Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Asesu Risg Ecotocsicolegol Tuag at Ddefnydd Cemegol Cynaliadwy (ECORISC)

Bydd Canolfan Hyfforddiant Doethurol ECORISC yn cynhyrchu cenhedlaeth o wyddonwyr arloesol fydd yn galli nodi, deall a rheoli risgiau cemegolion yn effeithiol.

logo Canolfan Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Asesu Risg Ecotocsicolegol Tuag at Ddefnydd Cemegol Cynaliadwy (ECORISC)
Canolfan Hyfforddiant Doethurol NERC mewn Asesu Risg Ecotocsicolegol Tuag at Ddefnydd Cemegol Cynaliadwy (ECORISC)

Trwy gyfuno dealltwriaeth fecanistig, datblygiadau damcaniaethol a dulliau modelu, byddwn yn cyfrannu at ddatblygu fframweithiau asesu risg rhagfynegol. Bydd hyn yn galluogi cymdeithas i elwa o ddefnydd cemegol yn ogystal â diogelu'r amgylchedd naturiol, nawr ac yn y dyfodol.

Mae ECORISC yn dod â màs critigol o wyddonwyr o fri rhyngwladol ynghyd o brifysgolion Efrog, Caerdydd, Caerwysg, Caerhirfryn, Sheffield, a Chanolfan Ecoleg a Hydrolody y DU (UKCEH) sydd ymhlith y gorau yn y DU ym meysydd y Gwyddorau Biolegol, Cemeg a Gwyddor yr Amgylchedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwil ein sefydliadau wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol, fel y gwelwyd gan y buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ym maes y gwyddorau amgylcheddol.

Themâu

Mae ein prif themâu ymchwil yn cynnwys:

  • Canfod, tynged, cludo a defnyddio cemegolion yn yr amgylchedd naturiol.
  • Datblygu dealltwriaeth fecanistig o effeithiau integreiddiol cemegolion ar unigolion.
  • Allosod effeithiau a fesurir ar unigolion i effeithiau ar boblogaethau a chymunedau a'r gwasanaethau ecosystem y maent yn eu darparu.
  • Effeithiau cymysgeddau cemegol, gan gynnwys mewn cyfuniad â straenwyr amgylcheddol eraill.
  • Asesiad risg ar draws graddfeydd gofodol ac amserol.
  • Rhoi gwyddorau risg amgylcheddol ar waith.

Hyfforddiant

Dros ddwy flynedd gyntaf eich rhaglen PhD ECORISC byddwch yn cael hyfforddiant pwnc-benodol, a ddarperir mewn cydweithrediad â'n sefydliadau partner, mewn:

  • ecotocsicoleg
  • cemeg yr amgylchedd
  • ecoleg
  • asesiad risg
  • y sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer arbenigwr amgylcheddol
  • Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn sicrhau cam 1 o gymhwyster Asesydd Risg Ardystiedig SETAC (CRA).
  • Digwyddiadau heriau blynyddol
    • Blwyddyn 1af – Digwyddiad her data
    • 2il Flwyddyn – Asesu risg yn seiliedig ar brosiectau
    • 3edd Flwyddyn - Digwyddiad troi gwyddoniaeth yn bolisi
    • Cyflwynir ein digwyddiad olaf mewn cydweithrediad â'n partneriaid polisi fel Defra a JNCC. Byddwch yn ystyried pwnc amgylcheddol ‘amserol’ a thrwy chwarae rôl, byddwch yn ystyried y ffordd orau o droi’r wyddoniaeth sylfaenol yn y maes yn bolisi, ac yn esbonio’r polisi i gynulleidfa anarbenigol. Daw'r her i ben drwy gynnal gwrandawiad ffug o Bwyllgor Dethol Amgylcheddol Tŷ'r Cyffredin.
  • Lleoliadau gwaith ac interniaethau

Argaeledd

Mae gennym hyd at 13 o ysgoloriaethau PhD peirianneg wedi'u hariannu. Dylai myfyrwyr fod o safon uchaf o safbwynt elfennau academaidd a theilyngdod.

Gofynion mynediad

Yn agored i fyfyrwyr yr UE, Rhyngwladol (y tu allan i'r UE) a'r DU (cartref).

Mae cynhwysiant yn elfen ganolog o raglen ECORISC. Rydym yn awyddus iawn i gael ceisiadau gan grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol. Rydym hefyd yn defnyddio nifer o ddulliau, fel y posibilrwydd o weithio’n rhan-amser, er mwyn sicrhau bod y rhaglen ar gael i bawb.

Partneriaid

Sefydliadau craidd

Bydd yr holl fyfyrwyr ECORISC wedi’u lleoli yn un o’n sefydliadau ECORISC craidd:

  • Prifysgol Efrog
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Caerwysg
  • Prifysgol Caerhirfryn
  • Prifysgol Sheffield
  • UKCEH

Partneriaid

Bydd ein 28 o bartneriaid o feysydd ymchwil, diwydiant, polisi neu sefydliadau trydydd sector yn cynnig arbenigedd mewn datblygu ysgoloriaethau ymchwil, goruchwyliaeth, hyfforddiant, cynghorwyr effaith ac interniaethau.

Sefydliadau ymchwil

  • Cefas
  • Fera

Sefydliadau rheoleiddio a llywodraethol

  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
  • HSE
  • JNCC
  • SEPA
  • Cwmnïau cemegol, fferyllol a phlaladdwyr
  • Agilent
  • Astrazeneca
  • Bayer
  • Corteva
  • GSK
  • Reckitt Benkiser
  • Syngenta
  • Shell
  • Cwmnïau dŵr
  • South West Water
  • Dŵr Cymru
  • Cwmnïau ymgynghori
  • CEA
  • Peter Fisk Associates
  • Ramboll
  • WCA
  • Wood

Sefydliadau ymchwil contract

  • Smithers

Cwmnïau meddalwedd

  • Simomics

Sefydliadau trydydd sector

  • Greenpeace
  • Ymddiriedolaeth Afonydd
  • RSPB
  • SETAC

Darganfod mwy:

Ewch i gwefan y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol i gael mwy o fanylion am y ganolfan a sut i wneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau ymchwil y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â'r Athro Peter Kille.