Palu ymlaen gydag archaeoleg yng Nghaerau a Threlái
Nod prosiect Treftadaeth CAER yw cysylltu cymunedau lleol â gorffennol cyfareddol Bryngaer Caerau a'i wneud yn berthnasol i'r presennol.
Sefydlwyd Treftadaeth CAER yn 2011. Prosiect ar y cyd yw e rhwng Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd ac ystod eang o bartneriaid a grwpiau lleol gan gynnwys Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Cyngor Caerdydd, Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Caerdydd, ysgolion lleol, trigolion, grwpiau cymunedol a llawer o rai eraill.
Mae'r prosiect arobryn yn canolbwyntio ar ymchwil i Fryngaer Caerau, sef safle archeolegol o bwys cenedlaethol rhwng maestref Caerau a Threlái yng ngorllewin Caerdydd, dwy o'r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Ynghyd â Gwobr Ymgysylltu â'r Cyhoedd a drefnir gan y Ganolfan Cydgysylltu Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn 2014 a Gwobr y Times Higher Education am 'gyfraniad eithriadol i'r gymuned leol' yn 2017, enillodd CAER wobr Marsh Cyngor Archaeoleg Prydain yn 2020 am ei gyfraniad i helpu i fynd i'r afael â’r heriau Covid-19 y mae cymunedau Caerau a Threlái yn eu hwynebu.
Prif lwyddiannau
Ymhlith gweithgareddau CAER, sy’n cynnwys miloedd o bobl leol, y mae geoffiseg, cloddio, dadansoddi arteffactau, arddangosfeydd, gosodiadau celf, ffilmiau, perfformiadau, cyrsiau achrededig, archaeoleg arbrofol a pharseli bwyd treftadaeth. Ariennir cylch presennol y prosiect, a elwir yn "Prosiect y Fryngaer Gudd" ac a lansiwyd ym mis Ebrill 2019, gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac maen nhw wrthi’n creu canolfan dreftadaeth ar y safle ar y cyd â llwybrau treftadaeth, dehongli a chyfleoedd gwirfoddoli i helpu i ymchwilio i’r heneb yn ogystal â’i churadu.
Sut i gymryd rhan
Mae CAER yn cynnal grwpiau gwirfoddoli rheolaidd ac mae ganddo gyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod o brosiectau ymchwil archeolegol a hanesyddol gan gynnwys gwaith cloddio. I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â Chyd-Gyfarwyddwr CAER, Dr Olly Davis.
Dr Oliver Davis
Senior Lecturer, CAER Heritage Project Co-director (Study Leave 2022/3 (Semester 1))
- davisop@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 0215
Ewch i wefan Treftadaeth CAER i gael rhagor o wybodaeth am ein prosiectau a sut i gymryd rhan