Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar

Mae ein Hysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael gradd dosbarth cyntaf.

Caiff ysgoloriaethau o £1,000 eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi cael marciau uchel a chynigir gostyngiad ffioedd dysgu iddynt.

Meini prawf cymhwysol

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaethau mae'n rhaid bod gennych y canlynol:

  • gradd dosbarth cyntaf o sefydliad yn y DU (gan gynnwys sefydliadau'r DU sydd â champysau dramor)
  • cynnig gan ein rhaglen Cwrs Hyfforddiant y Bar (BTC)

Os ydych yn ddeiliad cynnig amodol, disgwylir i chi fodloni amodau eich cynnig neu ragori arnynt, bydd deiliaid cynnig diamod yn cael ysgoloriaeth yn awtomatig.

Telerau ac amodau

Caiff yr holl ysgoloriaethau eu dyfarnu ar ffurf gostyngiad ffioedd dysgu a byddant yn awtomatig wrth gofrestru. Ni chewch ei chyfnewid am arian parod ac ni ellir defnyddio'r wobr yn hytrach nag unrhyw flaendal gofynnol. Dyfernir ysgoloriaethau ar sail pwy sy'n bodloni ein meini prawf cymhwysedd fel y nodir yn y telerau ac amodau.

Mae'r ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr llawn amser yn dechrau ym mis Medi 2024.

Dim ond myfyrwyr rhyngwladol sy'n ariannu eu hunain a myfyrwyr statws ffioedd cartref sy'n gymwys. Nid yw'r ysgoloriaeth ar gael i fyfyrwyr sy'n derbyn cyllid gan gyrff allanol megis y Llywodraeth leol, elusennau neu sefydliadau preifat. Nid yw hyn yn cynnwys benthyciadau Ôl-raddedig a Addysgir gan Lywodraeth Prydain a benthyciadau Ôl-raddedig a Addysgir a bwrsariaethau gan Lywodraeth Cymru.

Deiliaid Cynnig Amodol

  • Mae'n rhaid i chi fodloni'r union ofynion a nodir yn eich llythyr cynnig ffurfiol neu ragori arnynt.
  • Mae'n rhaid i chi dderbyn Prifysgol Caerdydd fel eich dewis Cadarn a bodloni holl amodau eich cynnig erbyn 9 Awst 2024.

Deiliaid Cynnig Diamod

  • Os ydych wedi cael Cynnig Diamod, mae'n rhaid i chi gadarnhau Prifysgol Caerdydd fel eich dewis Cadarn erbyn 9 Awst 2024.
  1. Mae Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar Prifysgol Caerdydd ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd â gradd dosbarth cyntaf gan sefydliad yn y DU (mae hyn yn cynnwys sefydliadau yn y DU sydd â champysau dramor)
  2. £1,000 yw gwerth Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar Prifysgol Caerdydd, a chaiff ei dyfarnu ar ffurf gostyngiad i ffioedd dysgu yn unig. Ni ellir ei defnyddio yn lle unrhyw flaendal gofynnol. Ni chewch gyfnewid y wobr am arian parod.
  3. Mae Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar Prifysgol Caerdydd ar gyfer mynediad i Brifysgol Caerdydd yn semester yr hydref yn ystod y flwyddyn academaidd 2024/2025, os hoffech ohirio cael mynediad i'r rhaglen am un flwyddyn, gellir trosglwyddo'r ysgoloriaeth i gael mynediad ym mlwyddyn 2025/2026.
  4. Gall ymgeiswyr sy'n cael unrhyw ysgoloriaeth, bwrsariaeth, cyllid neu ostyngiad gan Brifysgol Caerdydd ond cael hyd at £5,000 wedi'i ddyfarnu iddynt.
  5. Mae Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar Prifysgol Caerdydd ond ar gael i fyfyrwyr sy'n ariannu eu hunain; os ydych yn cael cyllid (sy'n cynnwys naill ai ffioedd dysgu neu ffioedd dysgu a chostau byw) gan gorff allanol a fydd yn cael eu hanfonebu gan y Brifysgol ar gyfer ffioedd (megis y Llywodraeth, elusen neu sefydliad preifat) nid ydych yn gymwys i gael yr Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar.  Nid yw hyn yn cynnwys benthyciadau Ôl-raddedig a Addysgir gan Lywodraeth Prydain a benthyciadau Ôl-raddedig a Addysgir a bwrsariaethau gan Lywodraeth Cymru.
  6. Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae'n rhaid i chi fodloni'r holl ofynion ariannol fel rhan o'ch cais am fisa i astudio yn y DU. Ni ddylech ddibynnu'n unig ar gael Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar Prifysgol Caerdydd i fodloni gofynion ariannol UKVI.  Mae rhagor o wybodaeth am ofynion ariannol UKVI ar gyfer ceisiadau am fisa ar gael yn y ddolen we hon
  7. Caiff myfyrwyr sy'n cael benthyciadau addysgol eu cynnwys yn y cynllun hwn.
  8. Sicrhewch eich bod wedi gadael digon o amser i'ch cais a'ch dogfennau ategol gael eu hadolygu a'u prosesu cyn y dyddiad derbyn a nodir uchod.  Gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith. Dylech gysylltu â'r Swyddfa Dderbyn os oes gennych unrhyw broblemau'n cyflwyno eich cais neu eich dogfennau.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am ein Hysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar anfonwch ebost atom i gael cyngor:

Cyllid yr AHSS