Ewch i’r prif gynnwys

Cymryd rhan mewn ymchwil

Drwy wirfoddoli i gymryd rhan yn ein hymchwil, byddwch chi’n helpu i wella bywydau pobl yng Nghaerdydd a'r byd yn ehangach.

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau i fynd i'r afael â heriau o bwys sy'n wynebu’r gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd. Mae ein hymchwil wedi effeithio ar feysydd mor amrywiol ag iechyd meddwl, seiberddiogelwch, ynni adnewyddadwy, y gwasanaethau brys, a pholisïau'r llywodraeth.

Sut i gymryd rhan

Mae sawl ffordd y gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a'n helpu i fynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy'n wynebu’r gymdeithas. Ewch i'r tudalennau isod i gael gwybod rhagor am y ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan:

Research participation

Ysgol Seicoleg

Fel un o ganolfannau seicoleg mwyaf y DU, rydym yn aml yn chwilio am aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan yn ein hymchwil.

Researcher

Ysgol Optometreg a Gwyddorau Gweledigaeth

Cymerwch ran yn ein hymchwil a'n helpu i ddatblygu ein gwybodaeth i wella bywydau cleifion.

A participant lies in an MRI scanner while a male and female researcher operate the scanner

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd

Sign up to take part in one of our many world-leading brain imaging studies.

A researcher conducting an interview.

Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig

Rydym eisiau gwybod sut mae COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc yn Grangetown - ac rydym yn cynnal cyfres o weithdai i bobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed.

A crowd taking part in a study

Canolfan Ymchwil Treialon

Fel y grŵp mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru, rydym yn mynd i'r afael â chlefydau mawr a phryderon iechyd ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr ac adeiladu perthynas barhaol â'r cyhoedd.