Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaethau gwaith cymdeithasol

Mae bwrsariaethau gwaith cymdeithasol ar gael i fyfyrwyr o Gymru a Lloegr.

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn ymwneud â'r cyllid sydd ar gael ym mlwyddyn academaidd 2022-23. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon maes o law unwaith y cawn gadarnhad o faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer 2023-24.

Gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw cyn dechrau eich cwrs, gallwch chi wneud cais i naill ai i Ofal Cymdeithasol Cymru os oeddech chi’n byw yng Nghymru cyn ichi ddechrau eich cwrs, neu os ydych chi’n byw yn Lloegr gallwch chi wneud cais i Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Bwrsariaethau Gwaith Cymdeithasol i fyfyrwyr o Gymru

Gwnewch gais i'r Cynllun Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol (SWBS). Bydd yn rhaid ichi greu cyfrif ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru i wneud cais am eich cyllid a bydd yn rhaid ichi ailymgeisio ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs.

Bwrsariaeth – i helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw£12,715 y flwyddynNid yw'n cael ei asesu ar sail incwm
Grant Dibynyddion sy’n Oedolion£2,645

Mae’n cael ei asesu ar sail incwm

Lwfans Dysgu i Rieni£1,505

Mae’n cael ei asesu ar sail incwm

Grant Gofal Plantun plentyn — hyd at £8,330 y flwyddyn

dau neu ragor o blant – hyd at £14,285 y flwyddyn

Mae’n cael ei asesu ar sail incwm

Bwrsariaethau gwaith cymdeithasol i fyfyrwyr o Loegr

Gwnewch gais am y fwrsariaeth gwaith cymdeithasol ar wefan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG. Bydd yn rhaid ichi greu cyfrif i wneud cais, a bydd yn rhaid ichi ailymgeisio ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs.