Ewch i’r prif gynnwys
Rhiannon Marks

Dr Rhiannon Marks

(Mae hi'n)

Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Ysgol y Gymraeg

Email
MarksR@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 75594
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell Ystafell 1.67, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg
Users
Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig

Trosolwyg

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys:

  • Llenyddiaeth Gymraeg gyfoes (rhyddiaith a barddoniaeth)
  • Theori a beirniadaeth lenyddol (yn enwedig damcaniaethau sy'n ymwneud â hunaniaethau e.e. rhywedd, rhywioldeb a chenedligrwydd)
  • Beirniadaeth greadigol
  • Cyfieithu llenyddol

 

Cyhoeddiad

2020

2019

2018

2017

2016

2015

2013

Adrannau llyfrau

Erthyglau

Gwefannau

Llyfrau

teaching_resource

Ymchwil

Ymchwil

Mae fy niddordeb mewn llenyddiaeth gan fenywod yn parhau yn fy ymchwil presennol. Yn sgil taith ymchwil i'r Ariannin yn ystod Haf 2013 o dan nawdd banc Santander, rwy'n ymchwilio i waith y bardd o Batagonia, Irma Hughes de Jones.

Rwyf hefyd yn bwriadu cyfuno fy niddordeb mewn theori lenyddol a llenyddiaeth gyfoes mewn astudiaeth ar ddatblygiadau ym maes y stori fer ôl-fodernaidd.

 

Addysgu

BA Cymraeg

Rwy'n cyfrannu i nifer o fodiwlau'r rhaglen BA yn y Gymraeg, gan gynnwys: 

  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
  • Theori a Beirniadaeth Lenyddol (arweinydd modiwl)
  • Rhyddiaith Ddiweddar (arweinydd modiwl)
  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

 

MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Rwy'n gyfarwyddwr y rhaglen MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yn arwain y modiwlau canlynol:

  • Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol
  • Archwilio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
  • Pwnc Arbenigol
  • Prosiect Ymchwil Estynedig

Bywgraffiad

Cefais fy magu yng Nghil-y-cwm ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin. Graddiais â BA mewn Cymraeg o Brifysgol Aberystwyth cyn cwblhau MSt mewn Astudiaethau Menywod yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Dychwelais i Aberystwyth i lunio traethawd PhD ar waith Menna Elfyn gan arbrofi â ffurf 'beirniadaeth epistolaidd' ac yn 2013 cyhoeddwyd fy nghyfrol gyntaf o feirniadaeth lenyddol - 'Pe gallwn, mi luniwn lythyr': golwg ar waith Menna Elfyn

Pan fydd cyfle rwy'n hoff o ysgrifennu'n greadigol ac enillais goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007. 

Anrhydeddau a dyfarniadau

Gwobrau

  • 2015 - Gwobr Syr Ellis Griffith, Prifysgol Cymru
  • 2010 - Ysgoloriaeth Mair Waldo, Prifysgol Aberystwyth
  • 2007-2010 - Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig, Prifysgol Aberystwyth
  • 2007 - Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2007
  • 2006 - Ysgoloriaeth Meyricke, Coleg Iesu Rhydychen
  • 2003-2006 - Gwobrau Israddedig Prifysgol Aberystywyth (Ysgoloriaeth Syr T.H.Parry-Williams, Gwobr T.E.Nicholas, Gwobr Syr Goronwy Daniel, Gwobr yr Athro Thomas Jones, Ysgoloriaeth Cynddelw)

Aelodaethau proffesiynol

  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch

Safleoedd academaidd blaenorol

  • 2020 - presennol: Uwch-ddarlithydd, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
  • 2012 - 2020: Darlithydd, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
  • 2011 - 2012: Tiwtor Iaith, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Pwyllgorau ac adolygu

  • Cyd-olygydd Llên Cymru
  • Aelod o fwrdd golygyddol Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium
  • Aelod o fwrdd golygyddol cyfres Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru, Gwasg Prifysgol Cymru

Meysydd goruchwyliaeth

Myfyrwyr Ymchwil

Byddwn yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil sy'n dymuno dilyn y meysydd ymchwil canlynol:

  • Llenyddiaeth Gymraeg gyfoes (rhyddiaith a barddoniaeth)
  • Beirniadaeth Greadigol (gweithiau sy'n defnyddio dulliau ffuglennol i greu beirniadaeth lenyddol)
  • Theori Lenyddol a Beirniadol (yn enwedig damcaniaethau sy'n ymwneud â hunaniaethau e.e. rhywedd, rhywioldeb a chenedligrwydd)
  • Cyfieithu Llenyddol

 

Goruchwyliaeth gyfredol

Megan Sass

Megan Sass

Myfyriwr ymchwil

Eirian Lewis

Eirian Lewis

Myfyriwr ymchwil