Ewch i’r prif gynnwys

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sylwer mai’r ffigyrau oedd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yw’r rhai a ddyfynnir isod. Bydd y ffigyrau diweddaraf ynghylch blwyddyn academaidd 2024/25 yn cael eu rhannu cyn gynted ag y byddant wedi'u cadarnhau.

Mae benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion ar wahân i gyllid ar gyfer israddedigion ac nid yw unrhyw gyllid a gawsoch yn flaenorol yn ystod eich amser yn fyfyriwr israddedig, yn gysylltiedig â'ch benthyciad ar gyfer astudiaethau ôl-radd.

Bydd y benthyciad sydd ar gael ichi a chithau’n fyfyriwr ôl-raddedig yn dibynnu ar ble rydych chi fel arfer yn byw cyn i chi ddechrau eich cwrs.

Sylwch, os ydych chi’n fyfyriwr israddedig cyfredol yng Nghymru ac yn bwriadu symud ymlaen ar unwaith i ddilyn cwrs ôl-raddedig ar ôl graddio, y bydd yn rhaid ichi wneud cais i'r corff cyllido yn seiliedig ar ble roeddech chi'n byw cyn ichi ddechrau eich cwrs israddedig.

Mynnwch gip ar yr wybodaeth sy’n ymwneud â chyllid ar gyfer y wlad rydych chi fel arfer yn byw ynddi:

Os ydych chi’n byw yng Nghymru fel arfer ac yn bwriadu dechrau cwrs Meistr ym mis Medi 2024 yna gallwch chi wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael cyllid ôl-raddedig.

Pa gyllid sydd ar gael?

Hwyrach y bydd pob myfyriwr cymwys sy’n byw yng Nghymru fel arfer cyn dechrau ei gwrs, ac sy'n astudio cwrs cymwys, yn gallu cael benthyciad a grant hyd at uchafswm o £18,770 er mwyn helpu i dalu costau ffioedd dysgu a chostau byw cyffredinol.

Mae'r £1,000 cyntaf yn y cyllid hwn ar gael ar ffurf grant nad yw'n amodol ar brawf modd ac nad oes rhaid ei dalu nôl. Mae hyn yn golygu y bydd pob myfyriwr cymwys yn cael grant gwerth £1,000 ni waeth beth yw incwm yr aelwyd.

Bydd y £17,770 sy'n weddill ar gael naill ai ar ffurf benthyciad neu gyfuniad o fenthyciad a grant, gan ddibynnu ar fanylion incwm aelwydydd.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r cyllid sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru gan ddibynnu ar incwm aelwydydd.

Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i ddilyn cwrs amser llawn yn 2023/24*

Incwm yr Aelwyd

Y grant sydd ar gael

Y benthyciad sydd ar gael

Cyfanswm y cyllid sydd ar gael

£18,370 neu’n llai

£6,885

£11,885

£18,770

£25,000

£5,930

£12,840

£18,770

£35,000

£4,488

£14,282

£18,770

£45,000

£3,047

£15,723

£18,770

£59,200 neu ragor

£1,000

£17,770

£18,770

Bydd y cyllid hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer ar ffurf tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer, byddwch chi’n cael y taliad cyntaf ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl ichi orffen ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych chi ar gyfer o leiaf bythefnos pan fyddwch chi’n cyrraedd y Brifysgol.

Yn wahanol i gyllid israddedig, nid oes benthyciad penodol o ran ffioedd dysgu ac mae’n rhaid talu ffioedd dysgu yn uniongyrchol i'r Brifysgol.

*Os byddwch chi’n astudio ar gwrs rhan-amser cymwys, yna bydd y cyllid yn cael ei rannu ar draws blynyddoedd academaidd eich cwrs. Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer cwrs rhan-amser fydd yn dechrau ym mis Medi 2023 yw 18,770 o hyd.

Bod yn gymwys

Bydd p’un a allwch chi gael cyllid i ôl-raddedigion gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch gwlad breswyl
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu goleg
  • eich oedran
  • eich astudiaethau blaenorol
  • os ydych chi’n derbyn cyllid arall, megis bwrsariaeth y GIG neu fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf o ran bod yn gymwys ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Cymru

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol hwyrach y bydd cyllid ychwanegol ar gael ichi drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais am gyllid

Mae disgwyl i’r broses o wneud cais i fyfyrwyr sy’n byw fel arfer yng Nghymru ac sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2023 agor ym mis Mai/Mehefin 2023.

Cyllid ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i fyw ynddi yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd yn fyfyriwr ôl- raddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciad i ôl-raddedigion

Os oes gennych chi fenthyciad i ôl-raddedigion byddwch chi’n atebol i’w ad-dalu o'r mis Ebrill ar ôl ichi orffen eich cwrs.

Dim ond pan fydd eich incwm yn fwy na’r trothwy ad-dalu y byddwch chi’n dechrau gwneud ad-daliadau. Ar hyn o bryd, y trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau i ôl-raddedigion yw £21,000* y flwyddyn. Os bydd eich incwm yn mynd yn llai na'r trothwy ad-dalu, bydd yr ad-daliadau'n dod i ben a dim ond pan fydd eich incwm yn uwch na’r trothwy unwaith eto y byddwch chi’n ailddechrau ad-dalu. Gallwch chi hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol ychwanegol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar unrhyw adeg.

Pennwyd ad-dalu benthyciadau i ôl-raddedigion yn 6% o’ch incwm sy’n fwy na £21,000 y flwyddyn. Fel arfer, caiff ad-daliadau eu cymryd o’ch cyflog drwy’r system dreth.

Edrychwch ar y tabl isod i gael syniad o faint byddai cost yr ad-daliadau misol yn seiliedig ar incwm:

incwm blynyddol (cyn treth)

Swm yr ad-daliad misol ar gyfartaledd

£20,000

£0 - y cyflog yn is na'r trothwy

£25,000

£20

£30,000

£45

£35,000

£70

£45,000

£120

Os byddwch chi’n ad-dalu unrhyw fenthyciadau i israddedigion (benthyciad ffioedd dysgu a/neu fenthyciad cynhaliaeth), bydd ad-daliadau’r benthyciad i ôl-raddedigion yn cael eu cymryd ar ben ad-daliadau’r benthyciad i israddedigion.  Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y byddwch chi’n ad-dalu eich benthyciadau Israddedig ac Ôl-raddedig ar yr un pryd os byddwch chi’n ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Trothwy ad-dalu *22/23

Llog ar y Benthyciad i Ôl-raddedigion

Codir llog arnoch chi ar unrhyw fenthyciad, gan ddechrau o’r adeg pan fyddwch chi’n ei gael hyd nes y bydd wedi ei dalu yn ôl yn llawn, neu y caiff unrhyw falans ei ddileu.

Ar hyn o bryd, cyfradd y llog ar fenthyciadau i ôl-raddedigion yw 6.5%.

Cyfradd y llog ar fenthyciadau i ôl-raddedigion fel arfer yw Mynegai’r Prisiau Manwerthu ynghyd â 3%. Fodd bynnag, mae cyfradd y llog wedi’i chapio ar hyn o bryd tan 28 Chwefror 2023 oherwydd chwyddiant. Ni fydd cyfraddau llog ar fenthyciadau i ôl-raddedigion yn mynd yn fwy na 6.5% tra y  bydd y cap yn ei le.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae benthyciadau i ôl-raddedigion yn cael eu had-dalu yma.

Os ydych chi’n byw fel arfer yn Lloegr ac yn bwriadu dechrau cwrs Meistr ym mis Medi 2024, yna gallwch chi wneud cais i Student Finance England i gael cyllid ôl-raddedig.

Pa gyllid sydd ar gael?

Hwyrach y bydd pob myfyriwr cymwys sydd fel arfer yn byw yn Lloegr cyn dechrau ei gwrs ac a fydd yn astudio cwrs cymwys yn gallu derbyn benthyciad hyd at uchafswm o £12,167, i helpu i dalu am gost ffioedd dysgu a chostau byw cyffredinol.

Nid yw incwm aelwydydd yn effeithio ar y gallu i gael y benthyciad gwerth £12,167.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer ar ffurf tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer, byddwch chi’n cael y taliad cyntaf ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl ichi orffen ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych chi ar gyfer o leiaf bythefnos pan fyddwch chi’n cyrraedd y Brifysgol.

Yn wahanol i gyllid israddedig, nid oes benthyciad ffioedd dysgu penodol ar gael ac mae angen talu ffioedd dysgu yn uniongyrchol i'r brifysgol.

Os byddwch chi’n astudio ar gwrs rhan-amser cymwys, yna bydd yr arian yn cael ei rannu ar draws blynyddoedd academaidd eich cwrs. Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer y cwrs rhan-amser fydd yn dechrau ym mis Medi 2023 yw £12,167 o hyd.

Bod yn gymwys

Bydd p’un a allwch chi gael cyllid i ôl-raddedigion gan Student Finance England yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch gwlad breswyl
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu goleg
  • eich oedran
  • eich astudiaethau blaenorol
  • os ydych chi’n derbyn cyllid arall, megis bwrsariaeth y GIG neu fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol

Mae rhagor o fanylion am y meini prawf bod yn gymwys ar gael ar wefan Student Finance England.

Arian ychwanegol gan Student Finance England

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael ichi drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ewch i Student Finance England i gael rhagor o wybodaeth.

Sut i wneud cais am gyllid

Mae disgwyl i’r broses o wneud cais i fyfyrwyr sy’n byw fel arfer yn Lloegr ac sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2023 agor ym mis Mai/Mehefin 2023.

Cyllid ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig ystod o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau gan ddibynnu ar eich amgylchiadau penodol.

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i fyw ynddi yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd yn fyfyriwr ôl-raddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciad i ôl-raddedigion

Os oes gennych chi fenthyciad i ôl-raddedigion byddwch chi’n atebol i’w ad-dalu o'r mis Ebrill ar ôl ichi orffen eich cwrs.

Dim ond pan fydd eich incwm yn fwy na’r trothwy ad-dalu y byddwch chi’n dechrau gwneud ad-daliadau.  Ar hyn o bryd, y trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau i ôl-raddedigion yw £21,000* y flwyddyn. Os bydd eich incwm yn mynd yn llai na'r trothwy ad-dalu, bydd yr ad-daliadau'n dod i ben a dim ond pan fydd eich incwm yn uwch na’r trothwy unwaith eto y byddwch chi’n ailddechrau ad-dalu. Gallwch chi hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol ychwanegol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar unrhyw adeg.

Pennwyd ad-dalu benthyciadau i ôl-raddedigion yn 6% o’ch incwm sy’n fwy na £21,000 y flwyddyn. Fel arfer, caiff ad-daliadau eu cymryd o’ch cyflog drwy’r system dreth.

Edrychwch ar y tabl isod i gael syniad o faint byddai cost yr ad-daliadau misol yn seiliedig ar incwm:

incwm blynyddol (cyn treth)

Swm yr ad-daliad misol ar gyfartaledd

£20,000

£0 - y cyflog yn is na'r trothwy

£25,000

£20

£30,000

£45

£35,000

£70

£45,000

£120

Os byddwch chi’n ad-dalu unrhyw fenthyciadau i israddedigion (benthyciad ffioedd dysgu a/neu fenthyciad cynhaliaeth), bydd ad-daliadau’r benthyciad i ôl-raddedigion yn cael eu cymryd ar ben ad-daliadau’r benthyciad i israddedigion.  Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y byddwch chi’n ad-dalu eich benthyciadau Israddedig ac Ôl-raddedig ar yr un pryd os byddwch chi’n ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Trothwy ad-dalu *22/23

Llog ar y Benthyciad i ôl-raddedigion

Codir llog arnoch chi ar unrhyw fenthyciad, gan ddechrau o’r adeg pan fyddwch chi’n ei gael hyd nes y bydd wedi ei dalu yn ôl yn llawn, neu y caiff unrhyw falans ei ddileu.

Ar hyn o bryd, cyfradd y llog ar fenthyciadau i ôl-raddedigion yw 6.5%.

Cyfradd y llog ar Fenthyciadau i ôl-raddedigion fel arfer yw Mynegai’r Prisiau Manwerthu ynghyd â 3%. Fodd bynnag, mae cyfradd y llog wedi’i chapio ar hyn o bryd tan 28 Chwefror 2023 oherwydd chwyddiant. Ni fydd cyfraddau llog ar fenthyciadau i ôl-raddedigion yn mynd yn fwy na 6.5% tra y bydd y cap yn ei le.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae benthyciadau i ôl-raddedigion yn cael eu had-dalu yma.

Gellir cael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar Student Awards Agency Scotland.

Gellir cael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan gwasanaethau llywodraeth nidirect.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr

Email
studentconnect@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 8888