Children's University
Elusen yn y DU yw Children’s University sy’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a sefydliadau lleol i annog cariad at ddysgu.
Mae Children’s University yn rhoi’r cyfle i blant ddysgu mewn amrywiaeth gyfoethog o amgylchiadau, mynd i leoedd newydd, ymweld â phrifysgolion a mynd i’w seremoni raddio eu hunain.
Er mwyn cefnogi athrawon a disgyblion yn ystod y pandemig a thu hwnt, lansiodd brosiect peilot Children’s University yn 2021 ar y cyd â chwe ysgol leol.
Mae’r prosiect hwn yn annog cariad at ddysgu ymhlith plant, gan gynnwys rhyfeddod at y byd o’u cwmpas. Mae hefyd yn datblygu eu hyder a’u dyheadau am ddyfodol disglair. Mae’r plant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgol ar-lein. Mae adnoddau dysgu a ddatblygwyd gan wahanol bartneriaid, sydd bellach yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, hefyd ar gael iddynt.
Drwy gwblhau tasgau, mae’r plant yn ennill pwyntiau sy’n cyfrannu at gyflawniadau a fydd yn cael eu cydnabod yn ffurfiol yn eu seremoni raddio eu hunain.
Rydym wedi datblygu 13 o weithgareddau ar gyfer gwefan Children’s University, gan gynnwys gweithgareddau sy’n seiliedig ar bynciau STEM, y gwyddorau cymdeithasol, newyddiaduraeth, hanes, archaeoleg a chrefydd. Rydym hefyd yn helpu i ddatblygu fersiwn ddwyieithog o wefan Children’s University mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.