Ewch i’r prif gynnwys

MSc Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol

Gwybodaeth cofrestru ac ymsefydlu ar gyfer holl fyfyrwyr gradd meistr newydd ac sy'n dychwelyd.

Yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi am y tro cyntaf neu ddychwelyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20. Darllenwch y wybodaeth hon a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus i sicrhau cofrestru ac ymrestru llyfn.

Ymrestru

Mae'n rhaid i fyfyrwyr MSc newydd ac sy'n dychwelyd ymrestru ar-lein drwy SIMS.

Bydd myfyrwyr yn derbyn ebost (neu lythyr lle nad oes cyfeiriad ebost ar gael), tua thair wythnos cyn dyddiad dechrau'r rhaglen yn eich cynghori chi ar sut i gwblhau ymrestru ar-lein.

Ymholiadau cyffredinol

Y pwynt cyswllt ar gyfer holl fyfyrwyr yw Swyddfa Addysgu Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd,

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd: Ymholiadau cyffredinol

Ymsefydlu Ysgol

Llongyfarchiadau i chi ar gael lle ym Mhrifysgol Caerdydd! Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ddechrau astudio gyda ni, ac yn gweithio'n galed i sicrhau y byddwch yn byw ac yn dysgu'n ddiogel.

Er mwyn eich helpu i dod i arfer â bywyd myfyrwyr, rydym wrthi'n cynllunio gweithgareddau ymsefydlu lle bydd cyfle i chi ddod i ymgyfarwyddo â'ch Ysgol Academaidd a'r staff.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu ar y tudalennau yma pan fydd ar gael.