sgôr IELTS o 6.5 gyda dim llai na 6.0 mewn unrhyw gydran unigol.

Partneriaid

Sefydliadau partner

Bydd holl fyfyrwyr AIMLAC wedi'u lleoli yn un o sefydliadau craidd AIMLAC, mewn partneriaeth ag Uwchgyfrifiadura Cymru.

  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Bryste

Partneriaid

Bydd ein 28 o bartneriaid o feysydd ymchwil, diwydiant, polisi neu sefydliadau trydydd sector yn cynnig arbenigedd mewn datblygu ysgoloriaethau ymchwil, goruchwyliaeth, hyfforddiant, cynghorwyr effaith ac interniaethau.

  • Uwchgyfrifiadura Cymru
  • Agxi
  • Airbus
  • Amplyfi
  • Atos
  • Dell
  • DiRAC
  • [dstl]
  • EDF
  • GCHQ
  • Sefydliad Ymchwil Fathemategol Heilbronn
  • IBM
  • Intel
  • Microsoft
  • Mobileum
  • GIG Cymru
  • Nvidia
  • Oracle
  • Canolfan e-ymchwil Rhydychen
  • Quantum Advisory
  • The Quant Foundry
  • QinetiQ
  • Stanley Black & Decker
  • Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg UKRI
  • TWI
  • we predict
  • Dŵr Cymru

Darganfod mwy:

Ewch i gwefan y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol i gael mwy o fanylion am y ganolfan a sut i wneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau ymchwil y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â'r Athro Stephen Fairhurst.