Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin sgyrsiau yn y gymuned

Meithrin deialog yn y gymuned, ymgysylltu sifil, grymuso ac eirioli yn Butetown

Mae'r prosiect hwn yn dod â chymunedau Butetown ac Ysgol y Gyfraith ynghyd drwy gyfres o sgyrsiau wedi'u curadu yng nghwmni awduron o Pluto Press ochr yn ochr â modiwlau dysgu sifig sydd oll yn rhan o Gyfraith yr Economi Newydd (New Economy Law).

Bydd y bartneriaeth yn creu’r lle i bobl greu deialog yn y gymuned, ymgysylltu ar sail sifil yn ogystal â chymryd rhan yn y grymuso a’r eirioli sy’n rhan o Gyswllt Butetown, sef grŵp o oedolion ifanc o gefndiroedd difreintiedig sy'n cefnogi ffyniant bro eu cymuned.

Bydd y gweithgareddau'n rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r arferion sydd eu hangen ar aelodau Cyswllt Butetown i drafod a gwerthuso gwaith pedwar awdur radical Pluto Books drwy ganolbwyntio ar y materion sy'n bwysig i bobl yn ne Caerdydd.

Bydd hyn yn cynnwys datblygu “Modiwlau Dysgu Sifig” drwy ddefnyddio methodoleg o ddysgu ar y cyd a elwir yn “fwrdeistrefoli cydryddhaol” (co-liberatory municipalism).  Un o ddibenion allweddol y curadu hwn yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb sefydliadol sy'n digwydd pan fydd cymunedau'n cael eu trin fel pa baent ond yn fuddiolwyr yn hytrach nag yn ddysgwyr cyfwerth ac yn ddinasyddion cyfartal.

Arweinydd y prosiect

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission