Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi myfyrwyr meddygol a chlinigwyr sydd wedi lluddedu

Prosiect i wella ymwybyddiaeth, atal a lleddfu gorludded ymhlith myfyrwyr meddygol a meddygon.

Ers 2018 mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn casglu data am ba mor gyffredin yw gorludded ymhlith meddygon-dan-hyfforddiant a chlinigwyr sy'n hyfforddwyr. Nododd un ym mhob pum meddyg sylfaen a hyfforddwr eu bod yn teimlo gorludded uchel neu uchel iawn oherwydd eu gwaith. Mae dros hanner yr ymatebwyr bob amser neu'n aml yn teimlo’n lluddedig erbyn diwedd y diwrnod gwaith. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gorludded yn effeithio ar ofal cleifion, yn cynyddu camgymeriadau a materion ynghylch diogelwch cleifion ac yn rhwystro perfformiad unigolion.

Yn 2018, dechreuodd ein Hysgol Meddygaeth raglen o ymchwil sy'n archwilio canfyddiadau o orludded ymhlith y grwpiau hyn. Arweiniodd y canfyddiadau at ddatblygu gweithdy i wella ymwybyddiaeth o orludded a rheolaeth ohono ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â hyfforddi a goruchwylio meddygon-dan-hyfforddiant. Trwy gyflwyno gweithdai ledled y wlad, daeth yr angen i ddatblygu adnodd addysgol aml-foddol i reoli gorludded yn effeithiol i’r amlwg. Ers hynny mae canfyddiadau wedi llywio datblygiad podlediadau sy'n disgrifio mecanweithiau a gyrwyr gorludded yn ogystal â thechnegau rheoli.

Bydd y project hwn yn datblygu llwyfan i gynnal adnoddau a ddatblygwyd o'r ymchwil hon. Bydd y platfform yn darparu canolfan i gynnal adnoddau aml-foddol fel podlediadau ac animeiddiadau ochr yn ochr â chynnwys digidol i’w lawrlwytho.

Arweinydd y prosiect

Dr Kirstin Strokorb

Dr Kirstin Strokorb

Lecturer

Email
strokorbk@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8833

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission