Ewch i’r prif gynnwys

ENGINmakers: Dychmygu dyfodol disgleiriach gyda'n gilydd

Gweithio gydag ysgolion i ddylunio, creu a dod o hyd i atebion i broblem gan ddefnyddio deunyddiau hygyrch.

Ystyr peirianneg yw defnyddio sgiliau technegol (gwyddoniaeth, mathemateg, cyfrifiadura a mwy) i ddod o hyd i atebion i broblemau. Dwy her hynod bwysig mae’r gymdeithas yn eu hwynebu yw argyfwng yr hinsawdd a'n hiechyd byd-eang. Mae’n rhaid inni yn y genhedlaeth nesaf feddu ar y sgiliau priodol i allu helpu i ddod o hyd i atebion i'r problemau hyn.

Mae prosiect ENGINmakers yn dod â myfyrwyr ac academyddion o’r Ysgol Peirianneg ac athrawon o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol ynghyd i ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau i blant ysgol. Nod y prosiect yw dal diddordeb y plant trwy ddylunio gweithgareddau sy'n eu hannog i fod yn 'wneuthurwyr', sef dylunio ac a dod o hyd i atebion i broblem gan ddefnyddio deunyddiau hygyrch.

Yn y cynllun peilot hwn, bydd y prosiectau'n seiliedig ar blatfform micro:bit y BBC, sef bwrdd cylchedau rhaglenadwy bach a rhad sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth mewn ysgolion ledled y DU. Gan weithio gyda'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, mae'r prosiect hwn yn pontio'r bwlch rhwng ymchwil yn yr Ysgol Peirianneg ac addysg gynradd ac uwchradd yn yr ardal leol a thu hwnt.

Arweinydd y prosiect

Dr Daniel Gallichan

Dr Daniel Gallichan

Lecturer in Medical Imaging

Email
gallichand@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0045

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission