Ewch i’r prif gynnwys

Hunaniaethau Darllen

Prosiect sy’n trin a thrafod sut mae dehongli hunaniaethau yn llenyddiaeth Cymru yn cyfrannu at ddeall cynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae trin a thrafod hunaniaethau yn bwysicach nag erioed yn y cyd-destun addysgol cyfoes ac mae bellach yn rhan amlwg o'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Nod prosiect Hunaniaethau Darllen yw cynnal gweithdai yng nghwmni ymarferwyr addysg i ystyried y rôl allweddol y gall llenyddiaeth greadigol ei chwarae wrth ddatblygu dinasyddion sy'n ymwybodol o'r byd o'u cwmpas. Drwy ddefnyddio ymchwil arloesol ym maes theori a beirniadaeth lenyddol yng Nghymru, rhoddir sylw arbennig i sgiliau dadansoddi testunau creadigol a ffyrdd newydd o drafod agweddau ar rywedd, rhywioldeb, cenedligrwydd ac amlddiwylliannedd.

Rhan greiddiol o'r prosiect hwn yw creu partneriaethau gydag addysgwyr yn y sector Uwchradd ac arbenigwyr addysg er mwyn sicrhau elfen gref o gyfnewid gwybodaeth. Bydd y sawl fydd yn cymryd rhan yn cael eu cyflwyno i ffyrdd eraill o ddehongli llenyddiaeth o Gymru sy'n taflu goleuni ar themâu sy’n ymdrin â chynwysoldeb ac amrywiaeth. Bydd hyn yn arwain at greu adnodd electronig ar y cyd fydd yn hawdd dod o hyd iddo a bydd ar gael i addysgwyr ledled Cymru.

Arweinydd y prosiect

Dr Siwan Rosser

Dr Siwan Rosser

Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

Siarad Cymraeg
Email
rossersm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6287

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw rai o’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission