Ewch i’r prif gynnwys

Gwlân o Gymru a gweu hanesion am gaethwasiaeth

Dyma brosiect sy'n trin a thrafod hanesion lleol sy’n ymwneud â chynhyrchu gwlân yn ogystal â’r gwaddol dyrys a chymhleth ynghlwm wrth gaethwasiaeth, ymerodraeth a gwlân o Gymru.

Mor bell yn ôl â'r ail ganrif ar bymtheg, roedd masnachwyr o Brydain, gan gynnwys y Royal African Company, yn allforio brethyn gwlân Cymreig o'r enw 'Welsh Plains' i orllewin Affrica a gwledydd America. Defnyddid y brethyn bras hwn i ddilladu caethweision ar blanhigfeydd yn y Caribî a Gogledd America. Er bod ymchwil wedi’i gwneud ar y ffordd y cafodd ‘Welsh Plains’ ei gynhyrchu’n lleol, yn ogystal â’i rôl ym masnach caethweision Prydain ar hyd cefnfor yr Iwerydd, mae diffyg ymwybyddiaeth o hyd ymhlith y cyhoedd. Mae tawelu’r naratif drefedigaethol hwn sy’n rhan o hanes diwydiannol Cymru yn awgrymu methiant i gydnabod rôl Cymru yn yr ymerodraeth Brydeinig.

Nod y prosiect hwn yw datgloi’r hanes trefedigaethol drwy gydweithio â chymuned leol Dolgellau, tref a dyfodd o ganlyniad i ddiwydiant gwlân cartref Cymru. Yn sgîl gwaith ar y cyd rhwng Rhwydwaith Ymchwil Brethyn Ar-lein (BORN)/Learning Links International, haneswyr lleol yn Nolgellau, Grŵp yr Aran, a’r Black Heritage Walks Network (BHWN), mae’r prosiect hwn wedi creu taith gerdded dreftadaeth hunandywys sy’n manylu ar yr hanesion lleol ynghlwm wrth gynhyrchu gwlân a’r gwaddol dyrys a chymhleth ynghlwm wrth gaethwasiaeth, ymerodraeth a gwlân o Gymru.

Arweinydd y prosiect

Dr Charlotte Hammond

Dr Charlotte Hammond

Darlithydd mewn Astudiaethau Ffrengig

Email
hammondc6@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0103

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission