Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Biowyddorau dan ofal Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biodechnoleg a Biolegol yn y De-orllewin (SWBio DTP)

Ynghlwm wrth y SWBio DTP, a ariennir gan y BBSRC, mae partneriaeth o brifysgolion, sefydliadau ymchwil a diwydiannau byd-enwog ledled de-orllewin Lloegr a Chymru yn bennaf.

Mae gan y bartneriaeth hon rwydweithiau gwyddonol rhyngwladol, cenedlaethol a rhanbarthol a gydnabyddir yn eang am ragoriaeth ei hymchwil a’i chyfleusterau.

Ein nod yw rhoi hyfforddiant ymchwil ryngddisgyblaethol ragorol ichi fydd yn ymdrin â’r themâu canlynol ac yn seiliedig ar dechnolegau sy’n gweddnewid ein byd:

Trosolwg

Byddwch yn cael eich recriwtio'n uniongyrchol ar gyfer prosiect eang a rhyngddisgyblaethol a gefnogir gan dîm goruchwylio amlddisgyblaethol, a cheir nifer o brosiectau traws-sefydliadol.

Ceir cyfleoedd hefyd i:

Strwythur y Rhaglen

Bydd ein rhaglen hyfforddi strwythuredig yn sicrhau bod gennych yr hyn y bydd ei angen arnoch a chithau’n ymchwilydd ym maes y biowyddorau, gan roi cymorth gyrfaol gyda golwg ar y byd academaidd, diwydiant a thu hwnt i hynny.

Y Flwyddyn Gyntaf

Rydym yn cyflwyno gwybodaeth eang ynghylch y dulliau ymchwil sylfaenol ym maes y gwyddorau bywyd a sut y gellid defnyddio’r rhain mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn yn sgil:

  • dau brosiect cylchdroi - y ddau yn gysylltiedig â’r prosiect PhD ond mewn meysydd disgyblaethol gwahanol.
  • tair uned a addysgir - hyfforddiant ym maes Ystadegau, Biowybodeg, codio, dylunio arbrofol, arloesi a deall effaith eich ymchwil.

Bydd gofyn ichi gwblhau'r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus i symud ymlaen i ail flwyddyn eich astudiaethau. Hefyd, os na allwch barhau â'ch PhD, mae llwybr ymadael MRes ar gael yn dilyn cwblhau'r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus.

Yr ail flwyddyn hyd at y bedwaredd

Bydd y blynyddoedd sy'n weddill yn debycach i PhD gonfensiynol, pan fyddwch yn canolbwyntio ar eich prosiect PhD.

Rhaid cyflwyno'r traethawd PhD cyn pen 4 blynedd (cyfwerth ag amser llawn) ar ôl dyddiad dechrau'r rhaglen.

Lleoliadau Gwaith

Er mwyn helpu i ehangu eich gorwelion gyrfaol, byddwch yn ymgymryd â

  • lleoliad 3 mis o hyd o'ch dewis, a hynny’r tu allan i fyd ymchwil academaidd - ymhlith yr enghreifftiau mae gweithio ym maes polisïau, cyfathrebu gwyddonol, byd diwydiant a chyhoeddi gwyddonol
  • neu leoliad diwydiannol 3-18 mis gyda'ch partner CASE – ysgoloriaethau CASE yn unig

Diben y rhain yw rhoi’r sgiliau, y profiad a’r wybodaeth ichi y mae cryn alw amdanynt ac y gellir eu defnyddio mewn llawer o sectorau gyrfaol.

Gweithgareddau carfan

Byddwch yn cael y cyfle i ymuno â nifer o weithgareddau’r bartneriaeth ar sail carfan megis cynadleddau myfyrwyr, gweithdai a digwyddiadau allgymorth. Yma byddwch yn cwrdd â myfyrwyr o bob rhan o’r bartneriaeth, gan roi ichi rwydwaith amlddisgyblaethol a chefnogol i gyd-fyfyrwyr.

Cyllid a bod yn gymwys

Bydd un o ysgoloriaethau’r SWBio DTP sy’n ariannu pedair blynedd yn llawn yn cwmpasu

  • cyflog myfyriwr* (ar gyfradd safonol Cynghorau Ymchwil y DU; ar hyn o bryd £18,622 y flwyddyn ar gyfer 2023-24)
  • costau ymchwil a hyfforddiant
  • ffioedd dysgu (ar gyfradd safonol Cynghorau Ymchwil y DU)
  • cyllid ychwanegol i gefnogi gwaith maes, cynadleddau ac interniaeth 3 mis o hyd

*Mae cyflog uwch ar gael i fyfyrwyr sydd â chymhwyster sy’n radd gydnabyddedig ym maes milfeddygaeth (£24,789 y flwyddyn ar gyfer 2022-2023). Mae’n bosibl hefyd y bydd cyflogau uwch sy’n gysylltiedig â phrosiectau un o bartneriaid CASE (amlygir y rhain â *CASE yn y rhestrau o brosiectau).

Ewch i wefan SWBio DTP i gael manylion llawn am gyllid a'r gofynion cymhwysedd.

Cefnogi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Ein nod yn SWBio yBartneriaeth Hyfforddiant Doethurolyw cefnogi myfyrwyr o ystod o gefndiroedd ac amgylchiadau.  Pan fo angen, byddwn yn gweithio gyda chi i ystyried addasiadau rhesymol i brosiectau (er enghraifft cefnogi cyfrifoldebau gofalu, anableddau, amgylchiadau personol arwyddocaol eraill) yn ogystal â gweithio hyblyg a cheisiadau i astudio’n rhan-amser, fel y gall rhagor o unigolion ddilyn PhD.  Mae pob un o’n goruchwylwyr yn ein cefnogi yn hyn o beth, ac rydym eisiau ichi deimlo eich bod yn gallu trafod hyn ymhellach gyda goruchwylwyr penodol y prosiectau PhD er mwyn gweld beth sy'n ymarferol.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Ein datganiad ynghylch Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar gyfer SWBio y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol a Sut rydym yn cefnogi ein carfan amrywiol o fyfyrwyr.

Dyddiad cau cyflwyno cais

23:59, dydd Llun 4 Rhagfyr 2023

Sut i wneud cais a'r prosiectau sydd ar gael.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ymweld â'n gwefan DTP am rhagor o wybodaeth ac am sut i wneud cais.

Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb mewn cael yr arian hwn a chael gwybod am ysgoloriaethau ymchwil eraill a gyhoeddir o dan y cynllun hwn.

BBSRC logo