Ewch i’r prif gynnwys

Nadroedd ac Ysgolion

Adnodd hyfforddi i'w ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan wasanaethau'r awdurdod lleol

Yn rhan o brosiect ehangach wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sydd wedi sicrhau arian cyfatebol gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Cyngor Castell-nedd Port Talbot, cafodd Echo Games CIC ei gomisiynu gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol i ddatblygu prototeip o gêm. Y bwriad yw y bydd ymarferwyr yn defnyddio’r gêm hon wrth weithio gyda phobl ifanc sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n cael eu cefnogi gan y system cyfiawnder ieuenctid. Nod y gêm yw helpu i gychwyn sgyrsiau, hyrwyddo myfyrio i gefnogi ymddygiad rhag-gymdeithasol a chyfeirio pobl ifanc at gymorth priodol.

Ar ôl creu'r prototeip ar y cyd â phobl ifanc ac ymarferwyr o awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot, mae'r prosiect hwn bellach yn ymchwilio i’r gallu i fasnacheiddio’r gêm er mwyn cynyddu ei heffaith ac ehangu ei chyrhaeddiad i awdurdodau lleol a defnyddwyr gwasanaethau eraill.

Mae'r prosiect hwn yn cefnogi cam nesaf y gwaith drwy ymchwilio i’r angen amdani yn y farchnad ymhlith ymarferwyr a phobl ifanc, gan gynnwys unrhyw addasiadau y byddent am eu gweld i ddiwallu eu hanghenion. Bydd asesiad annibynnol o’r farchnad yn sail i’r gwaith o ddatblygu’r gêm ac yn rhoi tystiolaeth i arianwyr o’r manteision pellgyrhaeddol y gellir eu sicrhau drwy fuddsoddi ynddi a’i chefnogi.

Arweinydd y prosiect

Dr Helen Hodges

Dr Helen Hodges

Research Associate, CASCADE

Email
hodgesh@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0870

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw rai o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission