Ewch i’r prif gynnwys

Presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer pobl â phroblemau iechyd parhaus yng Nghwm Taf Morgannwg.

Deall presgripsiynu cymdeithasol yn well a dod o hyd iddo.

Mae pandemig COVID-19 wedi cynyddu nifer y bobl ar restrau aros ysbytai ac mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig ystyried ffynonellau cymorth eraill i helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain.  Mae diddordeb cynyddol yn sut y gall 'presgripsiynu cymdeithasol' roi cymorth anfeddygol ar gyfer problemau iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi creu Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) arloesol sy’n cwmpasu nifer o feysydd. Bydd y gwasanaeth yn rhoi hyfforddiant a phresgripsiynu cymdeithasol i bobl sy'n cael eu hatgyfeirio o ofal sylfaenol, a hynny i geisio gwella iechyd pobl, atal y broses o ddirywio tra’n aros am adolygiad yn yr ysbyty neu ddileu'r angen am hyn hyd yn oed.

Nod y prosiect hwn, dan arweiniad Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, yw cydweithio â phobl sydd ar restrau aros ar hyn o bryd i wybod eu barn a'u dewisiadau o ran gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol. Mae'r prosiect hefyd yn gwrando ar farn y bobl sy’n cymryd rhan i gasglu eu profiadau o effaith WISE drwy gynnal cyfres o weithdai a gweithgareddau celfyddydol.

Bydd adnoddau ar y cyd yn cael eu datblygu, gan gynnwys fideos byr, ffeithluniau, gweithiau celf yn ogystal â model lledaenu y bydd meddygfeydd lleol, sefydliadau'r trydydd sector a thîm WISE yn eu defnyddio i helpu pobl i ddeall presgripsiynu cymdeithasol yn well a sut i ddod o hyd iddo’n lleol. Bydd hyn yn llywio datblygiad y gwasanaethau yn y dyfodol.

Arweinydd y prosiect

Dr Freya Davies

Dr Freya Davies

Associate Academic Fellow

Email
daviesf9@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7226

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd i Bawb neu unrhyw rai o’r prosiectau rydym yn eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission