Ewch i’r prif gynnwys

Cysgod y Garanod

Drama ryngweithiol yw Cysgod y Garanod a ysgrifennwyd ar y cyd â gweithwyr proffesiynol ym myd theatr.

Nod y rhaglen, sydd wedi’i hanelu at blant oedran ysgol ym mlynyddoedd 3 i 6 (Cyfnod Allweddol 2), yw ailennyn eu diddordeb ar ôl y pandemig a’u hannog i ystyried pynciau a themâu amgylcheddol pwysig mewn ffyrdd cyffrous a grymusol.

Mae'r prosiect yn dwyn ysbrydoliaeth o Wlyptiroedd Casnewydd a Gwastadeddau Gwent a bydd yn cael ei gyflwyno'n fyw yng ngwarchodfa’r RSPB neu'n cael ei gynnig yn yr ystafell ddosbarth i ysgolion lleol nad ydyn nhw’n gallu ymweld â'r safle.

Bydd pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i hanes lleol a'r amgylchedd. Ar ben hyn, bydd yn datblygu eu sgiliau rhyngbersonol, ysgrifennu creadigol a chyflwyno, ac yn gwella eu hyder a'u gwydnwch.

Project lead

Marisa Casanova Dias

Marisa Casanova Dias

MRC Clinical Research Training Fellow, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
casanovadiasm@caerdydd.ac.uk

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission