Ewch i’r prif gynnwys

Ymrestru PhD

Gwybodaeth am ymrestru ac ymsefydlu ar gyfer myfyrwyr PhD newydd a'r rhai sy'n dychwelyd i Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.

Llongyfarchiadau i chi ar gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd! Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ddechrau astudio gyda ni, ac yn gweithio'n galed i sicrhau y byddwch yn byw ac yn dysgu'n ddiogel.

Er mwyn eich helpu i dod i arfer â bywyd myfyrwyr, rydym wrthi'n cynllunio gweithgareddau ymsefydlu lle bydd cyfle i chi ddod i ymgyfarwyddo â'ch Ysgol Academaidd a'r staff.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu ar y tudalennau yma pan fydd ar gael.

Ymrestru ar-lein

Rhaid i bob myfyriwr ymrestru ar-lein trwy SIMS. Bydd myfyrwyr sy'n dychwelyd angen eu henw defnyddiwr a chyfrinair y Brifysgol i gael mynediad at SIMS ar-lein.

Anfonir ebost at fyfyrwyr newydd (neu lythyr os nad oes cyfeiriad ebost ar gael), tua thair wythnos cyn dyddiad dechrau'r rhaglen yn eich cynghori i gwblhau'r ymrestru ar-lein.

Cwestiynau am ymrestru ar-lein

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymrestru ar-lein, cysylltwch â Swyddfa Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a fydd yn hapus i helpu i ddatrys unrhyw broblemau:

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd: Ymholiadau cyffredinol