Ymsefydlu ôl-raddedig i fyfyrwyr Pensaernïaeth
Gwybodaeth am gofrestru ac ymsefydlu i fyfyrwyr ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
27 Medi - 1 Hydref: wythnos ymsefydlu ar-lein
Mae’r wythnos ymsefydlu ar-lein yn cynnwys nifer o weithgareddau sydd â’r nod o’ch helpu i:
- gwblhau eich cofrestriad
- ymgyfarwyddo â'r llwyfannau dysgu ar-lein a ddefnyddir gan Brifysgol Caerdydd ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- mynychu gweminarau Iechyd a Diogelwch gorfodol
- dysgu am ddosbarthiadau iaith Saesneg ac, os oes angen, cofrestru ar gyfer sesiynau tiwtorial Saesneg
- ymgyfarwyddo ag adnoddau llyfrgell Prifysgol Caerdydd.
Gan mai hon yn aml yw'r wythnos pan fyddwch chi'n symud i Gaerdydd (os ydych wedi dewis astudio yma gyda ni) ac yn ymgartrefu yno, mae'r mwyafrif o'r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i fod yn ddigwyddiadau ar-lein a recordiwyd ymlaen llaw, y gallwch chi eu gwylio ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Mae’r wythnos hon hefyd yn cynnwys croeso i fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n cael ei ffrydio’n fyw. Bydd y cyflwyniad yn gyfle i ni gwrdd â’n gilydd a thrafod sut y gallwn ddarparu dysgu cyfunol eleni.
Dylai pob myfyriwr ôl-raddedig newydd a addysgir fynd i'r sesiynau ar-lein canlynol:
Dydd Llun 27 Medi
Amser | Sesiwn | Mynediad |
---|---|---|
11:00 | Cyflwyniad a Chroeso gan Bennaeth yr Ysgol Croeso gan y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig | Croeso gan Bennaeth yr Ysgol a'r Cyfarwyddwr Ôl-raddedig a Addysgir Ymunwch â'r cyfarfod |
11:45 | Croeso gan bob un o Arweinwyr y Rhaglen Ôl-raddedig - gan gynnwys cyflwyniad i weithgareddau’r wythnos | Dilynwch y ddolen Zoom briodol ar gyfer eich cwrs: MSc Dulliau Cyfrifiadurol Pensaernïaeth MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol MSc Mega-adeiladau Cynaliadwy MA Dylunio Pensaernïol MSc Cadwraeth Adeiladau Gynaliadwy |
14:00 | Dysgu cyfunol ym Mhrifysgol Caerdydd |
Mae cyfnod y coronafeirws (COVID-19) yn amser heriol i fyfyrwyr, felly rydym am sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn gyda’ch dysgu. Bydd ein cyflwyniad i ddysgu Cyfunol ym Mhrifysgol Caerdydd (a nodir hefyd yn yr amserlen uchod) yn eich helpu i baratoi a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â sut olwg fydd ar eich gwersi. Os ydych chi'n gweithio o bell, gallwch ddarllen y canllaw Dysgu o Bell i fyfyrwyr, sy'n cynnwys ein 5 darn gorau o gyngor ynghylch dysgu o bell. Os hoffech chi gael gwybod pa sgiliau astudio y dylech efallai ganolbwyntio arnyn nhw'n gyntaf, gallwch ddefnyddio ein hadnodd hunanasesu yma Asesu eich sgiliau academaidd.
Adnoddau academaidd ychwanegol
Adnodd | Mynediad |
---|---|
Ysgrifennu ar lefel Ôl-raddedig a Addysgir | Mewnrwyd y Myfyrwyr: Astudio > Sgiliau Astudio > Ysgrifennu ar Lefel Ôl-raddedig a Addysgir |
Adnoddau rhad ac am ddim o'r Brifysgol Agored wedi'u curadu gyda Grŵp Russell | |
Dulliau ymchwil SAGE |
Adnoddau anghydamserol ychwanegol
Gweithgaredd | Mynediad |
---|---|
Cyflwyniad i'r llyfrgell | |
Labordy Digidol | |
Gweithdy | |
Mynediad at feddalwedd yn yr Ysgol | |
Cymorth Iaith Saesneg | |
Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladau a Gweithgareddau Addysgu | Diogelwch cyffredinol: Dysgu Canolog > ARCHI – Ysgol Pensaernïaeth Cymru > Cymorth i Fyfyrwyr WSA Adnoddau a Chanllawiau > Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd > Diogelwch Cyffredinol 21/22 Creu yn y stiwdio: Dysgu Canolog > ARCHI – Ysgol Pensaernïaeth Cymru > Adnoddau a Chanllawiau Cymorth i Fyfyrwyr WSA > y Mynydd Bychan, Diogelwch a'r Amgylchedd > gwneud yn y Stiwdio 21/22 |
Cymdeithas Myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru (SAWSA) | |
Cyflwyniad i Gymorth Iechyd a Lles ym Mhrifysgol Caerdydd | Cewch fanylion ar Fewnrwyd y Myfyrwyr o dan ‘Iechyd a Lles’. Mae hyn yn cynnwys canllawiau sy’n gysylltiedig â Covid-19. |
Arddangosfa Rithwir 2021 | |
Llawlyfr Ôl-raddedig a Addysgir |
Nodiadau mewn perthynas ag adnoddau anghydamserol:
Er bod gwylio digwyddiadau a recordiwyd ymlaen llaw yn ddull cyfleus neu rhwydd ar un olwg, mae'n bwysig o hyd eich bod yn cynllunio eich dull astudio yn ofalus ac yn neilltuo amser a lle i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau. Dyma rai awgrymiadau ar sut i wneud hyn:
- Efallai yr hoffech chi neilltuo diwrnodau penodol o'r wythnos i wylio sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw ar-lein, neu adegau penodol o'r dydd ar draws holl ddyddiau'r wythnos. Chi sydd i gynllunio pryd, sut a ble y byddwch yn ymgysylltu â'r holl elfennau hanfodol.
- Cofiwch y bydd angen i chi fewngofnodi i Fewnrwyd y Myfyrwyr gan ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd, a mynd i Dysgu Canolog i gael mynediad at sesiynau Blackboard-Collaborate.
- Caiff ymgysylltu ar-lein ei fonitro lawn cymaint ag ymgysylltu ar y campws, yn dilyn canllawiau Prifysgol Caerdydd. Mae gwylio’r rhan fwyaf o'r gweithgareddau a recordiwyd ymlaen llaw yn ofynnol ar gyfer Ymsefydlu ar y Campws.
- Cyn eich sesiynau ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cysylltu â mewnrwyd y myfyrwyr, Dysgu Canolog, a llwyfannau perthnasol Blackboard Collaborate perthnasol, a bod gennych offer digonol i ymuno ag unrhyw ddigwyddiadau ffrydio byw nodweddiadol (e.e. Skype, Zoom, Messenger Chat). Gan y gall offer TG personol a chysylltiadau rhyngrwyd amrywio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gallu cymryd rhan mewn sgyrsiau fideo gyda mewnbwn / allbwn fideo a sain. Yn olaf, hoffem hefyd argymell eich bod yn defnyddio cysylltiad rhyngrwyd cebl, oherwydd gall rhai WiFi fod yn fwy anwadal.
- Os cewch unrhyw broblemau, cysylltwch â’n Cefnogaeth TG yn: IT-ServiceDesk@cardiff.ac.uk gan ddefnyddio cyfrif e-bost y brifysgol.
- Os na allwch ddod i'r digwyddiadau ffrydio byw am unrhyw reswm, cofiwch y caiff pob un ei recordio ac y byddan nhw ar gael yn y diwrnodau i ddilyn.
Trefniadau sy'n benodol i’r rhaglen
Yn ogystal â'r adnoddau cyffredinol uchod, mae gweithgareddau sefydlu rhaglen-benodol yn yr arfaeth. Bydd arweinwyr rhaglen yn anfon gwybodaeth am y gweithgareddau hyn at bob parti maes o law.
Cymorth â’r Saesneg i fyfyrwyr rhyngwladol
Mae ein tîm mewn-sesiynol o athrawon cymwys a phrofiadol yn cynnig dosbarthiadau ar-lein byw i fyfyrwyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cynnig dosbarthiadau wythnosol i:
- Fyfyrwyr israddedig
- Myfyrwyr ôl-raddedig
Dosbarthiadau i ganolbwyntio ar sgiliau ysgrifennu a sgiliau cyfathrebu. Maent wedi’u dylunio i’ch helpu i berfformio’n well yn y math o aseiniadau y mae’n rhaid i chi eu cwblhau yn eich pwnc.
I wneud cais am le mewn dosbarth cymorth, RHAID i chi lenwi'r ffurflen a gaiff ei hanfon atoch drwy ebost gan y Swyddfa Addysgu
Byddwn wedyn yn cysylltu â chi cyn i’r gwersi ddechrau. Os cewch le mewn dosbarth, byddwn yn anfon gwybodaeth lawn atoch am yr amseroedd a’r llwyfan ar-lein. Bydd pob dosbarth yn digwydd ar-lein dros Zoom.
Gall astudio mewn iaith a diwylliant arall fod yn heriol ar brydiau, felly mae ychydig o help llaw yn beth da. Os cewch le mewn dosbarth, dylech fynychu’n rheolaidd i fanteisio’n llawn ar y gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Y Tîm Mewn-sesiynol
Ebost: insessional@caerdydd.ac.uk