Prosiectau 2024
Prosiectau gyflwynwyd ar draws Preifddinas Rhanbarth Caerdydd yn 2024.
Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF)
Gyda chefnogaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, crëwyd y Gronfa Dilyniant Cenhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau peilot gyda phartneriaid allanol, ac i brofi dichonoldeb ymgysylltu dinesig neu gyhoeddus ar y cyd ar draws y rhanbarth.
Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP) - Cronfa Arian Sefydlu
Mae Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP), sy'n cynnwys 10 sefydliad addysg bellach ac uwch ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn cydweithio ar weledigaeth a rennir i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu cymunedau, lleihau anghydraddoldebau cymdeithasol a gwella lles. Sefydlodd SWCEP Gronfa Arian Sefydlu ar gyfer prosiectau ymgysylltu dinesig o fewn Rhanbarth Dinas Caerdydd. Cydweithiodd prosiectau a dderbyniodd gyllid gyda sefydliadau o'r bartneriaeth i ehangu effaith pob prosiect ar draws y rhanbarth.