Ein huchelgais
Rydyn ni'n rhoi ein cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma’r hyn yr ydym yn ei alw’n genhadaeth ddinesig.
Rydym wedi bod yn ymateb i heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas ac yn ymgymryd â gwaith er budd y cyhoedd ers ymhell dros 130 mlynedd. Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd, cyfoeth a lles y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a hefyd wedi cymryd ein rôl o ddifrif i hyrwyddo cynaliadwyedd ac amrywiaeth amgylcheddol.
Adeiladu'n ôl yn decach o'r pandemig
Mae argyfwng iechyd a chymdeithasol y coronafeirws wedi peri i ni ailfeddwl sut y gallwn ddefnyddio ein harbenigedd yn well er budd ein cymunedau amrywiol. Rydym yn benderfynol o wneud ein rhan wrth achub, adfywio ac adnewyddu gobeithion economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Cymru.
Byddwn yn adeiladu'n ôl yn decach o'r pandemig, gyda ffocws penodol ar genedlaethau'r dyfodol. Byddwn yn cymryd rhan flaenllaw wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol a'r argyfwng hinsawdd byd-eang. Byddwn yn estyn allan at bobl ifanc a chymunedau sydd wedi'u gwahardd yn lleol, ac ar draws Cymru, sydd fwyaf angen cymorth a chefnogaeth.
Mae ein his-strategaeth Cenhadaeth Ddinesig wedi'i hadnewyddu er mwyn canolbwyntio ar sut y gallwn helpu Cymru i wella ac ailadeiladu yn dilyn y pandemig.